大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gloran
Telegram Gweld Hanes yn Digwydd
Gorffennaf 04
Y mis yma mae Brenig Jones yn cwblhau adrodd ei brofiadau yn garcharor rhyfel yn Siapan.


Bu'r erthyglau a ymddangosodd yn Y Gloran o ddiddordeb mawr y tu allan i'r Rhondda, a bu Radio Cymru yn cyfweld 芒 Brenig yn ddiweddar. Rydym i gyd yn ddyledus iawn iddo am ei barodrwydd i rannu ei brofiadau 芒 ni.

Ar 么l dweud "sayonara' neu "ffarwel" i Siapan, roedden ni o'r diwedd ar ein ffordd i Ynysoedd y Phillipine.

Cyrraedd yno ac i mewn i un o wersylloedd yr Americanwyr ac yno wrth y fynedfa oedd cyrnol ein catrawd - Y Cyrnol Joe Hazel. Nid oeddwn wedi ei weld am ryw dair blynedd. Cyn ei gyfnod yn garcharor, roedd yn ddyn tal, llond ei groen, ond erbyn hyn roedd fel sgerbwd, wedi colli ei holl bwysau ac yn edrych yn s芒l iawn. Ysgydwodd e law 芒 phob un oedd yn ei gatrawd. Dyma ddyn oedd wedi hen ennill parch pob un o'i ddynion ond wrth edrych at y cyrnol sylweddolais ei hod hi'n well bod yn bum troedfedd a phedair modfedd na bod droedfedd yn dalach. Roedd y rhai bach wedi goroesi'n llawer gwell na'r rhai mawr, tal. 'Falle hefyd y dylwn ddiolch i'm rhieni am y bwyd a gefais yn fy mhlentyndod a fu'n asgwrn cefn imi!

I Seattle
Aros am rai diwrnodau yn y Phillipines ac yna ar long arall a fyddai'n ein cludo i Seattle yn yr Amerig. Cefais fy hunan ar y dec uchaf - gwely cynfas a blancedi a tharpolen gwyn uwch ein pennau i'n cysgodi. Y tywydd yn braf. Dyma'r ffordd i deithio! Yr unig beth oedd o'i Ie oedd fy mod wedi fy ngwahanu oddi wrth fy nghyfaill, George Brookes. Ond bore trannoeth daeth i chwilio amdanaf. Roedd e'n cysgu ar un o'r deciau isaf ond pan welodd ble roeddwn i'n cysgu fuodd e ddim yn hir cyn mynd i hel ei flancedi a'i bac. Cysgodd weddill y daith ar y dec wrth ochr fy ngwely. Roedd George a minnau wedi rhannu llawer o brofiadau gyda'n gilydd. Bron pob prynhawn roedd y criw yn dod i'r dec i chwarae jazz -'The Big Band Sound' - y tywydd yn gyfforddus o gynnes, gorwedd ar fy ngwely a gwrando ar y miwsig!

Yna cyrraedd Seattle ac aros yno am ryw wythnos cyn gadael ar dr锚n wedi ei addasu'n ysbyty- gwelyau iawn, cynfasau gwynion a nyrsys prydferth. Cafwyd triniaeth ardderchog ar y daith i Vancouver. Pan es i ar y tr锚n, y peth cyntaf wnes i oedd mynd i'r gwely, ddim am fy mod wedi blino ond am fy mod am fynd rhwng y cynfasau gwynion. Arhosais yn y gwely am y rhan fwyaf o'r daith ac roedd pawb yn gwneud yr un peth!

Rheilffordd Canadian Pacific
Yn Vancouver, newid trenau. Nawr rydyn ni'n teithio ar Reilffordd y Canadian Pacific. Dyma beth yw teithio mewn steil! Roedd y gwely'n dod allan o ochr y tr锚n. Bob bore byddai gwas yn ein dihuno a dweud bod brecwast yn barod. Neidio allan o'r gwely, ymolchi, gwisgo a mynd ar hyd y tr锚n i'r t欧 bwyta. Lliain bwrdd gwyn a'r holl gwtleri o'ch blaen. Gweinydd yn rhoi bwydlen o'ch blaen ac yn dod 芒'r bwyd. Ar 么l brecwast, mynd yn 么l gan obeithio mynd n么l i'r gwely ond yn y cyfamser byddai gwas wedi gwneud y gwely a'i roi yn 么l ar ochr y tr锚n. Roeddem yn teithio trwy'r Rockies ym mis Tachwedd; roedd hi'n oer iawn y tu allan ond yn gysurus iawn tu fewn i'r tr锚n. Ryw unwaith neu ddwy bob dydd byddem yn aros mewn gorsaf i roi d诺r i'r injan st锚m a chael bwyd ffres. Bob tro y byddai hyn yn digwydd, byddai pawb yn mynd ma's i gael tipyn o awyr iach. Fel y dywedais, roedd yn oer iawn ac wrth anadlu roedd hi fel petai rhew yn mynd i'ch ysgyfaint.

Bob tro y byddem ar stop mewn rhyw orsaf byddai pobl leol ar y platfform i'n cyfarch a dosbarthu sigarets a siocled inni. Erbyn cyrraedd adref roedd gennyf lond citbag o sigarets (doeddwn i ddim yn smygu) a siocled. Mwyheais y daith trwy'r Rockies - y golygfeydd yn fythgofiadwy a'r aer yn glir ac yn iachus.

Teg edrych... Daeth y daith ar y tr锚n i ben yn Efrog Newydd a dyma ni'n byrddio'r llong a fyddai'n ein cludo ar draws M么r Iwerydd - nail ai Queen Mary neu'r Queen Elizabeth. Ar 么l hanner can mlynedd alla' i ddim cofio pa un ond dyma ni yn 么l o dan lywodraeth y fyddin Brydeinig. Nid wyf yn cofio pa long, ond cofiaf y pryd o fwyd a roddwyd o'n blaen - bara, caws a picls. A chofiaf pawb yn gadael y bwyd ar y bordydd ac yn cerdded allan!

Roeddwn i yn 么l yn y Fyddin Brydeinig a ddim yn mwynhau'r sefyllfa. Ar 么l y ffordd roedd yr Americanwyr wedi ein trin, roeddwn yn disgwyl gwell gan ein pobl ein hunain. Uwch-swyddogion yn rhoi ordors heb sylweddoli ein bod am dros dair blynedd wedi ymladd yn erbyn ordors! Ond mewn rhyw bum diwrnod cyrhaeddon ni Southampton. Y peth cyntaf wnes i ar 么l cyrraedd y gwersyll oedd anfon telegram at fy rhieni. Mae fy mrawd wedi cadw'r telegram a anfonais i am 6.10pm ar 18 Tachwedd 1945 ac a gyrhaeddodd Swyddfa Bost Maerdy am 10.19 am y bore wedyn, sef 19 Tachwedd, yn dweud "Arrived safely see you soon."

Gartref o'r diwedd Diwrnod neu ddau yn Southampton ac roeddwn i ar fy ffordd adref. Cyrraedd gorsaf Caerdydd tua hanner nos ar nos Sul. Wrth gyrraedd y platfform roedd fy nhad a rhyw ddyn arall yn sefyll yno. Pan waeddais, "Dad!", neidiodd yn yr awyr a rhedeg tuag at y tr锚n. Alla' i ddim dweud sut roeddwn i'n teimlo. Y dyn gyda nhad oedd Gomer Lewis, gweinidog Capel Bethania, oedd wedi cynnig mynd a 'nhad i Gaerdydd i gwrdd 芒'r tr锚n. Yn 么l a ni i'r Maerdy. Pan gyrhaeddais i'r t欧, roedd pob golau ymlaen a'r lle'n llawn o bobl - Mam, dau frawd, Islwyn a Gwynn, nhad-cu ynghyd a pherthnasau a chymdogion, a llond bord o fwyd yng nghanol y stafell.

Gwelais Mam yn eistedd wrth ochr y t芒n ag arni ofn edrych arnaf. Es ati a rhoi fy mreichiau amdani gan sibrwd yn ei chlust fy mod yn iawn a bod dim achos iddi ofidio. Daeth gw锚n i'w hwyneb, a dyna Mam fel roedd hi'n arfer bod. Rhoi ordors i wneud y te a gofyn i bawb ddechrau bwyta. Es i'r gwely tua 3 o'r gloch y bore, ond methu a chysgu ar 么l chwech. Dihuno fy mrawd Islwyn a gofyn iddo ddod allan gyda fi. Cerddon ni mor bell a Glynrhedyn cyn troi tuag adref a chael Mam a Nhad ar y llawr yn aros amdanaf cyn gwneud brecwast.

Dyma fi yn 么l yn fy milltir sgw芒r ac yn lwcus i fod yno. Rhaid bod y rhyfel wedi bod yn amser caled i'm rhieni - fi allan yn y Dwyrain Pell a hwythau am beth o'r amser ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd imi, cyn derbyn y newyddion fy mod yn garcharor. Ac ar yr un pryd roedd Elwyn fy mrawd yn y RAF yn y Dwyrain Canol. Ond, fel y dywedodd Dafydd Iwan - 'Rwy' yma o hyd.'


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy