大象传媒

Gwenlyn Parry - y dram芒u

17 Chwefror 2011

Crynodeb o ddram芒u Gwenlyn Parry

Y Ddraenen Fach (1961)

Drama gyntaf Gwenlyn Parry. Roedd yn gydradd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961.

Mae pedwar milwr Cymraeg yn cuddio yn seler t欧 wedi ei fomio rywle ar arfordir Affrica noswyl Nadolig 1942. Mae'r tensiwn yn amlwg wrth iddyn nhw ddelio 芒'r sefyllfa mewn gwahanol ffyrdd gydag un yn awyddus i geisio dianc.

Mae tro annisgwyl yn niwedd y ddrama pan ddaw Almaenwr i'r seler. Y neges yw mai dynion o gig a gwaed ydym i gyd, beth bynnag ein cenedl.

Hwyr a Bore (1964)

Drama fuddugol un act Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964, am deulu yn un o bentrefi chwarelyddol Gogledd Cymru.

Y pedwar cymeriad yw William, g诺r dros ei drigain oed, ei wraig Cadi a'i blant Marged a Dic sydd yn eu harddegau.

Amser brecwast, yn y gyntaf o ddwy olygfa, canfyddir mai dyma ddiwrnod cyntaf Dic yn ei swydd newydd mewn siop ddillad. Mae hynny'n achosi tyndra gan y byddai'n well gan William, sy'n cael trafferth dygymod 芒'i ymddeoliad ei hun o'r chwarel, pe byddai Dic wedi mynd i weithio i'r chwarel hefyd.

Yn yr ail olygfa, er mawr foddhad i'r tad, cyhoedda Dic ar ei ddychweliad o'i waith, iddo benderfynu mynd i'r chwarel wedi'r cwbwl. Llwyddir i gyfleu bywyd chwarelwyr, yr ofn a'r caledi.

Poen yn y Bol (1963)

Yr olaf yn ei driawd o ddram芒u byrion. Cyd fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1963.

Dan anasthetig mewn ysbyty mae meddwl Bili Puw yn crwydro i'r cyfnod pan oedd ef a'i wraig, Neli, yn blant. Wrth i Neli ddarganfod ei bod yn feichiog mae bywydau'r ddau yn newid dros nos. Mae'r ddau yn ffraeo'n ddi-baid a mam Bili'n poeni am y gwarth ar y teulu.

Atgofion cymysg a chymeriadau lliwgar sydd yna dan ddylanwad yr anasthetig a Bili yn destun gwawd hefyd fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel.

Ar ddiwedd y ddrama y cawn wybod mai cael tynnu ei bendics y mae Bili, gan roi mwy nag un ystyr i'r teitl, Poen yn y Bol.

Saer Doliau (1966)

Drama fawr gyntaf Gwenlyn Parry gydag elfennau o theatr yr abswrd ynddi. Drama hir mewn chwe rhan wedi ei gosod yng ngweithdy Ifans, y saer doliau.

Ar ddechrau'r ddrama mae Ifans yn ddyfal yn trwsio pentwr o ddoliau sydd wedi torri. Daw ymwelydd i'r gweithdy, merch ifanc, ac y mae hithau'n gwneud ei gorau i foderneiddio'r lle er mawr ofid i Ifans.

Yn y bedwaredd ran daw prentis i'r gweithdy gan amlygu'r tensiwn rhwng y ddwy genhedlaeth, gydag Ifans bron 芒 chyrraedd pen ei dennyn wrth i'r ferch a'r prentis darfu ar ei fyd a'i orfodi i fabwysiadu eu ffyrdd newydd nhw.

Mae Ifans fel petai'n ofni Y Fo sydd yn y seler a'r Fo hwn sy'n cael y bai am bopeth aiff o'i le. Mae'n ffonio'r Giaffar yn aml i ofyn cyngor a chwyno am Y Fo a'r prentis newydd ond ni ddywedir wrthym a yw'r Giaffar yn berson o gig a gwaed ynteu'n rhywun yn nychymyg Ifans.

Un dehongliad yw mai portread o'r ddynoliaeth sydd yma ac mai pobl yw'r doliau sy'n cael eu trin gan Ifans ac mai Duw yw'r Giaffar y mae Ifans yn galw arno am gymorth. Y gynulleidfa sydd i benderfynu a oes rhywun y pen arall i'r ff么n.

T欧 ar y Tywod (1968)

Perfformiwyd gyntaf yn 1968 gan Gwmni Theatr Cymru. Y ddau brif gymeriad yw G诺r y T欧 a G诺r y Ffair a'r lleoliad yw caban G诺r y T欧 ar draeth gyda rhan ohono wedi suddo i'r tywod. Ger y caban mae ffair sy'n ehangu'n gyflym ond y caban yn rhwystro datblygiad pellach.

Ac yntau'n methu dianc rhag s诺n bwrlwm y ffair yr unig beth sy'n cynnal G诺r y T欧 yw ei atgofion ond y mae plant y ffair yn ei wawdio am fod yn wallgof.

Mae'r gynulleidfa hefyd yn dechrau amau ei fod yn wallgof wrth iddo gludo delw y mae wedi ei dwyn o'r ffair i'r caban ar ddechrau'r ddrama, ac yn s么n wrth y ddelw am ei elyn pennaf, G诺r y Ffair. Er mawr synod mae'r ddelw yn troi'n ferch o gig a gwaed yn ystod y ddrama.

Yn fuan cyhuddir G诺r y T欧 o ddwyn y ddelw gan b芒r ifanc a daw G诺r y Ffair yno i'w orfodi i symud o'r caban.

Ond yn rhyfedd erbyn diwedd y ddrama mae pethau wedi troi wyneb i waered gyda G诺r y T欧 yn berchen y ffair.

Gellir dweud bod y ddau gymeriad yn cynrychioli'r ddynoliaeth yn ei brwydr am rym a materoldeb.

Y Ffin (1973)

Y Ffin oedd Drama Gomisiwn Eisteddfod Dyffryn Clwyd, 1973; drama ddwy act wedi ei lleoli mewn cwt bugail ar ochr mynydd.

Ceir ynddi dri chymeriad; Wilias, g诺r canol oed, Now, llanc ugain oed a dringwr, merch tua 30 oed.

Cymeriadau digon rhyfedd yw Now a Wilias gyda Wilias wedi prynu'r cwt a Now yn methu coelio iddo wneud peth mor ff么l pan w锚l gyflwr truenus y lle.

Wrth iddo gyhuddo Wilias o'i gamarwain cynydda'r tensiwn rhwng y ddau wrth iddynt geisio cyd-fyw.

Mae pethau'n gwaethygu pan yw'r ferch yn cyrraedd ddiwedd yr act gyntaf.

Erbyn yr ail act mae'r rhwyg rhyngddynt yn amlwg wrth i'r ddau fod am y gorau yn ceisio plesio'r ferch sy'n graddol ddinistrio'r berthynas rhyngddynt.

O'i herwydd hi ni all dau a oedd yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd ddioddef ei gilydd a thynnir llinell o baent yn ffin drwy ganol y cwt. Erbyn y diwedd mae pob math o bethau wedi eu gosod ar y ffin, stand hetiau, lein ddillad... wrth iddyn nhw wneud popeth o fewn eu gallu i dorri'r cysylltiad rhyngddynt.

Diwedda'r ddrama yn s诺n y ddau'n wylo yn y tywyllwch gan alw'n dorcalonnus ar y ferch.

Y T诺r (1978)

Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978 ac fel Y Ffin mae'n darlunio perthynas rhwng dau - y tro hwn perthynas g诺r a gwraig.

Cyfl毛ir taith bywyd y ddau wrth iddynt ddringo'r t诺r. Gwelir hwy yn heneiddio a'r dieithrwch rhyngddynt yn cynyddu wrth iddyn nhw ddringo.

Drama dair act yw hon gyda phob golygfa yn ystafelloedd y t诺r - yr act gyntaf yn yr ail stafell a'r ddau gymeriad yn ifanc. Defnyddir ffilm i ddangos lluniau ohonyn nhw yn blant yn chwarae ar lan y m么r cyn rhedeg i fyny'r grisiau i'r ystafell.

Mae hyn yn cyfleu mai ieuenctid yw'r stafell gyntaf a'u bod yn awr yn camu i gyfnod newydd yn eu bywydau. Mae'r ddau yn fywiog, hapus a llawn brwdfrydedd.

Mae newid erbyn yr ail act a'r ddau yn ganol oed. Geiriau cyntaf y wraig ydi, "Be 'ddiawl dwi'n 'i neud yn fan'ma?" a'r g诺r "Dwi wedi cael llond cratsh!". Dirywiodd perthynas y ddau a bu dieithrio.

Erbyn y drydedd act, hen 诺r a hen wraig yw'r ddau wedi yml芒dd ar 么l dringo'r grisiau dim ond i ganfod bod mwy fyth o risiau er iddynt gredu mai'r stafell hon oedd pen y daith. "Ond fan'ma 'di'r stafell ddwytha.....awn ni ddim o fan'ma....sdim isio blydi grisiau arall!" meddai'r hen 诺r.

Rhaid sylwi ar y defnydd o'r tr锚n yn y ddrama hon hefyd. Yn yr act gyntaf dywed y ferch ifanc, "Ma' 'na rwbath neis mewn s诺n tr锚n yn bell yn y nos!", ond erbyn yr ail act dywed "Ma 'na rwbath trist mewn s诺n tr锚n - 'mhell yn y nos".

Gorffen y drydedd act gyda'r hen wraig yn eistedd ar ei phen ei hun a'i geiriau olaf i gloi'r ddrama yw, "Tr锚n!" Delwedd gref i'n hatgoffa mai taith yw bywyd, taith gyflym sy'n dod i ben yn fuan. Taith sy'n ymddangos yn un hir a rhamantus i'r ifanc ond un sy'n cael ei hofni gan yr hen.

Sal (1980)

Perfformiwyd Sal am y tro cyntaf yn 1980, wedi ei seilio ar ddigwyddiad hanesyddol ac yn dra gwahanol i ddram芒u eraill Gwenlyn Parry.

Mewn achos llys gelwir tystion i'r presennol o 1869 a chyda goleuo effeithiol mae gwahanol rannau o'r llwyfan yn cynrychioli gwahanol leoliadau gan alluogi'r gynulleidfa i weld beth arweiniodd at yr achos llys.

Yn 1869 honnodd g诺r fod ei ferch, Sal, wedi byw am bron i ddwy flynedd heb fwyta gan ddweud iddi gael ei dewis gan Dduw. Er bod mam Sal, y ficer lleol a Dr Davies, meddyg y teulu, yn credu hyn hefyd, nid felly Dr Hughes, meddyg arall, a dwy nyrs a ddaeth i gadw llygad ar Sal.

Yn y diwedd mae Sal yn marw a hynny arweiniodd at yr achos llys gyda'r amddiffynnydd yn dadlau i Sal lwyddo i fyw heb fwyd ond yr erlynydd yn dadlau mai twyll oedd y cyfan.

Y gynulleidfa sydd i benderfynu pwy sy'n dweud y gwir ac a yw rhieni'r ferch yn euog o ddynladdiad.

Rhan o'r cyfarwyddiadau llwyfan yw: "Dylid chwarae'r ddrama yn ddidoriad fel nad yw'r gynulleidfa'n cael cyfle i sgwrsio 芒'i gilydd tan y diwedd."

Y gynulleidfa yw'r rheithgor sydd i benderfynu ai gwyrth neu gelwydd oedd y cyfan. Y cwestiwn, mewn gwirionedd, yw a ydym yn credu yn Nuw. Fel y dywed tad Sal:

"Ond nid ni sy yn y glorian...dach chi'n dallt pwy sy yn y glorian?"

Panto (1986)

Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun a'r Fro, 1986, oedd drama olaf Gwenlyn Parry a gellir dadlau mai dyma'i ddrama orau o ran technegau theatrig.

Y mae wedi ei gosod mewn theatr lle mae'r prif gymeriadau'n rhan o bantomeim Dick Whittington sydd i'w berfformio.

Prif gymeriad y ddrama yw Robat Deiniol sy'n cael perthynas 芒 phrif gymeriad y pantomeim, Sera sy'n rhoi pwysau arno i adael ei wraig.

Ni all Robat ddygymod 芒'r argyfwng hwn yn ei fywyd ac i wneud pethau'n waeth mae Sera'n feichiog.

Mae yma ddrama ar ddwy lefel, y llwyfan panto a'r ystafell wisgo.
Yn yr ystafell wisgo gwelwn ddrama bywyd Robat Deiniol ac mae'r cydchwarae rhwng y ddau leoliad yn gweithio'n berffaith i gyfleu emosiynau a bywydau'r prif gymeriadau.

Mae ein sylw ni'r gynulleidfa yn cael ei symud o'r naill i'r llall ac mae llawer o hiwmor ac eironi yn deillio o'r berthynas hon. Does dim dwywaith nad yw hon yn ddrama emosiynol sy'n cael ei hystyried yn fath o hunangofiant Gwenlyn Parry.

Ef ydi Robat Deiniol ac amlygir hynny orau yn araith Dressing Room One Robat Deiniol.

Pantomeim bywyd a geir yma ac ar ddiwedd y ddrama mae'r ddwy ddrama wedi asio'n un a Sera'n cerdded ar hyd y llwyfan nid fel Dick Whittington y tro hwn ond yn ei dillad ei hun - gan adael go iawn.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.