大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clebran
Criw o bobol ifanc yr ardal Cyngerdd Aelwyd Crymych
Medi 2007
Daeth cynulleidfa luosog i Theatr y Gromlech ar nos Fawrth, 17 Gorffennaf i fwynhau rhai o eitemau gan aelodau Aelwyd Crymych a fu'n cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir G芒r eleni.

Cafwyd amrywiaeth eang o eitemau gan gynnwys Parti Llefaru, C么r Cymysg, C么r Merched, Parti Deusain dan 15 oed, Parti Llefaru dan 15 oed, Unawdau, Noson Lawen yn ogystal ag eitemau gan fuddugwyr o ysgolion cynradd Cylch y Frenni, sef Ysgol Eglwyswrw ac Ysgol y Frenni. Derbyniwyd nifer o wobrau ar gyfer y raffl ar y noson.

Llongyfarchiadau mawr i'r parti llefaru a'i hyfforddwraig Eirian W. Jones ar ennill y safle cyntaf yn yr Eisteddfod eleni yn ogystal 芒 Sioned Llewelyn a dderbyniodd y wobr gyntaf yn yr unawd a'r ail yn yr alaw werin. Cipiodd y Parti dan 15 yr ail wobr o dan hyfforddiant Rhian Davies a'u cyfeilyddes Meleri Williams. Cafodd yr aelwyd dipyn o hwyl hefyd wrth gyflwyno sioe a oedd yn seiliedig ar waith a bywyd y digrifwyr Ryan a Ronnie. Llwyddodd y corau dan 25ain oed gyrraedd safon uchel eleni eto. O dan hyfforddiant Catrin Davies a chyfeiliant Margaret Rhys cafwyd beirniadaeth arbennig a chanmoladwy.

Trefnir gwahanol weithgareddau i aelodau'r aelwyd ar draws y flwyddyn. Ac eleni eto daeth clod ac anrhydedd i'r aelodau wrth iddynt gystadlu yn sirol ac yn genedlaethol mewn meysydd eraill megis chwaraeon. Mae'r gwaith o drefnu rhaglen ddiddorol ac amrywiol yn anodd ac mae'n dyled yn fawr i'r arweinyddion Eleri Thomas a Si芒n Williams a'r gwirfoddolwyr eraill am eu gwaith diflino drwy gydol y flwyddyn.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy