Beca gan Jeremy Turner yw sioe haf cwmni Arad Goch eleni.
Bydd yn cael ei pherfformio mewn theatrau Cymru ar hyd a lled Cymru yn ystod mis Mai, Mehefin a Gorffennaf.
Mae hanes brwydr Merched Beca yn erbyn gorthrwm y tollbyrth yn un o hanesion enwocaf Cymru ac yn llawn arwriaeth a chyffro.
Mae'r cwmni yn addo dehongliad "llawn cymeriadau lliwgar, cerddoriaeth a symud" yn cael ei gyfarwyddo gan yr awdur.
Er mwyn diogelu eu hunain rhag cael eu hadnabod yn ystod ymosodiadau ar dollbyrth yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai'r gwrthdystwyr, ffermwyr gan fwyaf yn wreiddiol, yn gwisgo fel merched ar sail adnod 60 ym mhennod 24 llyfr Genesis lle dywedir:
"A hwy芒 fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi . . . etifedd dy had borth ei gaseion".
Bu'r ymosodiad cyntaf yn yr Efailwen ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin Mai 13 1839.
Erbyn gaeaf 1842 gwaethygodd y gwrthdaro gyda nifer o dollbyrth yn cael eu dinistrio yn y de orllewin a hefyd ym Maesyfed, Brycheiniog a Morgannwg.
Gwrthwynebai'r protestwyr y tal afresymol oedd yn cael ei godi ar ffermwyr ac eraill i gludo nwyddau drwy dollbyrth a oedd yn symbol hefyd o wasgu'n gyffredinol ar y werin Gymraeg a chymaint y gefnogaeth i achos y Merched fe ddaeth llwyddiant i'w rhan.
mae sioe Arad Goch yn addas i bawb dros saith oed.
Y daith
- Mai 13 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth 10.00am / 7.00pm 01970 623232
- Mai 14 Canolfan y Celfyddydau 10.00am 01970 623232
- Mai 17 NEUADD DWYFOR Pwllheli 1.30pm 01758 704 088
- Mai 18 NEUADD DWYFOR Pwllheli 10.00am & 1.00pm 01758 704 088
- Mai 19 THEATR Y PAFILIWN 1.30pm 01745 330 000
- Mehefin 7 GLAN YR AFON / THE RIVERFRONT 13.30 01633 656 757
- Mehefin 9 Y Muni Pontypridd 10.00am & 1.00pm 01443 485934
- Mehefin 11 THEATR Y LYRIC Caerfyrddin 10.00am (Cymraeg) 1pm (Saesneg) 0845 226 3510
- Mehefin 14 THEATR HARLECH 10.30am 01766 780667
- Mehefin 15 BOROUGH THEATRE Y Fenni 1.30pm 01873 850805
- Mehefin 17 THE GRAND PAVILION PORTHCAWL 1.30pm(Cymraeg) 01656 815995
- Mehefin 18 THE GRAND PAVILION PORTHCAWL 10.00am & 1.30pm(Saesneg) 01656 815995
- Mehefin 22 THEATR FELINFACH 10.00am & 1.30pm 01570 470697
- Mehefin 24 THEATR Y TORCH 1.30pm 01646 695 267
- Mehefin 28 THEATR MWLDAN Aberteifi 1.30pm 01239 621200
- Mehefin 29 THEATR MWLDAN Aberteifi 10.15am & 1.30pm 01239 621200
- Gorffennaf 1 THEATR ELLI Llanelli 10.00am (Cymraeg) 1pm (Saesneg) 0845 226 3510
- Gorffennaf 2 NEUADD PONTYBEREM 1.30pm 01269 871600
- Gorffennaf 6 GALERI Caernarfon 10.30am 01286 685222
- Gorffennaf 7 PRIFYSGOL GLYNDWR Wrecsam 1.30pm 01978 293306