大象传媒

Betsan Llwyd yn cyfarwyddo

Betsan Llwyd

02 Ebrill 2010

Betsan Llwyd fydd yn cyfarwyddo cynhyrchiad nesaf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.

Hwn fydd y cynhyrchiad cyntaf y cwmni yn dilyn ymddeoliad Cefin Roberts y Cyfarwyddwr Artistig ers cychwyn y cwmni.

Disgrifiodd y cwmni hi fel "un o actoresau amlycaf Cymru, gyda phrofiad o 30 mlynedd a mwy o droedio'n llwyfannau".

Ganed Betsan Llwyd ym Mhenfforddlas ym Mhowys a'i magu yn Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint, ac mae wedi bod 芒 rhannau mewn nifer helaeth o ddram芒u radio, llwyfan a theledu dros y blynyddoedd gan gynnwys rhai o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru megis "Cysgod y Cryman" a "T欧 Bernarda Alba".

Mae ganddi hefyd brofiad fel cyfarwyddwraig theatr.

Cyfuniad o ddwy ddrama fer fydd cynhyrchiadau cyntaf Theatr Genedlathol Cymru yn ei dwylo.

. Y gyntaf gan y dramodydd ifanc o Landwrog ger Caernarfon, Manon Wyn, a'r llall gan Saunders Lewis.

Dyma fydd y tro cyntaf i ddrama Manon Wyn, Dau Un Un Dim, ac Ar y Tr锚n" Saunders Lewis gael eu perfformio ar lwyfan.

"Dwi'n hynod o gyffrous am ymgymryd 芒'r sialens yma a dwi'n edrych ymlaen yn arw at gynllunio'r ddwy ddrama ar lwyfan, gyda chefnogaeth barod y t卯m yn Theatr Genedlaethol Cymru," meddai Betsan, sy'n awr yn byw yng Nghaerdydd.

"Er bod gwahaniaeth amser, lleoliad a chynnwys rhwng y ddwy ddrama mae yna debygrwydd hefyd a fydd yn eu hamlygu eu hunain," meddai.

Bydd y ddwy ddrama'n teithio Cymru yn ystod misoedd Mai a Mehefin ac yn cynnwys perfformiadau yn Llanbedr Pont Steffan yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhelir yn Llanerchaeron gerllaw.

"Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol gan fod Manon Wyn yn gyn-enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Angharad Williams.

"Mae'n rhoi cyfle i ni hefyd greu cysylltiad 芒 phobl ifanc oherwydd, wedi'r cwbl, nhw yw cynulleidfaoedd y dyfodol," ychwanegodd.

Dyma fydd y tro cyntaf i Betsan Llwyd gyfarwyddo un o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.