Atgofion George Owen
Cyn agor ei g诺ys ei hun ym myd y ddrama Gymraeg simsanodd Gwenlyn Parry rywfaint rhwng dau fath arall o ddrama yn 么l y cynhyrchydd, George Owen.
Dywedodd i Gwenlyn ymddiddori'n gynnar yn y theatr Kitchen Sink a darllen llawer ar weithiau dramodwyr fel John Osborne ac Arnold Wesker yn ogystal 芒 gweithiau Pinter a Ionesco a dramodwyr eraill yr abswrd.
"Dwi'n meddwl," meddai George Owen, "iddo simsanu rhwng y ddau am gyfnod ond yn y diwedd fe agorodd ei g诺ys ei hun, c诺ys newydd yn hanes y ddrama Gymraeg."
Dywed mai ei gyfaill agos, Huw Lloyd Edwards, oedd yr agosaf ato yn y Gymraeg.
"Yr oedd e'n bell iawn oddi wrth Saunders Lewis a John Gwilym Jones oedd yn ddramodwyr llawer mwy confensiynol," meddai.
Cydweithio'n bwysig
"Y fo oedd y cyntaf i ddod i mewn i uned sgriptiau newydd 大象传媒 Cymru ac ar ei 么l o daeth Meical Povey, Sion Eirian, Rhydderch Jones am gyfnod, T. James Jones, William Jones - yr oeddan nhw'n dylanwadu llawer iawn ar ei gilydd.
"Yr oedd cydweithio'n bwysig iddo fo ac yr oedd rhai o'i weithiau bron a bod yn gywaith, gyda'r ddrama deledu, Grand Slam, yn enghraifft arbennig o hynny."
Cadarnhaodd George Owen stori hefyd yngl欧n 芒 diweddglo Saer Doliau.
"Bu trafod mawr sut y dylai'r ddrama orffen ac yn y diwedd fe ddwedodd Gaynor Morgan Rees, 'Pam na chanith y teliffon?'
"Flynyddoedd wedyn pan oeddwn i'n ail wneud y ddrama ar gyfer y teledu gofynnais iddo fo a hoffai o gael diweddglo arall i'r ddrama. Ac yntau wedi cael blynyddoedd i feddwl, gwrthod wnaeth o.
"Mi 锚s i cyn belled 芒 recordio dau ddiweddglo ond roedd o'n bendant mai y teliffon yn canu oedd o eisiau. Er nad oedd o ddim yn gwybod pam 'chwaith."
Ychwanegodd: "Fe gafodd o goblyn o sioc pan oeddan ni'n gwneud T欧 ar y Tywod ar gyfer y teledu.
"Roedd yna fersiwn llwyfan ac un teledu, cast gwahanol, cynyrchiadau hollol wahanol. Y fi gynhyrchodd yr ymdriniaeth deledu ac mi g锚s i benrhyddid ganddo fo.
"Mi ddaeth i lawr i Gaerdydd i weld y ffilmio a gweld yr adeg honno beth fedrai'r cyfrwng ei gyfrannu - ac mi ddotiodd at hynny.
"Rhyddid ar raff oedd hi gyda Gwenlyn - mi wn芒i o gyfaddawdu efo rhai pethau."
Stwff bara menyn
"Gweithio'n ysbeidiol oedd o ac weithiau mi fyddai'n cael trafferth efo ambell bennod. Y wyrth oedd iddo wneud cymaint ag yntau'n cynhyrchu cymaint o stwff 'bara menyn' i'r teledu.
"Stwff 'bara menyn' da iawn, fel Fo a Fe, Tresarn a Pobol y Cwm.
"Roedd o'n berson efo llawer iawn o syniadau - roedd gynno fo ffrindiau tua Chaernarfon, fel Gwilym Pritchard, oedd yn arbrofi efo cynyrchiadau cyfoes iawn - way-out a dweud y gwir.
"Doedd llawer o'r syniadau yma ddim yn gweld golau dydd - gweld y gwaith gorffenedig oeddan ni."