大象传媒

Gwenlyn Parry - barn y beirniaid

01 Mawrth 2011

Beth sydd gan y beirniaid i'w ddweud am ddram芒u Gwenlyn Parry

  • Dewi Z Phillips - Dram芒u Gwenlyn Parry, Gwasg Pantycelyn (1982):
    "Chwarae cystadleuol rhwng dynion sydd wedi eu goresgyn gan ddieithrwch: wedi'u dieithrio o ran cariad, gwaith a hyd yn oed o ran marwolaeth ei hun."

    "Mae llawer o'r hyn sydd ym mywyd y ddau gymeriad yn Y T诺r yn wamal... gellir dweud bod yr hyn sy'n bwysig yn cael ei amlygu trwy ei absenoldeb... Oni chyfyd trafferthion dwfn yn y briodas gan fod yr hyn sy'n wir bwysig yn absennol o'r briodas."

    "Onid yw'r ddau gymeriad ar goll ac wedi'u drysu? Dyna pam bod y T诺r, yn anad dim, yn ddrama am ddieithrio ym mywyd dyn."

    "Yr ystafell yn aros yn ddigyfnewid yn y b么n er bod y cymeriadau'n heneiddio... Mae popeth yr un peth am eu bod hwy yr un peth - ni allant ymroi i unrhyw beth sylweddol mewn gwirionedd am unrhyw gyfnod o amser."

    "Marwolaeth. Bydd popeth drosodd ryw ddydd - dyna'r pwynt. Ystyr y cyfan yw gollyngdod rhag yr hagrwch bl锚r."

  • Saunders Lewis - Rhagymadrodd Y T诺r, Gwasg Gomer (1979).
    "...bardd o ddramaydd, sy'n cogio bod yn ddyn y 大象传媒 yw ef. Ac y mae ei rhuthmau ef yn gofyn cryn graffter yn ei actorion."

    "Fe wyr Mr.Parry sut i glymu'n un ei lwyfan a'i gynulleidfa, ond na thybied neb mai poblogrwydd yw ei nod. Araf hefyd y dylid darllen ei ddrama; nid rhaid brysio; nid oes dim yn digwydd ond byw a'i boen."

  • Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru - Gol. Meic Stephens Gwasg Prifysgol Cymru (1986)
    "Er bod ei arddull yn anllenyddol o'i gymharu 芒 dramodwyr cyfoes Cymraeg, profodd fod ganddo glust ardderchog ar gyfer deialog a thafodiaith."

  • Bob Roberts - Y Faner (1978)
    "Camp Gwenlyn Parry yw iddo lwyddo i greu alegor茂au o arwyddoc芒d oesol allan o ferw ei brofiadau preifat."

  • Gwynne Wheldon Evans - Y T诺r: Pedair Trafodaeth ar y Ddrama, Astudiaethau Theatr Cymru: Rhif 8
    "Cawn yr argraff fod y ddau gymeriad yn rhydd i wneud a dweud yr hyn a fynnant yn y rhannau sy'n portreadu digwyddiadau yn eu bywyd bob dydd. Maent hwy'n credu hyn hefyd. Y ffaith amdani yw eu bod yn gaeth i ryw gynllun neu b诺er sy'n eu cymell i symud o stafell i stafell o fewn y twr. Mae'n ymddangos, felly, eu bod yn cael eu rheoli gan y p诺er hwn sy'n dangos ei rym a'i ddylanwad ar yr adegau pwysig, allweddol sy'n ffurfio eu tynged, sef adegau'r symud o stafell i stafell."

  • William R.Lewis - Gwenlyn Parry a Theatr yr Abswrd: Pedair Trafodaeth ar y Ddrama, Astudiaethau Theatr Cymru: Rhif 8
    "Er bod Gwenlyn Parry yn awgrymu fod bywyd y ddeuddyn yn Y T诺r yn wag, yn ddiystyr, yn 'abswrd' hyd yn oed, teimlir fod yma feirniadaeth ar eu cyflwr hefyd... Beirniadaeth sydd yma ar gymdeithas sy'n peri fod dau unigolyn yn profi'r fath wacter a diwiethrwch. Moesolwr yw'r dramodydd... Yr hyn a wnaeth Gwenlyn Parry oedd mabwysiadu rhai elfennau gweledol Theatr yr Abswrd er mwyn rhoi cyffro dramatig i'w ddram芒u."

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.