大象传媒

Gwenlyn Parry - y casgliad cyflawn o'i ddram芒u

Gwenlyn parry ar glawr y llyfr

  • Adolygiad Catrin Jones o Dram芒u Gwenlyn Parry, y Cagliad Cyflawn. Gwasg Gomer. 拢19.95. Awst 2001.

Dyma ddramodydd pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg diweddar a syndod i mi wrth fynd ati i ddarllen ei waith ychydig flynyddoedd yn 么l oedd darganfod mor anodd oedd dod o hyd i gop茂au.

Roedd y dram芒u cynharaf allan o brint a dim ond o fod yn ddigon ffodus i ddod ar eu traws mewn llyfrgell yr oedd modd eu darllen.

Does dim rhaid poeni mwyach oherwydd dyma gasgliad newydd sbon o'i holl ddram芒u.

Cyhoeddwyd y gyfrol i nodi dengmlwyddiant marwolaeth Gwenlyn Parry ar ddiwrnod Guto Ffowc 1991.

Ar y tudalennau cyntaf ceir rhagymadrodd priodol iawn i gyfrol o'r fath gan Annes Gruffydd.

Hoelio sylw

I ddechrau mae'n mynd ati i s么n am Gwenlyn y dyn:

"Dyna lle byddai o'n ista - yn llygad sylw'r cwmni, nid am ei fod yn hawlio sylw ond am ei fod yn hoelio sylw. Efo'i lais mwyn, tawel, a'i fwstas walrys, gan sychu'i wyneb 芒'i law, yn llwyr o'i dalcen i'w 锚n, fel pe bai'n sychu atgof gwneud drygau enbyd ddigywilydd."

Clawr y llyfr

Rydw i'n hoffi'r ffaith ein bod ni'n cael ein cyflwyno i'r dramodydd fel person o gig a gwaed ar y dechrau fel hyn, wedi'r cwbl mae deall personoliaeth yr awdur yn bwysig er mwyn deall ei waith. Mae'r elfen bersonol yn effeithiol hefyd am mai cyfrol i goff谩u yw hon.

Doliau go iawn!

Mae Annes Gruffydd yn mynd ati wedyn i drafod ei waith. Cawn wybod mai gweld rhes o ddoliau ar silffoedd Woolworth a ysbrydolodd Gwenlyn i ysgrifennu Saer Doliau ac mai rhoi lifft i weinidog anghyffredin a ysbrydolodd Y Ffin.

Mae hefyd yn pwysleisio mai lluniau sy'n bwysig yn nram芒u Gwenlyn. Y delweddau sy'n aros; "dram芒u ydyn nhw nid i'r pen ond i'r galon a'r glust a'r llygad."

Dylid cadw hyn mewn cof wrth ddarllen y gyfrol.

Rhagymadrodd teilwng iawn i un o brif ddramodwyr Cymru gan lwyddo i drafod sawl elfen o fywyd a gwaith Gwenlyn Parry ac ar yr un pryd ennyn chwilfrydedd ynom ni'r darllenwyr a'n hannog i ddarllen ymhellach a mwynhau.

Fel y'u sgrifennwyd

Mae'r dram芒u wedyn eu gosod yn gronolegol gan ein galluogi i weld y datblygiad yng nghrefft a them芒u'r dramodydd.

Y dram芒u byrion a geir i ddechrau, Hwyr a Bore, Y Ddraenen Fach a Poen yn y Bol nad ydynt mor adnabyddus 芒'r gweddill ond mae dawn Gwenlyn fel dramodydd i'w weld yn amlwg yma yn y modd y mae wedi llunio'r cymeriadau a'r ddeialog naturiol.

Portreadu dynoliaeth?

Wedyn fe'n tywysir i weithdy'r Saer Doliau, ei ddrama fawr gyntaf.

Yma, mae Ifans yn gweithio'n hapus gan ei feioFo yn y seler am bopeth aiff o'i le a ffonio'r Giafffar i ofyn am gymorth.

Gellir dadlau mai portread o'r ddynoliaeth a geir yma ac mai dynion yw'r doliau sy'n cael eu trin gan y saer ac yntau yn galw ar Dduw am gymorth.

Ond a oes rhywun y pen arall i'r lein ff么n?

Caban ar dywod

Caban wedi'i adeiladu ar dywod yw lleoliad y ddrama nesaf, T欧 ar y Tywod.

G诺r y T欧 sy'n byw yma ac o gwmpas ei gartref mae ffair enfawr a'i gaban ef yn rhwystr i 糯r y Ffair ehangu ei diriogaeth.

Ar ddiwedd y ddrama mae G诺r y T欧 yn gorfodi G诺r y Ffair i gyfnewid dillad ag ef ac felly mae 糯r y T欧 yn troi'n 糯r y Ffair.

Cyfleu'r ddynoliaeth eto yn ysu am rym a'i materoldeb ac fe ddaw'r gynulleidfa'n rhan o ffair bywyd ar ddiwedd y ddrama.

Rhwng hen ac ifanc

Caban yw lleoliad Y Ffin hefyd ond y tro hwn ar ochr mynydd. Ceir tyndra rhwng yr hen a'r ifanc wrth i Wilias yr hen wr geisio cyd fyw 芒'i gyfaill ifanc Now.

Mae dyfodiad y ferch i'r caban yn chwalu'r berthynas gan arwain at adeiladu ffin drwy ganol y cwt.

Darlunio'r berthynas rhwng dau berson a wneir yn Y T诺r hefyd, ond y tro hwn perthynas g诺r a gwraig.

Portread o daith bywyd a geir yma wrth i'r ddau ddringo'r twr hyd angau. Gwelwn hwy'n heneiddio ac mae'r dieithrwch yn amlwg ac yn cynyddu wrth iddyn nhw ddringo.

Dirgelwch Sal

Drama wedi'i seilio ar ddigwyddiad hanesyddol yw Sal am ferch ifanc yn byw am gyfnod hir heb fwyd.

Llys barn yw'r lleoliad a cheir erlynydd ac amddiffynnydd sy'n symbol o'r crediniwr a'r anghrediniwr.

Y gynulleidfa yw'r rheithgor ac wedi marwolaeth y ferch ar ddiwedd y ddrama y ni sydd i benderfynu ai gwyrth neu gelwydd oedd y cyfan.

Drama ar ddwy lefel

Mae gan y gynulleidfa ran allweddol yn Panto hefyd, drama olaf y gyfrol a dawn Gwenlyn fel dramodydd wedi datblygu'n llawn ac, yn fy marn i, y ddrama orau o ran technegau theatrig.

Mae yma ddrama ar ddwy lefel, y llwyfan panto a'r ystafell wisgo gyda'r cyd chwarae rhwng y ddau yn gweithio'n berffaith i gyfleu emosiynau a bywydau'r prif gymeriadau. Mae llawer o eironi a hiwmor yn deillio o'r berthynas hon.

Dyma ddrama wych i gloi casgliad arbennig o ddram芒u symbolaidd gan ddramodydd a fentrodd i fyd newydd lle roedd y ddrama Gymraeg yn y cwestiwn, byd Samuel Beckett a'i debyg.

Dyma gyfrol gwerth ei darllen. I rai sydd eisoes yn gyfarwydd 芒 gwaith Gwenlyn Parry mae'n gyfrol sy'n werth ei chael ar y silff lyfrau, ochr yn ochr 芒'r ddwy gyfrol swmpus o waith Saunders Lewis.

Dywed Annes Gruffydd amdano fel stor茂wr ei bod "hi'n hyfrydwch clywed stori fwy nag unwaith" ac mae hyn yn wir am ei ddram芒u hefyd. Dram芒u i'w darllen a'u mwynhau dro ar 么l tro.

I'r rhai nad ydych wedi darllen y dram芒u o'r blaen dwi'n sicr na chewch chi mo'ch siomi oherwydd dyma awdur sy'n deall posibiliadau'r theatr ac yn feistr ar iaith a deialog.

Un o ddramodwyr mwyaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif.

Cyhoeddwyd yr adolygiad hwn gyntaf yn 2001.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.