大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wynfield Jones Y Byd yn Fflam
Roedden nhw mewn oed, o dan deimlad ac yn s么n am erchyllterau sydd y tu hwnt i amgyffred y rhan fwyaf o bobl.

Nhw oedd cyfranwyr y rhaglen O Flaen Dy Lygaid: Y Byd yn Fflam, a ddarlledwyd ar S4C ar Fai 10. Roedd y rhaglen yn bortread teimladwy o glytwaith profiadau amrywiol Gymry a ymladdodd yn yr Ail Ryfel Byd.

Llanciau ifanc oedden nhw pan dorrodd y rhyfel allan.

"Rhyw amser diniwed iawn oedden ni yn gael yn ein plentyndod," meddai Ifan Williams o Lanystumdwy, "mynd am dro ar hyd y caeau, cael nythod adar a ballu, hel ffrwytha'... Oedd busnas y rhyfel y tu allan y pentra' ddim yn dod ar draws ein meddyliau ni."

Yr argraff a gaed oedd nad oedd gan y llanciau hyn syniad o realaeth ciaidd bywyd ar flaen y gad.

"On i mor ifanc," meddai Wynfield Jones o Ystradgynlais. "Oni'n meddwl, 'jiw - 'na fechgyn brave'. Youngsters bach oe'n ni gyd a oni'n meddwl bod hi'n wonderful bo nhw'n mynd allan yna a dryll ganddyn nhw a saethu popeth a welen nhw."

Roedd Cyril Jones o Gricieth hefyd yn meddwl ei fod yn dipyn o foi ar ddechrau'r rhyfel, pan aeth i Wrecsam i gynnig ei hun i'r fyddin.

"Mi ddywedodd rhyw Sarjant Major, 'just the man we want'. Wel, oni'n teimlo fy hun yn lledu..."

Ond buan y gwawriodd gwirionedd rhyfel arno wedi brwydr Dunkirk.

"O'dd hi'n rhemp yno. .. oedd y gelyn yn gryfach na ni o lawer... Oedd y llanast mwyaf ofnadwy yno... oedd y French Cavalry a'r fyddin wedi eu lladd.. Roedden ni'n dreifio dros y cyrff."

Profodd nifer galedi erchyll carchardai rhyfel a phoen colli cyfoedion a chyfeillion mewn sefyllfaoedd gwaedlyd-greulon. Roedd yn rhaglen ddirdynnol, deimladwy wrth i'r cyfranwyr agor llifddorau'r cof ar brofiadau erchyll y bu'n rhaid iddyn nhw fyw trwyddynt a byw gyda nhw gydol eu hoes.

Yn ogystal 芒'r cyfranwyr uchod,clywodd y rhaglen hanes Donald Bradfield, Abertridwr, Bruce Coombes, Llangyndeyrn, Cydweli, D.T.Davies o'r Dryslwyn, Emrys Wyn Evans o Gaersws, Ronald Hayward, Maenygroes, Cei Newydd, Dan Jones, Gorslas, ac Aran Morris, Borth, oll yn s么n am eu profiadau personol hwy. Darlledwyd O Flaen Dy Lygaid: Y Byd yn Fflam, ar nos Fawrth Mai 10 ar S4C.

  • Cliciwch yma i ddarllen atgofion rhyfel trigolion Canolbarth Cymru, a gallwch chi gyfrannu eich atgofion chi at y wefan hon hefyd.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy