Dyn a oedd wedi deall "hanfodion drama" oedd Wil Sam - y llefaru a'r geiriau yn hytrach na set grand a thrawiadol.
Dyna farn un cyfrannwr i raglen radio am un o ddramodwyr mwyaf poblogaidd Cymru.
Ar gyfer yr hyn sydd wedi cael ei alw yn "dymor Wil Sam" mewn cylchoedd theatrig neilltuwyd rhifyn arbennig o Stiwdio ar 大象传媒 Radio Cymru i drafod gwaith y llenor a'r dramodydd Ebrill 2, 2009.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Ar y rhaglen bu'r actor Stewart Jones a fu'n chwarae rhan cymeriad mwyaf adnabyddus Wil Sam, Ifas y Tryc, yn edrych ar sawl agwedd o'i waith.
Dyma rai o'r pethau a ddywedwyd:
Mwy na dramodydd
Yr oedd Wil Sam yn fwy na dramodydd, meddai Stewart Jones.
"Yr oedd o'n sgrifennwr storiau byrion, ysgrifau, monologau neu 'adresus'.
"Yr oedd o hefyd yn fardd a enillodd ar y ddychangerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl ym '53 ac yn ei flynyddoedd olaf cyhoeddodd 'Y Bwclet' fel y galwodd ef, sef casgliad o'i gerddi."
H3>Dyn garejDywedodd iddo ddod i'w adnabod i ddechrau fel dyn garej oedd yn enowg am ddod o hyd i beiriant fyddai yn eich plesio yn ystod cyfnod o brinder ceir.
Ychwanegodd iddo enwi y ddau bwmp petrol yn ei garej yn Gwreng a Bonedd.
Yr adeg honno "wyddai neb am ei ddawn lenyddol ond ei gyfoedion agosaf.
Ar y rhaglen clywyd Wil Sam ei hun yn dweud am y cyfnod:
"Yr oeddwn i'n cael deunydd ar blat ond bod raid newid dipyn bach arno fo wrth gwrs. Wnai hi mo'r tro gafael yng ngholar dyn oddi ar y ffordd a'i roi ar y llwyfan. Mi fyddai eisiau dipyn o drimio ar y peth ond, yn sicr, fanno fyddai ei chychwyn hi."
Gwyddel Cymreig
Un o'i gwsmeriaid yr adeg honno oedd y nofelydd a'r dramodydd, Emyr Humphreys, a oedd yn athro ym Mhwllheli.
"Credaf fod lle i ddiolch i Emyr Humphreys am fod yn gefnogol i Wil fel dramodydd yn y dyddiau cynnar hynny," meddai stewart Jones.
Dywedodd Emyr Humphreys i Wil Sam dreulio llawer o amser yn Nulyn a chael ei ysbydoli yno gan y theatr yno.
"Roedd Wil yn Wyddel mewn gwisg Cymro," meddai.
"Yr oedd Wil yn arbennig o hirben - yn gweld bod eisiau troi eich llygaid chi i'r gorllewin ac nid i Lundain os oeddech chi eisiau atgyfnerthu'r awen yng Nghymru," ychwanegodd.
Hanfod drama
Bu Myrddin ap Dafydd yn s么n am bwysigrwydd Theatr y Pike yn Nulyn yn hanes sefydlu Theatr y Gegin yng Nghricieth.
"Yn fanno roedd Wil yn cael hanfod drama, y llefaru, y geiriau - nid set grand," meddai.
Yn ei dro daeth Theatr y Gegin yn lle, meddai Myrddin ap Dafydd, lle'r oedd edrych allan ar y byd.
"Ond hefyd roedd o'n lle i groesawu'r byd i mewn i'n diwylliant ac i'n bro ni yma yng Nghymru."
"Yr oedd gwaith mwyaf arbrofol y cyfnod yn cael ei gyflwyno yn Theatr y Gegin," ychwanegodd.
Ifas
Wrth s么n am gychwyn Ifas y Tryc cyfeiriodd Stewart Jones at yr holl eiriau newydd fel Presbyterian Crossing, Ingland refeniw a treipwreitar y bu'n rhaid iddo eu dysgu.
Cofiai ddarllen y sgript yn 么l i Wil Sam iddo ac yntau "yn chwerthin nerth esgyrn ei ben fel tasa nelo fo ddim 芒 hi - ac yntau wedi'i sgwennu hi!"
Penderfyniad dewr
Cyfeiriodd Alun Ffred Jones y Gweinidog Diwylliant a chyn gynhyrchydd teledu at 'ddewrder' Wil Sam yn rhoi'r gorau i'r garej i fyw ar sgrifennu yn 1961.
"Yr oedd o'n gam eithriadol o ddewr . . . ac mae hwnna ynddo'i hun yn dangos comitment y dyn i'w grefft," meddai.
'Pobl ddrwg'
Y cynhyrchiad diweddaraf o waith Wil Sam a welwyd oedd un Theatr Genedlaethol Cymru o Bobi a Sami ac wrth drafod ei waith dywedodd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Cefin Roberts, mai un o nodweddion ei ddram芒u yw nad oes "pobl ddrwg" ynddynt ond bod y byd mawr tu allan yn ddrwg.
- Rhaglen a wnaed yn arbennig ar gyfer 'Stiwidio' gan gwmni EGW Cyf oedd hon ac wedi ei chynhyrchu gan Eurwyn Williams a enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd yn Pwllheli 1982 gyda Wil Sam yn beirniadu.