大象传媒

Kate Roberts: trafod Te yn y Grug

Clawr argraffiad diweddar o Te yn y Grug gyda lluniau gan Jac Jones

A hithau'n hanner can mlynedd ers cyhoeddi gyda'r enwocaf o lyfrau Kate Roberts, Te yn y Grug bu'r Athro Derec Llwyd Morgan yn y trafod y llyfr gyda Dei Tomos ar ei raglen nos Sul ar 大象传媒 Radio Cymru.

Cyfres o straeon byrion ydi Te yn y Grug ond er mai'r ferch ifanc, Begw, yw'r prif gymeriad y "giari-dym" blaen ei thafod a'r un mor blaen ei moesau, Winni Ffinni Hadog, sy'n cael ei chofio'n bennaf o'r straeon.

Mae'n cael ei hystyried y ddoniolaf o holl gymeriadau Kate Roberts a'r hiwmor hwnnw sy'n gwneud y llyfr hwn yn nodedig ymhlith llyfrau'r awdur sydd wedi ei disgrifio yn Dywysoges ein Ll锚n.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Ac meddai Derec Llwyd Morgan:

"Yr yda ni'n cofio Te yn y Grug yn bennaf oherwydd Wini Ffini Hadog a'i phertynas 芒 dwy ferch fach arall yn Rhosgadfan a mam [un ohonyn nhw], Begw."

Ac ar sail Winni Ffini Hadog "nad anghofir amdani byth gan bobl fydd yn darllen llenyddiaeth Gynmraeg" dywedodd i De yn y Grug fod yn gyfarniad mawr i lenyddiaeth yn ei gyfanrwydd.

Aeth ymlaen i grynhoi'r cymeriadau:

"Mae Begw sydd yn weddol normal . . . yn ferch llawn dychymyg a ffansi a diddordeb ym mhob peth o straeon hen bobol hyd at be mae ei mam yn ei wneud yn y gein.

"Wedyn mae Mair y Gweinidog y drws nesaf wedi ei magu'n biwis o biwritanaidd, wedi ei bedyddio mewn starts a'i mam yn ei galw hi'n Chi.

"Ac wedyn mae gennych chi Winni Ffini Hadog yr athrylith atgas i bawb arall yn y pentref; ysbryd mentrus ond truanes ydi hi mewn gwirionedd ond mae ei thafod hi mor siarp a thafod Kate ei hun," meddai.

Datgelodd bod Winni yn greadigaeth yr oedd Kate Roberts yn hynod falch ohoni.

"Ac wedyn y tu 么l i'r merched yma mae gennych chi fam Begw. Ffigwr y ddelfrydedig fam. Mae Kate Roberts mewn aml i gyfrol, yn enwedig yn ei hunangofiant, yn s么n am ei mam hi'i hun ac ar lun ei mam hi'i hun mae'r Elin Gruffydd ma wedi cael ei llunio, does dim dwywaith - yn fenyw ddoeth, yn fenyw fedrus , mae hi'n lanwaith ac yn gaswir ei thafod ac yn cael y gorau ar bawb yn y llyfr."

Wrth drafod y cyferbyniaethau hyn mewn cymeriadau dywedodd ei bod yn anodd dweud gyda Kate Roberts a oedd hi'n eu creu ynteu oedden nhw'n dod yn naturiol iddi.

"Fyddai byth yn gwybod gyda Kate faint oedd hi'n gynllunio a faint oedd hi ddim," meddai.

"[Yn] rhai o'r straeon yma . . . mae dyn yn teimlo efo un neu ddwy . . . nad oes yna ddim byd ynddyn nhw ond Kate yn cofio am 'stalwm'.

Disgrifiodd y straeon am Winni fel "am fywyd" a Kate Roberts "yn dweud rhywbeth wrthym ni am economeg bywyd."

Yn ei straeon hefyd dywedodd fod yr holl synhwyrau ar waith o'r o'r blas sydd ar laeth enwyn i'r math o frodio sydd ar ffrog.

"Mae hin ymhyfrydu yn hyn yn ei holl lyfrau a stopiodd hi ddim tan y bu hi farw a dweud y gwir," meddai.

Cyfeiriodd hefyd at natur fydeang ei straeon er wedi eu lleoli mewn cwmwd bychan yn Arfon:

"Mae hi'n dweud yn rhywle y gall llenor sgriofennu am y byd wrth sgrifennu am ei bentref ef ei hunan. Mae hi'n adleisio rhyw Ffrancwr wrth ddweud hynny ond mae'n berffaith wir," meddai gan ddweud mai llyfr, neu nofel, yn werin deallus na chafodd gyfle i fynd yn ei blaen yw hi.

"Nofel am yr economi ydi hi yn y diwedd. Pe bydeech chi'n rhoi hon mewn shife, mewn gogor, ac yn shifio beth fyddai gennych chi ar 么l yn eich gogor fyddai rhyw ddweud mawr am economi druenus Arfon droad y ganrif. Dyna sydd yna yn y diwedd," meddai.

"A phe baech chi eisiau rhoi Te yn y Grug mewn patrwm, gallech fe allech ei rhoi yn y patrwm Rhosgadfan versus Dinbych neu Rosgadfan yn llecyn gwyn neu hefyd fe allech ei rhoi yng nghyd-destun y pethau yr oedd Kate Roberts yn eu sgrifennu am addysg.

"Yn y Dauddegau a'r Tridegau fe sgrifennodd Kate Roberts nifer o ddrm芒u . . . rhai ohonyn nhw yn ymwneud ag addysg ac addysg merched a'r ffaith nad oedd merched yn cael addysg er mor ddeallus oedd rhai ohonyn nhw.

"Mmae Begw yn befr o ddealltwriaeth a sensitifrwydd ond does yna ddim s么n amdani yn cael mynd i ysgol fawr . . . ond mewn rhai straeon eraill mae rhai o'r bechgyn yn cael mynd ac mae'r bobl yma sy'n methu cael dau ben llinyn ynghyd yn ffeidio rhai sylltau ychwanegol i anfon y bechgyn i'r ysgol ond y ferch mewn cymdeithas, Na.

"Beth sy'n rhyfedd yw bod Kate Roberts ei hun wedi cael mynd . Hi oedd yr eirthriad wrth gwrs. Hi gafodd fynd, nid ei brodyr."

Gorffennaf 2009

  • Prif lun:Rhan o glawr addasiad Mehefin 2007 o Te ar y Grug ar gyfer darllenwyr 12+ oed. Cyhoeddwyd gan UWIC, Caerdydd. Golygwyd gan Stella Gruffydd, Gruff Roberts. Darluniwyd gan Jac Jones.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.