大象传媒

Gwenlyn Parry - atgofion William Jones

Gwenlyn Parry a William Jones

Cydweithiwr yn cofio tynnu coes a herian rhwng dau ddramodydd

'Y fo oedd yn ein cario ni ers talwm'

"Yr oedd hi fel rhyw fath o ysgol, bod gyda Gwenlyn yn yr Adran Sgriptiau yn y 大象传媒," meddai'r diweddar William Jones a fu'n cydweithio ag ef ar Pobol y Cwm.

"Pedwar ohonon - Meical Povey, Sion Eirian, Dewi Williams a finnau oedd yn ei gario fo ar ei daith olaf. Y fo oedd yn ein cario ni ers talwm," meddai William Jones pan gafodd ei holi am Gwenlyn yn 2001.

Ar y pryd yr oedd newydd orffen paratoi'r ddrama Y Twr ar gyfer cynhyrchiad newydd i nodi deng mlynedd ers marw Gwenlyn Parry.

"Ddoe ddiwetha gorffennais i," meddai. "A wyddoch chi be? Awr yn ddiweddarach daeth y newydd fod yna ddau d诺r yn America wedi eu dymchwel.

"T诺r crwn oedd t诺r Gwenlyn - bywyd yn troi mewn cylchoedd. Tri chyfnod mewn bywyd - ieuenctid, canol oed a henaint.

"Yn y diwedd mae'r hen 诺r am gael ei ollwng yn urddasol o boen yr 'hen elyn' - dyna fyddai Gwenlyn yn galw'r canser - yn y diwedd.

"Roedd Gwenlyn yn sgrifennu'r geiriau hynny yn y Saithdegau ac yr oedd o'i hun yn mynd drwy'r un boen ddeng mlynedd yn 么l. Rhyfedd ynte? Holme Towers oedd enw'r lle ym Mhenarth y treuliodd ei ddyddiau olaf.

Ei gyfaill Rhydderch Jones

"Bu farw bedair blynedd, bron i'r diwrnod i'w gyfaill Rhydderch Jones. Bu Rhydderch farw ar Dachwedd 4 - roedd Gwenlyn yn ei golli fo'n arw ond mi fydda fo'n cellwair weithiau: 'Trueni na fuasai Rhydderch wedi byw un diwrnod arall, iddo gael mynd gyda bang ar ddydd Guto Ffowc'.

"Mi gafodd Gwenlyn fynd ar ddydd Guto Ffowc - rhyfedd ynte?

"Mi fydda'r ddau yn rhyw fudur bryfocio'i gilydd - pan oeddan nhw'n gweithio ar Fo a Fe - 'Ti oedd yn rhoi min ar fy mhensal i.' Pethau fel yna.

Os oes yna ryw lawr arall yn y Twr - rhyw atig neu rwbath, mae'n si诺r bod nhw wrthi'n pryfocio'i gilydd y funud hon."


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.