大象传媒

Elis James - swyno Caeredin

Elis James

05 Medi 2011

Adolygiad Lowri Haf Cooke o sioe gomedi standyp Do You Remember the First Time gan Elis James, G诺yl Caeredin Awst 2011

Camp Caeredin dewin Caerfyrddin

Clwb Capel, M诺g Drwg a Jim Rosenthal. Tri thestun cwbl wahanol ddaeth ynghyd yng Nghaeredin fel rhan o sioe gomedi ddifyr dros ben.

Ers rhai blynyddoedd bellach gwnaeth y diddanwr o Gaerfyrddin, Elis James, dipyn o enw iddo'i hun ar y s卯n gomedi Brydeinig diolch i'w ddadansoddiad difyr o'i fagwraeth Gymreig.

Wnaeth meithrin perthynas broffesiynol gydag enwau cyfarwydd fel Chris Corcoran, Rhod Gilbert a Rob Brydon ddim drwg o gwbl ychwaith wrth sefydlu ei yrfa yng Nghymru a thu hwnt ond, yn y pendraw, mae diddanwr yn llwyddo neu'n "marw" ar lwyfan ar ei ben ei hun ac roedd cael ei ddethol fel rhan o daith gomedi Best of the Edinburgh Fest i Awstralia y llynedd yn brawf pendant iddo blesio yn un o wyliau comedi standyp pwysicaf y byd.

'Hit' a hanner

Roedd ei sioe yno 'leni - yng nghanolfan nodedig The Pleasence - yn hit a hanner gan greu argraff o'r cychwyn gyda sgwrs fyrfyfyr ag aelod o'r rhes flaen.

Llwyddodd ymateb chwim y Cymro i lais trawiadol yr Albanwr moel i blesio'r gynulleidfa a'r targed ei hun, gan ymlacio pawb a chreu awyrgylch chwareus a chyfeillgar am weddill y sioe.

Parhau i ddenu'r dorf i'w fyd wnaeth Elis James wrth egluro ambell gyfieithiad Cymraeg fel M诺g Drwg a Chigwrthodwr cyn rhannu profiadau ffurfiannol yng Nghaerfyrddin yr Wythdegau a'r Nawdegau.

Teitl awgrymog y noson oedd Do You Remember the First Time? ond o gofio mai enw ei sioe gynta yng Nghaeredin oedd The Most Cautious Little Boy in Wales nid syndod aruthrol oedd darganfod mai diniwed - ond hynod ddigri - oedd y rhan helaeth o'r profiadau hyn.

Trip cyntaf aflwyddiannus gyda'i dad i'r pwll nofio lleol, tagu ar Glacier Mint yn Theatr y Grand , ei gusan cynta yng nghlwb ieuenctid y capel, a'i lwyddiant ysgubol wrth ganu carolau yng nghanol mis Medi er enghraifft.

Eglurodd hefyd pam na ddylai unrhyw un wisgo sgidie dawnsio i wledd briodas nac, ychwaith, feiddio siarad 芒 chyflwynydd uchel ei barch tra'i fod yn brysur yn brecwasta ym Mryste.

Jim Rosenthal

Cyflwynodd y stori olaf gysylltiad y diddanwr gyda'r sylwebydd chwaraeon Jim Rosenthal a thros gyfnod o awr llwyddodd i ymestyn yr hanes yn grefftus tu hwnt a chynnig tro pur annisgwyl yn y gynffon .

Mae hi bron yn bedair blynedd ers i Elis James berfformio set fer yn y Gymraeg cyn cyngerdd MC Mabon yng Nghaerdydd.

Bryd hynny roedd hi'n amlwg fod na dalent aruthrol ar waith ac mae'r teithio parhaol o amgylch clybiau comedi Prydain wedi saernio stor卯wr a hanner, a pherfformiwr tan gamp.

Serch natur fympwyol ei hanesion, nid profiad cwbl hamddenol yw gwylio diddanwr o'r fath wrth ei waith. Mae Elis ei hun yn belen o egni nerfus sy'n meddiannu pob modfedd o'r llwyfan wrth ail-greu ei straeon , ond mae e'n llwyddo i swyno'r dorf gyda'i glyfrwch geiriol a llinellau ffraeth.

Perfformiadau

Gwnewch eich gorau i'w weld ar lwyfan yng Nghymru - mae awr yn ei gwmni yn sicr werth chweil.

  • Hydref 6 - Theatr Beaufort, Glynebwy
  • Tachwedd 17-19 Glee Club, Caerdydd
  • Rhagfyr 8-10, Glee Club, Caerdydd

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.