大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caerdydd
Kirsty JOnes (yn y canol) gyda'i ffrindiau Caerdydd Cartrefol
Mae Kirsty Jones o Hwlffordd sydd wedi dysgu Cymraeg, yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ysgrifennu am y profiad o fyw yn y brifddinas. Kirsty Jones yw'r un yn y canol yn y llun.

Gallwch chi fynd yno i dreulio eich blynyddoedd fel myfyriwr, gallwch chi fynd i chwilio am gyffro yn y s卯n nos neu gallwch chi fynd i ffeindio'r ffrog neilltuol yna sydd newydd gyrraedd ar yrhigh street.

Ond beth bynnag y rheswm, y mae ein prifddinas ni yn denu cymaint o bobl ifanc dros y wlad i gyd a thu hwnt oherwydd yr atyniadau amrywiol sydd ganddi. Mae cymaint o bethau newydd a chyffrous yn digwydd yng nghanol bywyd prysur y ddinas gyda phopeth y gallwch chi feddwl amdano ar gael; yn y canolfannau siopa mawr a bywyd nos blaenllaw'r wlad sydd yn llawn bwrlwm ac egni pob nos yr wythnos.

Gallwch chi brofi'r holl bethau ffantastig hyn wrth fynd i Gaerdydd... Ond ni all neb gerdded i lawr y strydoedd y ddinas heb weld rhyw berson arall o'n sir fach ni! Weithiau, mae'n teimlo fel nid ydych wedi gadael Sir Benfro o gwbl gan fod cymaint o bobl a gafwyd eu magu yn ein hardal ni wedi symud i Gaerdydd er mwyn astudio yn y Brifysgol neu chwilio am waith.

Caerdydd cyffrous
Nid peth rhyfedd ydy hwn gan ystyried, i oedolyn ifanc, mai Caerdydd yw un o'r lleoedd mwyaf cyffrous i fyw ym Mhrydain. Ond fel rhywun sydd wedi profi bywyd myfyriwr yng Nghaerdydd am dair blynedd, efallai mai safbwynt tueddol sydd gen i!

O safbwynt siopa, mae cymaint o ddewis yn Queen St, gan gynnwys yr holl ffefrynnau fel Top Shop, Miss Selfridge, H&M, Next, Zara, River Island, Warehouse, Oasis a llawer mwy, yn ogystal ag enghreifftiau o'r siopau enfawr newydd New Look a Primark sef cadwyn o siopau sydd wedi ffrwydro mewn poblogrwydd oherwydd eu polis茂au am gynnig y ffasiwn diweddaraf am brisiau rhad iawn. Mae nifer o ganolfannau siopa yn y stryd hefyd gan gynnwys y ganolfan Capital, Canolfan Dewi Sant ac Arc锚d y Frenhines.

Un o'r pethau cyntaf a sylwais wrth symud i Gaerdydd oedd y sinem芒u sydd ar gael yma. Mae yna rywbeth hiraethus i mi am y sinema fach 'Playhouse' yn Ninbych y Pysgod ac y 'Palace' sinema yn Hwlffordd ac yn y blaen ond mae'r nifer o sgriniau o dan un to yn y rhai yng Nghaerdydd yn rhyfeddol! Hefyd mae yna nifer helaeth o dafarnau a chlybiau nos dros y lle ac mae rhyw noson arbennig wedi'i threfnu ar gyfer myfyrwyr y Ddinas bron bob nos yr wythnos!

Nid oes angen mynd i'r dref bob amser fodd bynnag oherwydd mae gan Brifysgol Caerdydd un o'r undebau myfyrwyr gorau ym Mhrydain! Gyda nifer o lefelau a chlwb nos ei hun o'r enw Solus a neuadd fawr ar gyfer gigs.

Y bae
Canolfan y MileniwmOnd os ydych yn chwilio am rywbeth mwy soffistigedig, gallwch chi brofi beth bynnag sydd ar gael ym Mae Caerdydd. Mae'r rhan hwn o Gaerdydd wedi'i ddatblygu llawer yn ddiweddar gyda'i phrosiectau cymharol newydd fel Canolfan y Mileniwm yn denu llawer o ddiddordeb o ran y cynyrchiadau gwahanol ar y llwyfan. Mae dewis helaeth o fwytai arbennig ar gael yn yr ardal hon hefyd a gallwch chi gael blas o amryw ddiwylliannau gwahanol.

Un o'm hoff ddinasoedd ym Mhrydain ydy Caerdydd. Mae yna bob amser rhywbeth newydd i'w wneud, ond mae yna bob amser rhyw wyneb cyfeillgar o gwmpas hefyd!

Kirsty Jones

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.

  • Mwy o Gaerdydd

  • Gwefan Hwlffordd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Cynulliad Cenedlawthol Cymru
    Tywydd
    Lluniau
    Elusennau


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy