大象传媒

Gardd Gerdd Hudol Iori

Iori a Mali

12 Hydref 2011

Sylwadau am Gardd Gerdd Hudol Iori - sioe lwyfan i blant pump oed ac iau.

Gellir dweud bod gradd o lwyddiant yn perthyn i unrhyw beth a all ddal sylw criw o blant pump oed a llai am dri chwarter awr.

Yr oedd hynny'n sicr yn wir am y perfformiad o Gardd Gerdd Hudol Iori yn Theatr Colwyn, Bae Colwyn , heddiw.

Gyda thaith genedlaethol cwmni Tidli Prom ar gyfer plant dan bump oed yn prysur dynnu at ei therfyn bydd yn rhaid brysio nawr i ddal perfformiad - ac fe fyddai'n werth gwneud hynny.

O ran hyd - ac mae hynny'n bwysig ar gyfer yr oedran hwn - mae wedi ei amseru yn berffaith; tri chwarter awr go lew a neb yn anniddigo ac ystwyrian a holi am d欧 bach.

Rhyngweithiol yw'r gair a ddefnyddir i ddisgrifio'r sioe - ac yr oedd cyfle i'r plant fwrw eu hunain i'r hyn oedd yn digwydd ar y llwyfan ac fe wnaethon nhw hynny er, efallai, y gellid fod wedi gwneud mwy o hyn.

Roedd patrwm y cynhyrchiad yn syml ac yn effeithiol - treigl y tymhorau o'r haf i'r hydref, gaeaf, gwanwyn ac yn 么l i'r haf yng ngardd lysiau y garddwr Iori a'i ffrind, Mali trwy gyfrwng gair, c芒n, cerddoriaeth a meim.

Yr oeddem ni'n ffodus bod Y Dair Oed yn gyfarwydd 芒'r llyfr bwrdd, Hoff Le Sali Mali (Gomer. 拢4.99) lle mae treigl y tymhorau yn cael ei ddangos hefyd gan olygu bod cysyniad y perfformiad yn eglur yn syth.

Doedd stwna mewn gardd a hau hadau ychwaith ddim yn beth dieithr a hynny yn amlwg yn ychwanegu at y profiad theatraidd.

Ond ap锚l arbennig y cynhyrchiad i mi oedd y modd y priodwyd cerddoriaeth a 'drama' gyda thri offeryn, trwmped, tromb么n a tiwba yn rhan allweddol o'r perfformiad - ac mae s诺n tiwba, wrth gwrs, bob amser yn un sy'n goglais.

Defnyddiwyd y tri yn effeithiol iawn - gan dynnu'r tri offerynnwr i flaen y lwyfan ar adegau - i greu awyrgylch, i amlygu'r berthynas rhwng teimladau 芒 synnau cerddorol ac i oglais. Yr oedd yn addysg heb fod yn wers - fel gweddill y cynhyrchiad mewn gwirionedd.

Er bod temtasiwn yn rhywun i neidio am yr adwy o glywed geiriau fel addysgiadol, sgiliau ac yn y blaen yng nghyd-destun adloniant doedd dim angen pryderu yn yr achos hwn na fyddai hon yn ddim amgen na gwers ddosbarth mewn awyrgylch ychydig yn wahanol.

Ond er mwyn yr athrawon fydd yn darllen hwn mae'n werth dyfynnu'r disgrifiad swyddogol fel petai: "mae [y perfformiad] hefyd yn addysgiadol, yn dysgu sgiliau gwrando, cerddoriaeth, datrys problemau a gweithio mewn t卯m. Mae hefyd yn cyflwyno offerynnau pres cerddorfaol i blant blynyddoedd cynnar."

Cynhyrchiad wedi ei ddylunio'n arbennig gan d卯m Arts Active ar gyfer plant dan 5 oed Gardd Gerdd Hudol Iori ac yn 么l ymateb y 'gynulleidfa darged' yn llwyddiant.

Bydded mwy.
B H Evans

.

Gweddill y daith

Dyma weddill y daith a gychwynnodd yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd;

  • Hydref 13 Neuadd Dwyfor, Pwllheli 11.00. 01758 704 088
  • Hydref 14 Galeri, Caernarfon 11.00. 01286 685 222
  • Hydref 21 Neuadd Pentref Bodedern 11.00. 01248 725 700

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.