大象传媒

Fflur Dafydd - ar y brig yn Awst '09

Rhan o glawr Y Llyfrgell

02 Medi 2009

Gorfod argraffu mwy i ateb y galw

Cynnyrch Eisteddfod Genedlaethol Y Bala sy'n hawlio'r tri lle cyntaf ar siart gwerthwyr gorau Cyngor Llyfrau Cymru mis Awst 2009 gyda nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen ar y brig.

Fe'i dilynir gan gyfrol 'Y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau' ac wedyn, yn drydydd, nofel y Fedal Ryddiaith gan Si芒n Melangell Dafydd.

Dywed y Lolfa i'r galw am gyfrol Fflur Dafydd, Y Llyfrgell, sydd ar y brig, fod gymaint y bu'n ei h rhaid adargraffu o fewn mis i'w chyhoeddi!

Disgrifiwyd y nofel gan un beirniad, Dafydd Morgan Lewis, fel "un o'r nofelau gorau i ennill Gwobr Goffa Daniel Owen erioed".

A chyda'r nofel ar ben siart mis Awst dywedodd meddai Garmon Gruffudd o'r Lolfa:

Fflur Dafydd yn siarad am ei nofel

"Mae'n wych cael cystal ymateb i nofel ac i weld y gwerthiant yn parhau - mae'n amlwg i'r gair fynd ar led fod hon yn nofel wirioneddol arbennig, ac yn haeddu'r clod a roddwyd iddi gan feirniaid y gystadleuaeth." Ychwanegodd bod galw mawr hefyd am nofel Saesneg Fflur Dafydd, Twenty Thousand Saints a enillodd Wobr Oxfam i awdur mwyaf addawol G诺yl y Gelli fis Gorffennaf.

Honno'n addasiad gyfrol fuddugol Cystadleuaeth Medal Ryddiaith Eisteddfod Eryri.

Ar hyn o bryd mae Fflur Dafydd yn awdur Preswyl ym Mhrifysgol Iowa yn yr Unol Daleithiau, lle bydd yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau yn cyflwyno'i gwaith yn ogystal 芒 darlithio i fyfyrwyr ar ysgrifennu creadigol.

Ar ei dychweliad i Gymru bydd yn cynnal sgwrs am ei nofel yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae'n ei gwatwar Tachwedd 27 yn Y Drwm.

Rhestr gyflawn Cyngor Llyfrau Cymru

  1. Y Llyfrgell - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009, Fflur Dafydd (Y Lolfa) 9781847711694 拢8.95

  2. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009 (Llys yr Eisteddfod) 9780955390111 拢8.00

  3. Y Trydydd Peth - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2009, Si芒n Melangell Dafydd (Gwasg Gomer) 9781848510906 拢6.99

  4. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Dilwyn Morgan, Dilwyn Morgan (Y Lolfa) 9781847710802 拢3.95

  5. Cribinion, Dafydd Wyn Jones (Gwasg y Bwthyn) 9781904845928 拢6.00

  6. Bro a Bywyd: W. S. Jones, gol. Ioan Roberts (Cyhoeddiadau Barddas) 9781906396190 拢11.95

  7. Cornel Aur, Manon Rhys (Gwasg Gomer) 9781848511064 拢7.99

  8. Y Tiwniwr Piano, Catrin Dafydd (Gwasg Gomer) 9781843239000 拢7.99

  9. Llythyrau'r Wladfa 1865-1945, Mari Emlyn (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845271329 拢9.95

  10. Y Ferch ar y Ffordd, Lleucu Roberts (Y Lolfa) 9781847711397 拢7.95

Llyfrau Plant

  1. Cyfres Lliw a Llun: Y Ci Robot, Frank Rodgers (Dref Wen) 9781855968387 拢4.99

  2. Cyfres Darllen Mewn Dim - Cam Rala Rwdins: Sgleinio'r S锚r, Angharad Tomos (Y Lolfa) 9780862438807 拢2.95

  3. Mr Penstrwmbwl a'r Ddraig Fach, Julie Rainsbury (Gwasg Gomer) 9781843234500 拢4.99

  4. Cyfres Darllen Mewn Dim - Cam y Dewin Doeth: Antur Fawr y Dewin, Angharad Tomos (Y Lolfa) 9780862438777 拢2.95

  5. Cyfres Darllen Mewn Dim - Cam y Dewin Doeth: Yr Ysbryd, Angharad Tomos (Y Lolfa) 9780862438760 拢2.95

  6. Ffrindiau Bach a Mawr: Cai a'r Octopws, Gwawr Maelor (Canolfan Astudiaethau Addysg) 9781845210441 拢2.25

  7. Dirgelwch yr Ogof, T. Llew Jones (Gwasg Gomer) 9780850884173 拢5.99

  8. Y Gryffalo, Julia Donaldson (Dref Wen) 9781855968318 拢4.99

  9. Cyfres Darllen Difyr: G锚m Cyfrifiadur, Mari Tudor (Awen) 9781905699414 拢2.99

  10. Cyfres Darllen Difyr: Nefi Bliw! Mari Tudor (Awen) 9781905699360 拢2.99


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.