大象传媒

Hawl - cynhyrchiad Cwmni'r Fran Wen

18 Hydref 2010

Cynhyrchiad sy'n herio pobl ifainc i ofyn cwestiynau am eu hawliau hwy ac eraill yn wyneb digwyddiadau rhyngwladol erchyll yw un diweddaraf y cwmni theatr mewn addysg, Cwmni'r Fr芒n Wen.

Mae Hawl gan Iola Ynyr eisoes wedi cychwyn ar daith yn y gogledd a bydd taith Gymraeg yn cychwyn Hydref

"Dyma gynhyrchiad sy'n gwthio'r ffiniau o ran cysyniad a llwyfaniad," meddai'r cwmni.

Llun: Lluniau Llwyfan
Golygfa o'r cynhyrchiad

"Caiff y gynulleidfa eu hannog i ddehongli o'r funud gyntaf wrth iddynt gael eu tywys drwy sganiwr i babell mewn lloches ffoaduriaid ar y ffin rhwng Kyrgyzstan ac Uzbekistan.

"Yn y babell, cyflwynir cynhyrchiad theatrig a chynhyrfus y gellir ei ddehongli ar sawl lefel. Ar un lefel, cawn ein cyflwyno i ddynameg perthynas a sut y mae un yn dylanwadu ar y llall.

"Ar lefel fwy dyrys, ceir mewnwelediad i sut y mae unigolion a gwledydd yn llwyddo i fanipiwleiddio a gormesu eraill er eu lles eu hunain. Y gobaith yw cyflyru emosiynau'r gynulleidfa gan eu hysgogi i edrych ar y byd o'r newydd," meddir.

Ymhlith y cwestiynau sy'n cael eu gofyn mae:

  • Pwy sy'n gwarchod ein hawliau?
  • Pam fod cymaint yn amharchu hawliau eraill?
  • Oes cyfiawnhad dros hynny pan fo sefyllfa enbyd yn ein hwynebu?
  • A ddylem gyfyngu ar hawliau lleiafrifoedd er mwyn gwarchod buddiannau'r mwyafrif?
  • Sut gall gwledydd mwyaf pwerus y byd dorri rheolau hawliau dynol sylfaenol heb dderbyn cosb?
  • Pam bod pobl o bob oed yn cael eu hamddifadu o'u hawliau o dan ein trwynau yng Nghymru ac yn rhyngwladol?
  • Ai anwybodaeth neu ddifaterwch sy'n caniat谩u'r anghyfiawnderau hyn?

Gellir gwylio clip fidio a chael cip olwg ar luniau proffesiynol o'r cynhyrchiad ar .

Cyflwynir Hawl gan Iwan Charles, Carys Gwilym, Elen Gwynne, Neil Williams gyda Iola Ynyr yn cyfarwyddo a chyda cerddoriaeth gan Osian Gwynedd.

Bydd y cynhyrchiad yn ymweld ag ysgolion uwchradd Gwynedd, Ynys M么n a Chonwy tan Ragfyr 7 2010 (trwy gyfrwng y Saesnega than Tachwedd 3 trwy gyfrwng y Gymraeg wedi hynny.

Trefnwyd perfformiadau arbennig ar gyfer pobl ifanc o Wynedd, Ynys M么n a Chonwy sydd ddim mewn gwaith, addysg nac hyfforddiant yn gyda pherfformiad cyhoeddus Cymraeg yn Neuadd JP, Bangor nos Fawrth, Tachwedd 16 2010 am wyth o'r gloch.

Gellir archebu tocynnau drwy anfon ebost neu ffonio 01248 715048.

Rhybuddir bod nifer cynulleidfa yn gyfyngedig i 55 ac yn addas ar gyfer pobl ifanc dros 13 oed.

Llun: Lluniau Llwyfan
Ymarfer ar gyfer y cynhyrchiad

Y daith

  • 03.11.2010 Ysgol Uwchradd Tywyn C / E (Neuadd Pendref Hall, Tywyn)
  • 04.11.2010 Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch C / E
  • 05.11.2010 Ysgol Friars, Bangor C / E
  • 08.11.2010 Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes C
  • 09.11.2010 Ysgol Gyfun Llangefni C
  • 10.11.2010 Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst C
  • 11.11.2010 Ysgol Brynrefail, Llanrug C
  • 12.11.2010 Ysgol Brynrefail, Llanrug C
  • 15.11.2010 Ysgol Uwchradd Caergybi C
  • 16.11.2010 Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda C
  • 17.11.2010 Ysgol David Hughes, Porthaethwy C
  • 18.11.2010 Ysgol Glan Y M么r, Pwllheli C
  • 19.11.2010 Ysgol Ardudwy, Harlech C
  • 22.11.2010 Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon C
  • 23.11.2010 Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon C
  • 23.11.2010 Feed my Lambs, Caernarfon C ***
  • 24.11.2010 Ysgol Y Gader, Dolgellau C
  • 25.11.2010 Ysgol Eifionydd, Porthmadog C
  • 26.11.2010 Ysgol Y Berwyn, Y Bala C
  • 29.11.2010 Ysgol Uwchradd Botwnnog C
  • 30.11.2010 Ysgol Tryfan, Bangor C (Coleg Menai)
  • 01.12.2010 Ysgol Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog C
  • 02.12.2010 Ysgol Y Creuddyn, Bae Penrhyn C
  • 03.12.2010 Ysgol Y Creuddyn, Bae Penrhyn C
  • 06.12.2010 Ysgol Uwchradd Bodedern C
  • 07.12.2010 Ysgol Uwchradd Bodedern C
  • 08.12.10 - 10.12.10 Ysgol Springfields, Calne, Whiltshire

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 大象传媒 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.