大象传媒

Gwenlyn Parry - bywgraffiad

Llechen goffa yn neiniolen

  • Ganwyd yn 1932 yn Neiniolen, neu Llanbabs fel yr oedd ef a thrigolion yr ardal yn galw'r pentref. Chwarelwr yn chwarel Dinorwig oedd ei dad gyda bywyd yn galed i deulu a oedd yn brwydro'n barhaus yn erbyn tlodi. Mae nifer o feirniaid llenyddol yn gweld olion yr ofn hwnnw, a oedd yn fygythiad parhaol, yn ei ddram芒u.


  • Yn 1939 aeth ei dad i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd a dechreuodd ei fam weithio mewn ffatri yn Llanberis. Hi oedd yn gwisgo'r trowsus yn y cartref felly, ac mae merched dram芒u Gwenlyn yn rhai cryfion.


  • Cafodd ei addysg yn Ysgol Gwaun Gynfi lle pasiodd y sgolarship i Ysgol Ramadeg Brynrefail. Yn yr ysgol roedd yn mwynhau gwyddoniaeth.


  • Yr oedd yn 13 pan ddaeth ei dad adref o'r rhyfel.


  • Yn ddiweddarach ymunodd Gwenlyn 芒'r RAF i gyflawni ei wasanaeth milwrol gorfodol. Yn anghytuno 芒 rhyfel yn dilyn holl hanesion erchyll ei dad treuliodd ddwy flynedd yn nyrs yn adran feddygol yr RAF. Dywedodd i'r cyfnod hwn yn nyrs fod o help iddo ysgrifennu Poen yn y Bol, Y T诺r a Sal gan iddo weld sut yr oedd pobl yn teimlo pan oedden nhw mewn poen. Hefyd cafodd yr wybodaeth feddygol angenrheidiol.


  • Wedi iddo ddychwelyd adref o'r RAF aeth i'r Coleg Normal ym Mangor i'w hyfforddi'n athro. Yno ymddiddorodd yn y ddrama, nid fel sgwennwr ond fel actor a chynhyrchydd.


  • Tra'r oedd yn y coleg hefyd y dechreuodd Richard Jones, ei gyn brifathro yn Ysgol Gwaun Gynfi, ei hyfforddi i fod yn bregethwr cynorthwyol. Efallai mai dyma eginfa y gwersi moesol yn ei ddram芒u sy'n peri i feirniaid weld ystyr grefyddol iddyn nhw.


  • Yn athro Mathemateg yn Llundain daeth yn fwy cyfarwydd 芒 byd y theatr a threuliodd lawer o'i amser hamdden yn y West End. Dechreuodd hefyd ymh茅l 芒 Chwmni Drama'r Gymdeithas Gymreig yn Llundain lle daeth i gysylltiad 芒 rhai fel Ryan Davies a Rhydderch Jones. Hefyd, bu'n arwain nifer o nosweithiau llawen yma.


  • Wedi pedair blynedd, gadawodd Lundain i ddysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, lle bu'n dysgu gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.


  • Tra'n byw yng Nghaernarfon daeth i adnabod Huw Lloyd Edwards a fu'n ysbrydoliaeth fawr iddo. Ef a'i perswadiodd i anfon ei ddrama gyntaf, Y Ddraenen Fach, i gystadleuaeth drama fer Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor yn 1961 lle daeth yn gydradd gyntaf.


  • Yn ddiweddarach perswadiodd Huw Lloyd Edwards ef i ysgrifennu drama hir. Comisiwn gan Elis Gwyn a Wil Sam o Theatr y Gegin, Cricieth, a barodd iddo fynd ati i ysgrifennu Saer Doliau.


  • Yn y cyfamser bu'n actio a chynhyrchu yn Theatr Fach Eryri lle daeth dan ddylanwad John Gwilym Jones.


  • Hefyd roedd yn cynhyrchu drama flynyddol yn ysgol Dyffryn Ogwen lle'r oedd erbyn hyn yn athro.


  • Yn 1966 ymunodd 芒'r 大象传媒 yng Nghaerdydd i sefydlu adran sgriptiau. Dyma gyfnod cyfresi fel Fo a Fe a chychwyn Pobol y Cwm a'r ffilm Saesneg, Grand Slam.


  • Enillodd lawer o wobrau gan gynnwys pedair gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr Cyngor y Celfyddydau yn 1967 a gwobr yng Ng诺yl Ddrama Ryngwladol Dundalk yn Iwerddon yn 1977.


  • Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf 芒 Joy o Bontyberem ac wedyn ag Ann Beynon. Yr oedd dau blentyn yn y ddwy briodas.


  • Bu farw ar Dachwedd 5 1991 ac fe'i claddwyd ym mynwent Macpela, Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle.

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.