Gris gyntaf y t诺r - Donald Duck
Naw oed oeddwn i pan wnes i gyfarfod Gwenlyn am y tro cynta. Pnawn Sul oedd hi. Roedd ei dad, W J Parry, yn cael te yn ein t欧 ni. Y Sul arbennig hwnnw yr oedd Wesleaid Cylchdaith Ardal Bethesda a Deiniolen yn cynnal eu Cymanfa flynyddol yn Sling.
Fel dau Wesla o Ddeiniolen yr oedd Gwenlyn a'i dad yn bresennol.
Doedd yna ddim caffi o fewn pedair milltir i Sling, felly, bwyta yn nhai cyd-Wesleaid oedd y drefn.
Fel dau chwarelwr - fy nhad yn y Penrhyn a thad Gwenlyn yn Ninorwig - a dau Wesla yr oedd yn naturiol mai acw y daeth Mr Parry a'i fab "am ymborth" chwedl y pen blaenor.
Ar 么l bwyd, pan ddechreuodd y ddau dad 'siarad chwaral' aeth y plentyn nawmlwydd yn anniddig a phenderfynodd Gwenlyn - tua phedair ar bymtheg fasa fo - ei ddiddori drwy wneud lluniau efo fo.
Roedd o'n dipyn o arlunydd ac efo pensiliau lliw gwnaeth lun ardderchog o Donald Duck.
Bu'r llun hwnnw gen i am flynyddoedd ar wal fy llofft.
Dyna'r diwrnod y rhois fy nhroed ar ris gyntaf 'T诺r' fy adnabyddiaeth o Gwenlyn ac efo'r llun a'r cof am ei chwerthiniad yr oedd honno'n ris gadarn i ddechrau'r dringo.
Ail ris y t诺r - pregethwr ar brawf
Aeth pum mlynedd heibio cyn imi gael rhoi fy nhroed ar yr ail ris a hynny drwy'r Wesleaid eto.
Yr oedd Gwenlyn bellach yn 'bregethwr cynorthwyol' gyda'r enwad a minnau yn bwt o organydd yng nghapal Gorphwysfa.
Ar gerdyn 'plan' blwyddyn y Wesleaid lleol rhif 35 oedd W Gwenlyn Parry yn rhestr y pregethwyr ac ar 么l ei enw yr oedd y geiriau "Ar brawf" mewn cromfachau!
Tybed 芒 oedd y ddau air yna yn awgrymu i'r dramodydd feddwl mynd i'r weinidogaeth?
Yr oedd yn hawdd iawn gwrando arno y diwrnod hwnnw. Wedyn y dois i ddeall fy mod yn gwrando ar ddeudwr stori penigamp.
Trydedd ris y t诺r - y 'big break'
Ychydig feddyliais yr adeg honno y byddai'r dyn Parry yma yn chwarae rhan mor allweddol yn fy mywyd a'm gyrfa ond pan sefais ar drydedd ris y 'T诺r' yr oedd rhyw awgrym bach o hynny.
Daeth Gwenlyn i ddysgu gwyddoniaeth i Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, pan oeddwn i yn y chweched.
Yr oedd cwmni drama yn yr ysgol a buan y daeth Gwenlyn i gymryd yr awenau.
Ysgrifennodd basiant Pasg a'm castio i fel y Crist. Hyd y diwedd bu'n tynnu fy nghoes mai fo roddodd y "big break" imi!
Fo hefyd gynhyrchodd Gymerwch Chi Sigaret a'm castio fel Phugas. Ar 么l inni berfformio yn hynod o lwyddiannus i'n cyd-ddisgyblion gwrthododd y prifathro roi caniat芒d inni berfformio i'n rhieni achos, yn ei farn o, fod y ddrama yn "rhy aflednais".
Fel y dywedodd Gwenlyn ar y pryd, "Yr unig foi 'rioed i sensro Saunders Lewis!"
Bu fy nghysylltiad ag o wedyn yn un hir a hapus.
Dipyn o foi oedd y Wesla o arlunydd a dramodydd.