大象传媒

Astudio - Beth yw drama?

Masgiau

Beirniaid llenyddol yn dweud beth yw hanfodion drama dda.

  • Heb wrthdaro nid oes drama - Dr John Gwilym Jones, Swyddogaeth Beirniadaeth


  • Nid oes drama heb bobl. Canolbwynt pob gweithred ddramatig a phob gwrthdaro yw perthynas pobl 芒'i gilydd - Beirniad Anhysbys.


  • Yn gyffredinol mae dramodwyr modern wedi ceisio herio rheswm, ein harferion cymdeithasol a'r hyn a gymerwn yn ganiataol yn foesol a materol - Ioan Williams mewn darlith yn Nant Gwrtheyrn.


  • Mae'n un o amodau crefft dramodydd da ei fod yn dyfeisio personoliaethau yn hytrach na chymeriadau - mewn geiriau eraill fod ei bobl yn bobl gymhleth - Dr John Gwilym Jones, Swyddogaeth Beirniadaeth.


  • Dangos dyn fel y mae yn y byd hwn, yn ei drafferthion, ei ychydig wynfyd, ei ansicrwydd, ei ofn a'i ofid, ei chwerthin a'i ysmaldod, ei flinder, ei dranc; dyna fusnes y ddrama yn gyffredin - Saunders Lewis, Meistri a'u Crefft.


  • Nid rhyddiaith llyfr yw iaith rydd drama. Y mae rhythmau clywadwy a miwsig llafar o angenrheidrwydd yn ofynnol yn y theatr - Saunders Lewis, Tri Dramaydd Cyfoes.

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.