Roger Boore
Beth yw eich gwaith?Awdur.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?Cyfrifydd siartredig, cyhoeddwr llyfrau Cymraeg (Dref Wen).
O ble'r ydych chi'n dod?Caerdydd.
Lle'r ydych chi鹿n byw yn awr?Yr Eglwys Newydd, Caerdydd.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?Do, ond nid yw wedi gorffen eto.
Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?Teitl: Taith i Awstralia.
Cyhoeddwyd: 2008 gan Dref Wen. Pris: 拢8.99. 192 tt o destun + 32 tt o luniau lliw. Crynodeb: Hanes taith a wnaeth fy ngwraig a minnau i gynefin fy nhad-cu yn Awstralia, cyn iddo ymfudo i Gymru; ein hanturiaethau difyr, doniol neu drychinebus, lleoedd a welsom, pobl a gwrddasom, tipyn am hanes y wlad ac eitha tipyn am Gymry a adawodd eu nod yno - er da neu er drwg.
Ymerodraeth y Cymry (straeon byrion); Y Bachgen Gwyllt (nofel i blant).
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?Llyfrau A. A. Milne am Christopher Robin.
A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?Byddaf.
Pwy yw eich hoff awdur?R. L. Stevenson, ar hyn o bryd.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?Y Beibl, sydd wrth wraidd ein gwareiddiad ac yn dylanwadu arnom i gyd, hyd yn oed os na fyddwn yn edrych arno.
Pwy yw eich hoff fardd?Horas; neu Waldo Williams.
Pa un yw eich hoff gerdd?Yr Odyseia.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?"Eheu, fugaces, Postume, Postume, labuntur anni ..." Tristwch am y blynyddoedd yn llithro heibio.
Pa un yw eich hoff ffilm neu raglen deledu?Y dyddiau hyn, "Con Passionate".
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?Hoff gymeriad: Maigret.
Cas gymeriad: Robert d'Artois, yn Les Rois Maudits.
"Pawb at y peth y bo."
Pa un yw eich hoff air?"Erbyn meddwl"
Pa ddawn hoffech chi ei chael?Y gallu i deithio mewn amser - yn enwedig yn 么l.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?Tad heiffen cu
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?Peidiwch gofyn!
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?"Anon", am fod yn wylaidd.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?Refferendwm 1997 - ac mi roeddwn i!
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?Unrhyw un, bron. Dywedwn, "Esboniwch ..."
Pa un yw eich hoff daith a pham?Y daith adref.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?Cinio Nadolig gyda'r teulu.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?Chwarae gyda'r wyrion a'r wyresau.
Pa un yw eich hoff liw?Gwerthfawrogaf bob un, a diolch am fedru eu gweld.
Pa liw yw eich byd?Lliw'r wawr a'r machlud.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?Tybed a fyddai'n well meddwl am ddeddfau i'w dileu?
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?Llyfr am deithiau yn Sbaen.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?"Hmmm ..."