大象传媒

Deryn Du

Golygfa o'r ddrama

07 Ebrill 2010

Drama ysgytwol ar daith

Trosiad o ddrama herfeiddiol sy'n "datgymalu pedoffeilia" yw cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws.

Cychwynnodd ar ei thaith o amgylch Cymru nos Fawrth Ebrill 13 yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Enillodd drama ysgytwol David Harrower Blackbird wobr Olivier yn 2007 ac ers hynny mae wedi ei chynhyrchu mewn sawl gwlad.

Bryn Fon, un o'r ddau actor sy'n ymddangos ynddi, sydd wedi ei haddasu i'r Gymraeg dan y teitl Deryn Du a Sion Humphreys sy'n cyfarwyddo.

Yr actor arall yw Fflur Medi.

Hwn fydd yn cynhyrchiad Cymraeg cyntaf o ddram,a sy'n cael ei disgrifio gan y cwmni fel un "herfeiddiol".

Mae'n troi o gwmpas mei a Lora. "Adar bregus a'u hadenydd wedi'u torri yw Mei a Lora, wedi eu handwyo'n seicolegol gan ddigwyddiadau yn y gorffennol newidiodd fywydau'r ddau am byth," meddai'r cwmni mewn datganiad.

"Mae hi'n 27 a fynta'n 56 ac fe gawsant berthynas fer rhyw bymtheng mlynedd yn 么l - pan oedd o'n 40 a hithau'n l2 oed.

"Nid ydynt wedi gweld ei gilydd er pan aeth Mei i'r carchar. Dioddefodd Lora fywyd o fysedd yn pwyntio a wynebau'n syllu, o sibrydion cas ac ensyniadau hyll tra aeth Mei yn ei flaen i ddechrau bywyd newydd mewn tref newydd, newid ei enw a dechrau o'r dechrau," meddir.

"Bellach mae o'n rheolwr mewn busnes gwerthu nwyddau meddygol ac mae Lora wedi dod o hyd iddo ar 么l gweld ei lun mewn cylchgrawn yn ei meddygfa leol. Pan ymunwn a'r ddrama mae Mei wedi ei gornelu ganddi yn ystafell gyffredin y staff ynghanol sbwriel bywyd pob dydd y gwaith, ond pam? Ai ydi o eisiau ei niweidio, ei gyhuddo, ei gywilyddio? Ynteu ydi hi isio ail ddechrau'r berthynas fu mor niweidiol i'r ddau....?" Yn ogystal 芒 "datgymalu pedoffilia" dywedir bod Deryn Du hefyd "yn darganfod cyffredinolrwydd amgylchiadau eithafol".

Rhybuddiodd y cwmni y gall rhai golygfeydd "fod yn anaddas i rai nad ydynt yn oedolion".

Y daith

Perfformiadau am 7.30 oni ddywedir yn wahanol

  • Mawrth 13 Ebrill Neuadd Ogwen Bethesda Siop John 0124B 600251 neu Linda Brown 012B6676335


  • Mercher 14 Ebrill Neuadd Goffa Amlwch Cari 07919151211 Corwas 01407 830277


  • lau I5 Ebrill Neuadd Buddug Y Bala Siop Awen Meirion 0167B 520658


  • Gwener 16 Ebrill Neuadd Gymuned Llanrwst Siop Bys a Bawd 01492641329 neu Esyllt 01492640060


  • Sadwrn 17 Ebrill Theatr Twm o'r Nant Dinbych Siop Clwyd 01745813431 Gaynor Morgan Rees 01745812349


  • Mawrth 20 Ebrill Neuadd Ysgol Gyfun Llangefni Menter M么n 01248 725732


  • Mercher 21 Ebrill Ysgol y Moelwyn Blaenau ffestiniog Gwen Edwards 01766830435


  • lau 22 Ebrill Neuadd Dwyfor Pwllheli Swyddfa Docynnau 01758704088


  • Gwener 23 Ebrill Neuadd Dwyfor Pwllheli Swyddfa Docynnau 01758 704088


  • Sadwrn 24 Ebrill Theatr Harlech Harlech Swyddfa Docynnau 01766 780667


  • Mawrth 27 Ebrill Canolfan Bro Aled Llansannan Eilir Jones 01745870415


  • Mercher 28 Ebrill Galeri Caernarfon 01286 685222


  • lau 29 Ebrill Galeri Caernarfon 01286 685222


  • Gwener 30 Ebrill Theatr John Ambrose Rhuthun Siop Elfair, 01824 702575


  • Sadwrn 1 Mai Theatr Hafren Y Drenewydd 01686625007


  • Mawrth 4 Mai Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth 01970623232


  • Mercher 5 Mai Theatr Felinfach 01570470697


  • lau 6 Mai Canolfan Gartholwg Pentre'r Eglwys Samantha Chamberlain 01443219589


  • Gwener 7 Mai Canolfan y Chapter Caerdydd 02920 304400 8.00


  • Sadwrn 8 Mai Chapter Caerdydd 02920 304400 8.00


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.