Atgofion cyfaill
Cwmn茂wr, cymeriad, cyfaill. Dyna fel bydda i'n cofio Gwenlyn. A thros flynyddoedd o adnabyddiaeth ohono fe welais i'r tair agwedd yna ar eu gorau.
Fe dreuliais i oriau lawer yn seiadu efo fo a chriw o "eneidiau hoff cyt没n" ac fe fu'r gwmn茂aeth yma yn un o bleserau mawr bywyd. A Gwenlyn yn fwy aml na pheidio fyddai'r brenin yn y cwmni.
Stor茂wr heb ei ail
Roedd ganddo ddawn dweud straeon na welais ei thebyg. Fe deimlais i fwy nag unwaith y gallai fod wedi bod yn gystal actor ag oedd o ddramodydd.
Sawl gwaith, clywais i o yn deud stori amdano yn cael ei holi am ddigwyddiad ar y maes chwarae yn Ysgol Dyffryn Ogwen pan oedd o'n athro yno.
Y Prifathro oedd yn gwneud yr holi a Gwenlyn yn cael trafferth i esbonio rhai arwyddion a wnaed gan rai o'r plant efo'u dwylo. Pethau fel codi dau fys a rowlio bys ar ochr y pen.
Roedd hi'n glamp o stori ac y tynnu pawb i chwerthin. Hyd yn oed y rheiny fel fi oedd wedi ei chlywed lawer gwaith o'r blaen.
Dawn dweud
A beth am y saga arall honno am ei brofiad yn cael y "cyfweliad blynyddol" enwog efo un o Reolwyr ecsentrig y 大象传媒 yng Nghymru?
Erbyn diwedd y cyfweliad hwnnw 'doedd Gwenlyn ddim yn sicr pa un ai fo ei hun ai'r dyn tu 么l i'r ddesg oedd y 'Controlar' go iawn.
Ac eto'r st么r ddihysbydd yna o straeon gwreiddiol personol oedd yn ei wneud o'n gystal cwmn茂wr - 芒'r ddawn i'w dweud nhw wrth gwrs.
Nid rhyw lobstar gwirion
Roedd o'n gymeriad hefyd. Nid rhyw lobstar gwirion o gymeriad chwaith, ond dyn efo gwaelod iddo. Roedd ganddo safbwynt. Ac nid ar chwarae bach y gellid ei berswadio i blygu.
Fe welais i enghreifftiau o hynny ar amrywiol achlysuron gyda'i Gymreictod a'i genedlaetholdeb yn bethau oedd yn gwbl sanctaidd yn ei olwg. A gwae i unrhyw un ohonom ddweud gair i gyfeiriad arall.
Mi fyddwn i weithiau yn mynd ati'n fwriadol i ddweud rhywbeth carlamus y gwyddwn na fyddai yn ei blesio. Fyddwn i ddim yn gallu parhau'n hir i dynnu ei goes. Fe gawn wybod fy mod wedi deud digon ac mai gwell oedd tewi.
Pan ddiflannodd y Ddraig
Weithiau fe 芒i yntau yn rhy bell. Mewn g诺yl ffilmiau Celtaidd yn Donegal yr oeddan ni pan ddiflannodd baner y Ddraig Goch dros nos a gadael baneri eraill.
Roedd Gwenlyn yn benwan, ac er bod rhesymau gwleidyddol cadarn dros y digwyddiad oherwydd trafferthion Gogledd Iwerddon, eto fe ddaliodd ati i greu dadl.
Roedd Cymru fach wedi cael ei sarhau a rhaid oedd cywiro pethau. A wir ichi rwy'n credu iddo gael ei faen i'r wal. Oedd, roedd William Gwenlyn Parry yn gymeriad cadarn iawn, iawn.
Triw a charedig
Ond fel cyfaill triw a charedig y bydda i yn ei gofio fwyaf. Nid cyfaill tywydd braf yn unig oedd o.
Rwy'n cofio unwaith bod yn ceisio am swydd efo fo. Roedd pedwar ohonom ar y rhestr fer. Rywsut, y fi gafodd y 'job' a phwy oedd y cyntaf i godi ac ysgwyd llaw - wel Parry wrth gwrs. "Pob lwc iti rhen foi," medda fo. "Os galla i dy helpu di ryw dro dim ond gofyn cofia!"
Un hawdd ei frifo
Ac fe fu yna benodau yn hanes llawer iawn o rai eraill dros y blynyddoedd pan fu Gwenlyn yn gyfaill gwerth ei gael mewn cyfyngder.
Un felna oedd o - ac er bod ganddo ddiddordeb ysol ymhob stori a chlec oedd yn ffurfafen Cymru - eto i gyd, chlywais i 'rioed mohono yn lledu gwybodaeth faleisus am neb.
A deud y gwir, chlywais i fawr o neb yn deud dim cas amdano yntau, A diolch am hynny, oherwydd roedd yna agwedd arall i Gwenlyn Parry - roedd o'n greadur hawdd iawn ei frifo.
Ac yn ystod y seiadau a gefais i efo fo yn ystod ei fisoedd olaf fe soniodd am rai o'r penodau a adawodd greithiau ar ei enaid clwyfus.
Ond fe gadwa i'r rheiny yng nghelloedd y cof a'i gofio fel cwmn茂wr, cymeriad, cyfaill - a dramodydd wrth gwrs!