Mae Diwrnod y Llyfr yn ddiwrnod fu'n cael ei ddathlu ers 15 mlynedd bellach.
Dros y blynyddoedd tyfodd yn ddiwrnod sy'n rheswm dros gynnal pob math o ddigwyddiadau yn ymwneud 芒 darllen a gwerthu llyfrau ar hyd a lled y byd.
Pymtheg mlynedd yn 么l UNESCO aeth ati i gydlynu y diwrnod arbennig hwn i ddathlu darllen a chyhoeddi ar draws y byd.
Prif hyrwyddwr y diwrnod yng Nghymru ydi Cyngor Llyfrau Cymru.
Dydd Iau cyntaf mis Mawrth yw Diwrnod y Llyfr bob blwyddyn ac elen, yng Nghymru, i mae gan yr awdures Si芒n Lewis o Lanilar, Aberystwyth achos dathlu wrth i'w nofel ddiweddaraf Sam, Y Capten a'r Siarc Od gael ei chyhoeddi.
Ymweld ag Ysgol Rhydaman ar Ddiwrnod y Llyfr a gweld plant yn eu gwisgoedd amrywiol wnaeth danio ei dychymyg i lunio'r nofel hon yng nghyfres Swigod a gyhoeddir gan Wasg Gomer.
Mae'r stori, yn addas iawn, wedi ei lleoli yn ysgol Llanllyfr lle mae cystadleuaeth Gwisgo fel Cymeriad mewn Llyfr.
Ond ac wrth i Sam Hopcyn gydio yn ei wasgod goch, ei bats llygad a'i het a gwisgo fel y m么rleidr enwog Barti Ddu, mae yna bethau digon rhyfedd yn digwydd.
Yn briodol iawn yn Ysgol Rhydaman y bydd Si芒n Lewis ar Ddiwrnod y Llyfr, Mawrth yng nghwmni sawl cymeriad diddordol o fyd llyfrau!
Llyfrau yn anrheg
Bu'r Cyngor Llyfrau yn annog yn 么l ei arfer ysgolion a llyfrgelloedd drwy Gymru gynnal digwyddiadau, gweithdai a gweithgareddau o bob math mewn cysylltiad 芒'r diwrnod.
A'r canlyniad yw y bydd pob math o ddigwyddiadau drwy Gymru yng nghwmni nifer o awduron amlwg.
Hefyd cyhoeddwyd cardiau post a phosteri yn annog pobl i ledaenu'r gair a rhoi llyfrau yn anrheg.
Er enghraifft rhoddodd Dafydd Du nofel Caryl Lewis, Naw Mis yn anrheg i Eleri Sion a chafodd yntau Hiwmor y Cofi ganddi hithau.
Rhoddodd Lucy Owen, Wales Today, lyfr ryseitiau Nerys Howell, Cymru ar Bl芒t yn anrheg i'w g诺r , Rhodri.
Derbyniodd Tudur Owen - PC Leslei Wynne - lyfr Dafydd Huws, Alias Myth a Jones: Comic gan y Dyn Dwad oddi wrth yr actor Iwan John.
A rhoddodd Tudir Pentigily gan Hefin Wyn i Iwan.
Yng Ngwynedd bydd nifer o gystadlaethau ysgrifennu ar gyfer ysgolion. Yn ysgol Heulfre yn Ninbych bydd yr awdur Malachy Doyle yn gweithio gyda disgyblion i drafod ysbrydoliaeth wrth ysgrifennu straeon.
Mae llyfrgelloedd ym mhob rhan o Gymru hefyd yn dathlu'r diwrnod arbennig , gyda nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal. Yng Nghonwy bydd darlleniadau arbennig ar gyfer plant ac oedolion gan awduron ac yma yng Ngwynedd cystadleuaeth i annog pobl i ddarllen yn fwy eang, gyda sesiynau arbennig ar gyfer plant oed meithrin.
Darllen a mwynhau
Meddai Elwyn Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau: "Mae Diwrnod y Llyfr bellach yn ddyddiad pwysig yn y dyddiadur a hoffem annog pawb i gymryd rhan yn y dathliadau ac i fwynhau darllen"
. Anfoniodd y Cyngor deng mil o gardiau post i ysgolion yn tynnu sylw at y diwrnod.
"Ac mae'r cynllun wedi cydio yn nychymyg yr ysgolion i'r fath raddau fel bod y Cyngor Llyfrau wedi gorfod ail argraffu pedair mil o gardiau post ychwanegol," meddai.
Y farn yw bod y cardiau post yn ffordd effeithiol iawn o ysbrydoli pobl ifanc i feddwl am ddulliau difyr a diddorol o siarad am lyfrau ac hefyd yn eu hannog i ddarllen mwy trwy wneud gweithgaredd cyffrous.
Ymweliadau
Trefnodd y Cyngor hefyd i gr诺p darllen gael ymweliad gan awduron, Catrin Dafydd a Fflur Dafydd gyda Chatrin yn ymweld 芒 gr诺p Saesneg a Fflur yn ymweld ag un Cymraeg.
Cyhoeddir enwau'r grwpiau ar Ddiwrnod y Llyfr
Yr un diwrnod bydd .y Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi canlyniad pleidlais ymgyrch Darllen Miliwn o Eiriau i fechgyn rhwng naw a 14 oed.
Nod yr ymgyrch oedd hybu llythrennedd ymhlith bechgyn trwy wahodd pob ysgol yng Nghymru i gynnal pleidlais ymhlith bechgyn rhwng 9 a 14 oed i ganfod eu pum hoff awdur neu eu pum hoff lyfr Cymraeg neu Saesneg.