大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clebran
Ann Howells Rhocesi'r Preseli : Ann Howells
Chwefror 2005
Mae'r golofn hon o Clebran yn gyfle i un o ferched bro'r Preseli ddweud ei dweud bob mis. Y mis hwn, tro Ann Howells, Offeiriad plwyfi Clydau, Lianfyrnach a Llanglydwen yw hi.
Rydyn ni i gyd yn cwyno am rywbeth - y tywydd diflas a'r glaw (diderfyn, neu ein poenau bach a'r ffaith ein bod ni'n mynd yn hen. Pa mor aml ydyn ni'n eistedd i lawr i gyfrif ein bendithion? Mwy na' thebyg nid yn aml iawn, 芒 bod yn onest. Weithiau mae'n cymryd rhywbeth mawr i'n hysgwyd ni, ac i i'n gwneud ni feddwl. Rhywbeth fel y ddaeargryn a ysgwydodd y M么r Indiaidd ar 糯yl San Steffan 2004.

Yn gorwedd yn y gwely yn gwrando ar y newyddion y bore hwnnw, roedd hi'n anodd cymryd y manylion i mewn. Mae 'na ddaeargryn wedi bod... a miloedd wedi marw yn Sri Lanka, India, Indonesia a Gwlad Thai ... bydd rhaid i mi gofio gwedd茂o dros y sefyllfa yn y gwasanaeth yn yr eglwys y bore 'ma. Dim ond rhai oriau yn 么l, yn chwilio am gyrff eu hanwyliaid, roedd maint y drychineb wedi dechrau suddo i mewn.

Mae'n anodd i ni ddychmygu sut oedd y bobl yn teimlo ar 么l iddyn nhw golli popeth. Mae'r ffaith bod y ddaeargryn wedi taro yn ystod y gwyliau pan roedd pobl o'r wlad hon yn aros yn y gwledydd hyn, wedi gwneud i'r drychineb ddod yn nes adref. Nid rhywbeth sy'n effeithio ar bobl Asia yn unig ydy hon - ond rhywbeth sy'n effeithio arnom i gyd.

Mae'r ffaith bod cymaint o bobl yn y wlad hon wedi rhoi yn hael i ap锚l y Tsunami yn dangos bod dioddefaint y miliynau wedi cyffwrdd 芒'n calonnau. Mewn ychydig o amser daeth miloedd o bunnau i mewn, ac aeth llawer o bobl ati i drefnu gweithgareddau i godi arian. Mae rhai wedi bod yn awyddus i helpu trwy gasglu pethau ymarferol - d诺r, bwydydd a meddyginiaeth.

Mae Euryl y g诺r yn Gaplan yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin. Gwnaeth yr ysbyty ap锚l am bethau ymarferol, a threfnwyd i ddwy lori fawr gasglu'r rhoddion a'u hanfon i ffwrdd. Ar 么l cyhoeddi'r ap锚l yn fy eglwysi ar y Sul, daeth llawer o'r plwyfolion i'm swyddfa yng Nghrymych gyda bagiau plastig yn llawn o bethau ymarferol. Aeth tri llond car i lawr i'r ysbyty un bore Gwener, i ymuno 芒'r bobl eraill a oedd hefyd wedi bod wrthi yn casglu.

Rwy'n si诺r bydd angen help ar y bobl druenus yn Asia am fisoedd eto. Ond mae'r ffaith bod cymaint o bobl yn y wlad hon ac yn yr ardal hon wedi dangos eu parodrwydd i'w helpu yn codi calon rhywun. Mae'r ddaeargryn yn Asia wedi ein hatgoffa ni pa mor ffodus yr ydym ni i fyw yn y wlad hon. Gadewch i ni gyfrif ein bendithion, a pheidio 芒 chwyno am y pethau bychain sydd yn ein poeni, wrth i ni gofio am y rhai sy'n dioddef yn ein byd.

Dan ofal Prosiect Papurau Bro


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy