I fi, mae Caerdydd yn rywle ffantastig i fyw. Mae bywyd y myfyriwr yng Nghaerdydd yn arbennig o gyffrous; yn 么l yr hen ystrydeb, mae'n fywyd sy'n llawn cymdeithasu ac mae Caerdydd yn lle perffaith am hynny. I ddechrau, mae'r undeb yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol y myfyriwr. Yn yr undeb dych chi'n gallu gweld bandiau, mynd i'r clwb nos, ymuno 芒 chymdeithasau, cael g锚m o squash neu dennis, mynychu dosbarth funky arse disco dancing neu fynd am beint yn y dafarn ar 么l gwneud arholiad yn y Neuadd Fawr.
Astudio
O ran astudio, mae Caerdydd yn le perffaith i ddysgu 芒 chyfleusterau o bob math. Mae llyfrgell y brifysgol yn ffynhonell enfawr o wybodaeth am bob pwnc a dw i'n hoff iawn o ddarllen y tu allan i fy mhynciau pan fod digon o amser gyda fi.
Yn y darlithoedd a seminarau, cefnogir ni i drafod pethau a mynegi ein barn ein hunain. Hefyd, mae'r darlithwyr yn rhoi pwyslais ar ddarllen yn eang ac ar wneud ymdrech i weld dram芒u a ffilmiau sy'n berthnasol i'r cwrs.
Y Celfyddydau
Ac wrth gwrs, mae Caerdydd yn llawn cyfleoedd i wneud hynny. Yn y Canolfan Chapter Arts, gwelais fersiwn Gymraeg o The Vagina Monologues o'r enw Shinani'n Siarad ac addasiad ffilm o nofel Caradog Prichard Un Nos Ola Leuad.
Hefyd, mae cymdeithas ddrama'r brifysgol, Act one, yn llwyfannu dram芒u o bob math yn y Sherman, The Gate a'r YMCA. Mae'r dram芒u hyn yn enwog am fod yn broffesiynol ac mae'r tocynnau'n rhad iawn, felly dw i'n ceisio mynd i weld bob un sy'n cael ei llwyfannu.
Yn ychwanegol at ddram芒u, mae nifer o sinem芒u yn y ddinas lle dych chi'n gallu gweld cynhyrchiadau diweddaraf Hollywood, filmiau iaith dramor, ffilmiau byrion ac yn y blaen.
Bywyd Nos
Ar 么l noson o gelfyddyd, dw i'n mwynhau mynd allan i fariau a chlybiau nos y ddinas am ychydig o beintiau a sgwrs gyda ffrindiau. Dw i'n hoffi'r ffaith bod Caerdydd yn ddigon bach i weld eich ffrindiau heb drefnu cyfarfod, ond mae'n ddigon mawr i ddarganfod pethau newydd i'w gwneud drwy'r amser.
Pan fy mod i'n gadael ardal yr undeb, dw i'n hoffi mynd i glwbiau fel Clwb Ifor Bach, Moloko a Metro's. Ond, os dw i'n teimlo fel dawnsio i gerddoriaeth pop yr wythdegau, mae Reflex yn le perffaith i fynd. Os bydd gwell da fi gael diod tawel gyda fy ffrindiau, mae'r Rummer Tavarn a'r Pen & Wig yn darparu lle i ffwrdd o'r clwbiau brysur ar St Mary's Street.
Siopa
Yn ystod y dydd, mae'r stryd hon a Heol y Frenhines yn brysur, ond gyda siopwyr y tro hwn. Dw i wrth fy modd yn siopa yn y ddinas achos ei bod yn darparu popeth o fewn ardal eitha bach. Dw i'n hoff iawn o siopau dillad mawr fel H&M, Zara, Topshop a Miss Selfridge ond mae'n bosib treulio diwrnod cyfan yn crwydro'r arc锚dau am ryw fargen bach.
Hefyd, mae amrywiaeth o gaffis a bwytai yn yr arc锚dau sy'n lleodd perffaith am sbotio pobl enwog! Y tu allan i ganolfan y ddinas, mae strydoedd fel Albany Road yn llawn siopau elusen lle dych chi gallu ffeindio bargen neu rywbeth i wisgo i barti gwisg ffansi!
Mae fy Nghaerdydd i yn le prysur a chyffrous lle mae rhywbeth yn digwydd trwy'r amser ac mae bob dydd yn llawn bwrlwm. Ond hefyd, mae'n lle i ymlacio gyda fy ffrindiau a mwynhau awyrgylch hudol y ddinas.
Gan: Louise Andrewartha. Ysgrifennodd Louise yr erthygl hon pan oedd hi yn y flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd. Graddiodd yn haf 2005.
Ydych chi'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, neu a ydych chi'n dod i'r brifddinas yn fyfyriwr wythnos y glas am y tro cyntaf eleni? Cysylltwch 芒 ni gyda'ch profiadau chi trwy lenwi'r ffurflen isod, neu e-bostiwch eich stori aton ni.