大象传媒

Tachwedd 2010

02 Rhagfyr 2010

Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r llyfrau a werthodd orau yn ystod mis Tachwedd 2010

Y llyfr gyda'i luniau trawiadol gan yr actor Matthew Rhys sydd ar ben rhestr mis Tachwedd o werthwyr gorau Cyngor Llyfrau Cymru.

Mae'r llyfr dwyieithog Cymraeg a Saesneg, , Patagonia - Croesi'r Paith yn rhoi hanes Rhys ag eraill yn ail greu taith y gwladfawyr cynnar ar draws y peithdir anghroesawus nes cyrraedd yr hyn a alwyd ganddynt yn Gwm Hyfryd lle mae trefi Trevelin ac Esquel heddiw.

Mae'r lluniau yn wirioneddol drawiadol a'r llyfr yn dilyn rhaglen a ddarklkledwyd ar S4C am y fenter.

Fel mae'n digwydd, actor a diddanwr arall sy'n drydydd ar y rhestr. Ifan Gruffydd y ffermwr o Geredigion gyda'i gyfrol Pwy Faga Ddefaid.

O'i flaen ef ar y rhestr y mae cyfrol ysgafn arall, Hiwmor Pregethwr gan y Parchedig Goronwy Evans, Llambed, yn y gyfres Ti'n Jocan.

Gyda chymaint ohonyn nhw o gwmpas nid yw'n syndod bod tri hunangofiant ac un lled hunangofiant ar y rhestr, Felix Aubel, Hugh Griffith, Annette Bryn Parry a Peter Hughes Griffiths.

Er mor agos yw hi at y Nadolig mae'n syndod braidd mai dim ond un nofel sydd yna, a honno yw Creigiau Aberdaron gan Gareth F Williams.

Dyma'r rhestr gyflawn:

Gwerthwyr gorau Tachwedd

  1. Patagonia - Croesi'r Paith /Crossing the Plain, Matthew Rhys (Gwasg Gomer) 9781848511972 拢19.99
  2. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Pregethwr, Goronwy Evans (Y Lolfa) 9781847712837 拢3.95
  3. Pwy Faga Ddefed? Ifan Gruffydd (Y Lolfa) 9781847712899 拢4.95
  4. Bywyd ar Ddu a Gwyn - Hunangofiant Annette Bryn Parri, Annette Bryn Parri (Y Lolfa) 9781847712776 拢9.95
  5. Fy Ffordd fy Hunan - Hunangofiant Felix Aubel
  6. Hugh Griffith , Hywel Gwynfryn (Gwasg Gomer) 9781848512832 拢9.99
  7. Creigiau Aberdaron, Gareth F. Williams (Gwasg Gwynedd) 9780860742685 拢8.95
  8. O Lwyfan i Lwyfan - Hunangofiant Peter Hughes Griffiths, Peter Hughes Griffiths (Y Lolfa) 9781847712806 拢9.95
  9. Nain/Mam-gu (Gwasg Gwynedd) 9780860742678 拢5.95
  10. Lladd Duw, Dewi Prysor (Y Lolfa) 9781847712820 拢9.95

Llyfrau Plant

  1. Llyfr Bach Stori'r Nadolig, Maggie Barfield (Cyhoeddiadau'r Gair) 9781859946640 拢2.99
  2. Llythyr Arbennig Si么n Corn, Josephine Collins (Gwasg Gomer) 9781848512252 拢7.99
  3. Hwiangerddi, Elin Meek (Gwasg Gomer) 9781848511231 拢8.99
  4. Diwrnod Ben...digedig, Michael Morpurgo (Gwasg Gomer) 9781848512528 拢5.99
  5. Fy Llyfr Mawr Glas am Bopeth, Chez Picthall (Gwasg Gomer) 9781848511897 拢4.99
  6. Tair Dafad Fach, Rob Lewis (Gwasg Gomer) 9781848511903 拢5.99
  7. Nadolig Llawen/Merry Christmas, Glyn Saunders Jones a Gill Saunders Jones (Atebol) 9781907004193 拢3.99
  8. Peppa Pinc: Peppa'n Mynd i Wersylla (Rily Publications) 9781904357452 拢3.99
  9. Peppa Pinc: Llyfrgell Fach Stor茂au Tylwyth Teg (Rily Publications) 9781904357469 拢4.99
  10. Un Noson Oer, M. Christina Butler (Gwasg Gomer) 9781843238089 拢4.99
>

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.