大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Butetown a Bae Caerdydd
Mr Grahame Davies uwch-gynhyrchydd 大象传媒 Cymru'r Byd yn dangos 大象传媒 Vocab Saesneg Somalieg ar fws 大象传媒 Cymru yn Butetown Yn syml - yn Somalieg
Mae'r ddyfais gyfrifiadurol 大象传媒 Vocab, a grewyd i gynorthwyo dysgwyr Cymraeg, bellach yn helpu pobl gyda'r iaith Somalieg hefyd.
Datblygwyd VOCAB gan adran Cyfryngau Newydd 大象传媒 Cymru er mwyn galluogi defnyddwyr 大象传媒 Cymru'r Byd - gwefan fwya'r iaith Gymraeg - i gyfieithu geiriau unigol i'r Saesneg drwy ddal y llygoden dros y gair dan sylw.

Mae'r ddyfais yn golygu bod unrhyw un sydd angen cymorth gyda geirfa'r Gymraeg yn gallu cael hynny ar flaenau eu bysedd heb orfod defnyddio geiriadur arlein na chwaith un papur.

Mae wedi cael croeso brwd gan ddysgwyr yn arbennig, a hynny nid yn unig yng Nghymru ond mewn sawl man yn y byd.

Hefyd, mae llawer o bobl wedi nodi pa mor ddefnyddiol y gallai'r rhaglen fod ar gyfer ieithoedd eraill.

Felly, fel y cam cyntaf tuag at ehangu Vocab ar gyfer ieithoedd eraill, ac fel rhan o strategaeth gymunedol 大象传媒 Cymru yn Butetown ym Mae Caerdydd, fe lansiwyd gwasanaeth Vocab i gyfieithu rhwng y Saesneg a'r iaith Somalieg.

Mae rhyw 8,000 o bobl Somali yng Nghaerdydd, lle maen nhw'n ffurfio un o gymunedau Moslemaidd hynaf, os nad yr hynaf, ym Mhrydain.

Dechreuodd y gymuned Somali yng Nghaerdydd wrth i forwyr o Somalia ymgartrefu yng Nghymru fel gweithwyr yn y dociau ddiwedd y 19eg Ganrif, yn fuan ar 么l agor Camlas Suez.

Atgyfnerthwyd y gymuned yn yr 80au pan ddaeth llawer o ffoaduriaid i Gaerdydd i osgoi rhyfel cartref yn Somalia, ac mae cysylltiadau cyson rhwng Somaliaid Caerdydd ag Affrica.

Bellach, mae modd i'r gymuned yng Nghaerdydd ddarllen newyddion am dde ddwyrain Cymru gyda chymorth 大象传媒 Vocab, sydd yn cyfieithu rhwng y Saesneg a'r Somalieg. Cliciwch yma i weld.

Grahame Davies gyda Mr Said Dualeh o gymuned Somali Caerdydd, ac ymwelydd o gymuned Somali LlundainMae'r gwasanaeth hwn yn gymorth i bobl sydd yn dysgu'r Saesneg, ac i rai sydd wrthi yn dysgu Somalieg. Gwnaethpwyd y cyfieithiadau Somalieg gan Mr Mohamed Dualeh, aelod o gymuned Somali Caerdydd. Ei frawd, Said, sydd yn y llun ar y tudalen hwn.

Amcangyfrifir bod oddeutu 15m o siaradwyr Somalieg yn Affrica ac yn rhannau eraill o'r byd. Un o ieithoedd cryfaf Affrica yw hi, gyda siaradwyr yn Somalia, yn Somaliland - a dorrodd i ffwrdd o Somalia yn 1991 - yn Djibouti, Kenya, ac Ethiopia.

Ers 1972, mae'r iaith wedi cael ffurf ysgrifenedig, yn defnyddio'r wyddor Ladin. Cyn hynny, diwylliant llafar oedd hi, ond gyda chyfoeth o straeon a cherddi traddodiadol.

"Cafodd VOCAB ei ddyfeisio er mwyn cyfieithu rhwng ieithoedd o bob math," meddai Grahame Davies, uwch-gynhyrchydd Cymru'r Byd. "Heblaw am Somali, rydym yn edrych ar y posibilrwydd o ddarparu'r gwasanaeth yng Ngaeleg yr Alban, yn y Wyddeleg, ac mewn ieithoedd lleiafrifoedd ethnig ym Mhrydain."

"Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chymorth Bwrth yr Iaith Gymraeg i ehangu ac i wella'r system Vocab Cymraeg," ychwanegodd.

  • Cliciwch yma i weld 大象传媒 Vocab, sydd yn cyfieithu rhwng y Saesneg a'r Somalieg.

  • Cliciwch yma i weld 大象传媒 Vocab sydd yn cyfieithu rhwng y Gymraeg a'r Saesneg.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Caerdydd
    Cynulliad Cenedlawthol Cymru


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy