I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Bu'r Prifardd Ifor ap Glyn yn s么n am batrwm ei Sul arferol, ei fagwraeth yn Llundain ac wedyn ac am ei gyfnod yn Fardd Plant Cymru ar Raglen Dewi Llwyd ar 大象传媒 Radio Cymru fore Sul, Hydref 25, 2009.
Pedwerydd allan o dri!
Bu'n s么n hefyd sut y bu iddo ddechrau barddoni - gydag englyn anfuddugol!
"Mi wnes i gymryd yn fy mhen flynyddoedd lawer yn 么l fy mod am drio ar yr englyn yn Eisteddfod y Cymdeithasau yn Llundain.
"Doedd gen i mo'r syniad cyntaf sut i sgrifennu englyn ond mi ges i ryw lyfr o rhywle oedd yn esbonio'r rheolau a dyma fi'n mynd ati i sgwennu yr hyn oeddwn i'n tybio oedd yng englyn.
"Dwi'n meddwl imi ddod yn bedwerydd allan o dri! Ond gyda'r caveat eisteddfodol o Dalied ati."
Am ei gyfnod yn fardd plant Cymru dywedodd bod y cyfan "yn fymryn o embaras" i'w blant ei hun!
Mynychu'r capel
Wedi ei fagu yn Llundain byddai'n mynychu'r capel yno yn blentyn ond bu cyfnod wedyn o gilio ond mae'n awr wedi ailafael.
"Rhyw awydd i chwilio am rywbeth ydi o - fuaswn i ddim yn dweud fod gen i sicrwydd ffydd mawr na dim byd fel'na ond dwi'n teimlo mai dyna ydi'r ffordd i drio ymgyrraedd at y nod a dwi wedi bod yn mynd yn reit rheolaidd y blynyddoedd diwethaf.," meddai wrth Dewi Llwyd.
Wrth gymharu ei fagwraeth yn Llundain a magwraeth ei blant ei hun yng Nghaernarfon dywedodd:
"Mae rhywun yn creu ei Gymru lle bynnag mae rhywun."
Pwysigrwydd hanes
Bu'n s么n hefyd am ei waith yn gynhyrchydd a chyflwynydd teledu ac am y rhaglenni.
Gyda'i ddiddordeb arbennig mewn hanes dywedodd:
"Mae'n bwysig i ddweud y straeon yma. Dyda ni ddim yn cael gweld ein hunain dwi'n teimlo yn ddigon aml ar y cyfryngau. Y tu hwnt i Radio Cymru, y tu hwnt i S4C yr yda ni'n brin o gyfryngau yng Nghymru.
"Ychydig iawn o bobl sy'n darllen papur newydd yng Nghymru sy'n darllen papur newydd wedi ei gynhyrchu yng Nghymru ac fel da ni'n gwybod mae'r sylw mae papurau Llundain yn ei roi i Gymru yn fach iawn," meddai a hynny'n arwain at bobl yn ffurfio barn am eu gwlad eu hunain "mewn mymryn o faciwm".
Gwlad ddiffygiol
Ac wrth s么n am yr hyn sy'n ei wylltio am y Gymru sydd ohoni cwynodd:
"Nad oes yna fwy o bethau i adlewyrchu sut fath o bobl ydan ni . . . da ni'n wlad ddiffygiol iawn yn hynny o beth [yn] ein diwylliant print ni ac ar y teledu ac yn y blaen.
"Ac mae hyn efo sgileffeithiau mewn pob math o gyfeiriadau gwahanol wrth bwyso a mesur ein diwylliant ni. Mae'n anodd iawn cael adolygiad o unrhyw beth achos ychydig iawn o lefydd sydd yna sydd yn adolygu yn Gymraeg . . .
"Mae'n rhaid i rywun weld ei hun mewn drych. Os wyt ti'n dibynnu ar rywun arall i ddweud wrtha ti sut wyt ti'n edrych wel falle nad ydyn nhw'n rhoi darlun cywir iti ac mae yna ormod o hynny'n digwydd yng Nghymru," meddai.
Yn fwy calonogol dywedodd fod pethau syml fel y Gymraeg yn parhau mewn ardaloedd fel Caernarfon a lleoedd tebyg a chlywed ei blant ei hun yn chwarae'n naturiol yn y Gymraeg yn rhoi gwefr iddo.
"Mae clywed plant yn siarad Cymraeg . . . a gwneud hynny nid am fod rhywun wedi dweud wrthyn nhw neu am eu bod yn gorfod gwneud oherwydd ei fod yn bwnc yn yr ysgol . . . jyst clywed y peth yn gwbl naturiol," meddai.