大象传媒

Cyfarfod y bobl - Alun Ffred Jones AC ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

11 Tachwedd 2009

Elan Closs Stephens a Hywel Teifi Edwards yn ymateb i sylwadau Alun Ffred Jones am gyflwr y theatr Gymraeg

Awgrymwyd y dylid neilltuo lle i ddrama yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn gan ysgolhaig ac arbenigwr ar hanes y ddrama a chwmniau drama yng Nghymru.

Gwnaeth yr Athro Hywel Teifi Edwards ei awgrym ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun, Tachwedd 9 2009.

Y bwrlwm wedi mynd

Ymateb yr oedd i sylwadau a wnaed gan y Gweinidog Diwylliant, Alun Ffred Jones yn y cylchgrawn Barn lle gofidiai am gyflwr y theatr Gymraeg.

"Ers tua ugain mlynedd, fwy neu lai, dwi'n teimlo fod y bwrlwm a'r cynnwrf wedi mynd allan o'r theatr Gymraeg. Dyden ni ddim yn cynhyrchu stwff mentrus, heriol, da," meddai Mr Jones oedd yn cael ei holi gan Menna Baines, un o olygyddion y cylchgrawn.

"Be sy'n siomedig i mi yn y theatr Gymraeg ydi cyn lleied o sgwennu gwleidyddol da sy 'na," ychwanegodd gan holi hefyd pam nad yw yr "adrannau drama yn ein sefydliadau addysg" yn cynhyrchu mwy o awduron.

Ac un ateb mae'n ei gynnig yw bod Cymru mewn cyflwr rhy gyfforddus i fod yn feithrinfa drama dda.

"Dwi'n meddwl fod y theatr yn fwy perthnasol mewn cyfnod o gyffro a helbul gwleidyddol nag mewn cyfnod o fodlonrwydd. Does dim ond rhaid edrych ar hanes y theatr yn Iwerddon i weld fod hynny'n wir, a'i pherthnasedd ar lawr gwlad yn rhai o wledydd Affrica heddiw," meddai.

Troi'r byrddau

Ond wrth ymateb i sylwadau'r Gweinidog Diwylliant trodd yr Athro Elan Closs Stephens, Athro Cyfathrebu a'r Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, rywfaint ar y byrddau trwy gynnig her i'r gweinidog ei hun:

"Mae gen i rhyw deimlad bach efallai y dylem ni fod yn troi ato fo hefyd a dweud, i raddau, 'Meddyg iacha dy hun' achos r诺an mae o yn dal yr arian . . . mae ganddo fo'r hawl i osod her strategol i Gyngor Celfyddydau ac eraill i ofyn beth sy'n bod ar y theatr Gymraeg ac efallai i ddod i fyny efo dipyn bach o atebion heriol yn ei 么l," meddai.

Ychwanegodd yr hoffai hi hefyd weld "rhai o'n cwmn茂au [teledu] mawr ni" yn dod at ei gilydd i gefnogi'r ddrama lwyfan trwy greu ysgoloriaeth.

"Maen nhw i gyd yn bobl sydd wedi cyfrannu'n helaeth tuag at ein diwylliant ar y sgrin; tybed oes yna le i ddod a rhai o'r rhain at ei gilydd i gael rhyw fath o ysgoloriaeth incubator neu peth o waith theatr yn 么l fel bod yna awduron newydd yn d诺ad trwodd sydd yn cael y pleser a'r wefr a'r sialens eithriadol o glywed eu gwaith o flaen cynulleidfa fyw a dwi'n meddwl bod hwnna yn sgil ynddo'i hun," meddai.

Awgrymodd y gallai'r arweiniad tuag at symudiad o'r fath ddod oddi wrth y theatr Genedlaethol.

"Ond fe allai o ddod [hefyd] o'r Gweinidog . Wedi'r cwbl, fi fyddai'r olaf i'w weld o'n ymyrryd o ran dewis pa gwmn茂au fyddai'n cael arian, neu awduron, ond mae ganddo fo hawl i osod her strategol i'r cyrff mae o'n ariannu ac efallai y dylai o ystyried ei fod o'n awr mewn sefyllfa i greu ei atebion ei hun," meddai.

Sgwennu drama 'yn anodd'

Wrth wneud ei sylwadau ef ar y rhaglen dywedodd yr Athro Hywel Teifi Edwards fod ganddo ef "gryn gydymdeimlad" a'r hyn a ddywed y Gweinidog yn arbennig y ffaith bod cyn lleied o sgwennu gwleidyddol.

"A jyst un enghraifft amlwg ydi hynna o rywbeth sydd yn ddiffygiol efallai yn y ddarpariaeth," meddai.

Ond ychwanegodd mai "hen broblem" ydi prinder dramodwyr Cymraeg a heb ddramodwyr sy'n sgrifennu dram芒u gwreiddiol dywedodd bod unrhyw theatr "yn mynd i gael trafferth".

"Ac i mi dyna'r broblem fawr sydd wedi bod gyda'r ddrama yng Nghymru am y rhan orau o ganrif - rydym ni'n brin o ddramodwyr a beth yn union ydi'r ateb i'r diffyg hwnnw dwi ddim cweit yn si诺r," meddai.

Ond ychwanegodd ei fod "yn gwbl hyderus" fod posibiliadau gwych i theatr genedlaethol yng Nghymru.

"Ac wrth gwrs, mae ysgrifennu drama yn beth anodd iawn - yn llawer iawn mwy anodd nag ysgrifennu barddoniaeth, nofelau a stori芒u byr oherwydd yn ei hanfod rhaid iddo fod yn fath o weithgarwch ar y cyd - mae pawb yn dweud nad ydi drama yn rhywbeth byw nes ei bod hi ar lwyfan ond i'w rhoi hi ar lwyfan mae'n rhaid i'r . . . dramodydd . . . gael cymorth a chyfarwyddyd pobl theatr yngl欧n 芒 sut i lwyfannu ac mae'n rhaid bod yna actorion . . . a llais yn y perfformiad.

"Mae'n broses llawer iawn mwy cymhleth ac efallai bod y ddarpariaeth o'r safbwynt hwnnw yn y Gymru hon ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn ddiffygiol. Peth cymharol ddiweddar ydi o fod dramodwyr sy'n sgrifennu yn y Gymraeg yn cael y math o gymorth a fydde ti'n disgwyl iddyn nhw allu gael gan y theatr genedlaethol," meddai. Gan ychwanegu bod y ddrama yn galw am fwy o gymorth nag unrhyw gyfrwng llenyddol arall.

Angen stoc o ddram芒u

Rhybuddiodd nad yw theatr genedlaethol lwyddiannus yn bosibl "heb fod gyda ti ddram芒u llwyfan gafaelgar, da, sydd yn ymosod o safbwynt syniadau ac egwyddorion gwerthoedd ac yn y blaen".

Gyda hyrwyddo hynny mewn golwg holodd: "Pam y y byd nad yw'r ddrama yn cael ei lle yn y busnes ma o roi deng mil o bunnoedd bob blwyddyn i Lyfr y Flwyddyn?

"Darn o lenyddiaeth yw drama . . . Rhywbeth i symbylu diddordeb dramodwyr yng Nghymru . Efallai bod gormod o'n hawduron ni wedi treulio gormod o amser yn ysgrifennu ffuglen a dim digon ohonyn nhw yn ymateb i her llawer iawn anos - her y ddrama," meddai.


Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.