Y Neuadd Fawr
Cynhelir hyd at 30 cyngherdd a g诺yl gwrw yn y Neuadd Fawr bob blwyddyn ond, ar yr ochr negyddol, mae'r Neuadd yn un o'r ystafelloedd arholi hefyd! Ar ddechrau'r tymor, ym mis Medi, cynhelir ffair gymdeithasau a'r ffair gwmniau yn y Neuadd Fawr ac mae'r rhain yn ddigwyddiadau prysur iawn.
Es i'r ffair gymdeithasau am y tro cyntaf llynedd ac ymunais 芒 dwy o'r 144 o gymdeithasau, sef The Funky Arse Disco Dancing Society a'r gymdeithas ddrama Act One.
Nid wyf yn ffan fawr o'r ffair gwmniau yn gyffredinol ond mae'n darparu cyfle da i gael pethau am ddim oddi wrth y cwmn茂au mawr.
Yn ogystal 芒'r ffeiriau hyn, cynhelir gwerthiannau posteri, planhigion, dillad, cryno ddisgiau a gemau yng nghlwb nos yr undeb, sef Solus.
Bywyd Nos
Y mae lle i 1600 o bobl yn Solus ac mae'n cynnal gigs ac yn darparu gwahanol mathau o gerddoriaeth bob nos. Fy hoff noson yn Solus ydy nos Lun oherwydd does dim rhaid i chi brynu tocyn ac mae'r gerddoriaeth yn ffantastig. Fel arfer, bydd DJ yn chwarae roc neu drum & bass yno a band byw yn perfformio mewn ystafell fach drws nesaf.
Os dych chi'n chwilio am rywbeth i'w wneud nos Fawrth, cynhelir clwb comedi yn Seren Las, sef math o gaffi/bar yn yr undeb. Dw i'n hoff iawn o glwb comedi achos eich bod yn gallu gweld comediwyr eithaf enwog am tua 拢5 ac mae poteli o win yn 拢6 yn unig (ac mae hynny yn gwneud i bopeth yn fwy doniol hefyd!)
Ddydd Mercher, cynhelir noson o'r enw 'Rubber Duck' sy'n tynnu torf o'r rhai sy'n mwynhau chwaraeon a phobl sy'n hoff o gerddoriaeth pop a R&B. Dydy'r noson hon ddim yn apelio ataf a dw i'n ceisio'i hosgoi os mae'n bosib. Mae'r diodydd yn rhad ond mae'r lle yn llawn bechgyn mawr wedi meddwi sy'n edrych am ferched.
Mae 'Lashtastic' ar nos Wener a 'Come Play' Nos Sadwrn yn brysur iawn, tipyn bach fel 'Rubber Duck'. Eto, dw i ddim yn ffan mawr o'r nosweithiau hyn ond os dych chi'n hoffi cerddoriaeth pop a diodydd rhad, mae'n berffaith i chi.
Y Taf
Nos Sul, mae cwis yn y Taf, sef tafarn yr undeb sydd fel arfer ar agor tan un ond yn cau yn gynharach ar nos Sul. Y mae'r cwis yn eitha soffistigedig gyda defnydd o sgrins mawr i ddangos lluniau o bobl enwog a golygfeydd o ffilmiau ac ati. Fel arfer, mae'r gwobrau yn dda, yn cynnwys arian a chwrw.
Yr unig beth nad wyf yn ei hoffi am y Taf yw'r ffaith nad oes llawer o seddau yno ac mae'n edrych tipyn bach yn rhy trendi i fi - mae'n well 'da fi dafarnau mwy traddodiadol a chysyrus lle dych chi'n gallu ymlacio.
Cyfleusterau Eraill
Mae cyfleusterau eraill sydd yn yr undeb yn cynnwys: siop yr undeb, y siop swyddi, Threshers, Blockbuster, bar brechdannau O'Brien's, lolfa deledu, Canolfan Cyngor, siop lyfrau, ystafelloedd cyfarfod a stiwdios y bapur newydd Y Gair Rhydd a safle radio Xpress FM.
Gan: Louise Andrewartha.
Ydych chi yn fyfyriwr yng Nghaerdydd? Llenwch y ffurflen isod gyda'ch straeon chi, neu anfonwch luniau aton ni at cymru@bbc.co.uk