Yr actor a'r cyfarwyddwr o Gymro, Daniel Evans, oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen Beti a'i Phobl ddydd Sul Hydref 3 2010.
Ar y rhaglen bu'n siarad yn agored am ei blentyndod ac am ei gyfnod yn yr ysgol lle'r oedd yn cael ei fwlio am ei fod yn "wahaniol" i blant eraill ac yn "ferchetaidd" ond heb sylweddoli ei hun ar y pryd ei fod yn hoyw.
Siaradodd hefyd am fywyd ar aelwyd gymysg ei hiaith lle'r oedd y Gymraeg yn iaith un rhiant.
Bu'n siarad hefyd am ei yrfa yn y theatr a'i ymateb i'r nifer o wobrau y mae wedi eu hennill dros y blynyddoedd a'i weledigaeth ar gyfer y theatr yng Nghymru.
Yr oedd hon yn sgwrs bwysig a dalennol gydag un o Gymry pwysiocaf y theatr yn ystod y cyfnod presennol.
I wrando ar y sgwrs defnyddiwch y blwch llwyd:
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
- Oherwydd rheolau hawlfraint nid yw'n bosibl clywed y recordiau a ddewisodd Daniel Evans ond am yr wythnos yn dilyn y darllediad gellir gwrando ar y rhaglen yn gyflawn ar iPlayer.