大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clebran
Garry Owen a Mari o'r Efailwen Taith Post Cynta
Mae Garry Owen a gweddill t卯m y Post Cyntaf, yn cydweithio gyda thimau gwahanol bapurau bro yn ystod wythnos o ddarlledu led led Cymru, gan gynnwys yng nghaffi Beca ger Crymych gyda th卯m Clebran.
  • Lluniau o griw Clebran yn darlledu'n fyw ar y Post Cyntaf, 大象传媒 Radio Cymru

    Cyn cychwyn ar y daith, meddai Garry:

    "Mae cyffro mawr yn ein t欧 ni ar y funed. Mae'r Nadolig yn agos谩u a gair yr wythnos yw "pacio"! Mae'r anrhegion Nadolig i'w lapio wrth gwrs, ond mae hefyd yn amser dodi pethe yn barod i'w pacio ar gyfer taith Nadolig y Post Cyntaf sy'n dechre' ar ddydd Llun y 11eg.

    Mae cymaint i'w wneud a'r amser yn brin, felly er mwyn bod yn drefnus gwell i fi lunio rhestr o beth sy' angen arna i cyn dechre ar y siwrne o Benybont i Grymych, wedyn lan i Langadfan a Llanrug cyn gorffen yn yr Wyddgrug.

    1. Map. Does dim gyment 芒 hynny o bobol o gwmpas i'w holi ben bore ar y stryd os ydw i ar goll yn llwyr. Y peth calla felly yw trefnu'r siwrne mlaen llaw ... a chadw map yn gyfleus ... rhag ofn! Nawr te' beth yw'r ffordd gyflyma i fynd o Tabernacl Penybont ar Ogwr ddydd Llun, i Gaffi Becca ger Crymych dydd Mawrth ac o fanna lan i ganolfan gymunedol Llangadfan ddydd Mercher cyn teithio i'r Stiwt yn Llanrug ddydd Iau a dod 芒'r daith i ben yng nghapel Bethesda`r Wyddgrug ddydd Gwener.

    2. Het . Dyw Rhagfyr ddim yn un o'r misoedd mwya' caredig o ran y tywydd a phan bod 'da chi steil gwallt tebyg i fi ... mae het yn hanfodol! Fe dd'wedod hen ewyrth wrtha i un tro, eich bod yn colli mwy o wres o'ch pen nag unrhyw ran arall o' corff ... felly het amdani! Ond pa het? Y llynedd fe gafodd t卯m y daith hwyl i'w ryfeddu am yr het fach wlanog y bues i yn ei gwisgo . Efallai mai doeth fydde buddsoddi mewn het fach newydd eleni felly!

    3. Papur a phensil. Does dim cyfrifiadur ar daith, ac mae'n syndod faint o negeseuon pwysig, rhifau ff么n a chyfeiriadau sydd angen eu nodi .

    4.Crib (j么c!!!)

    5. Peiriant recordio a digon o dapiau: dyma y peth mwya hanfodol er mwyn cadw sgyrsiau byrlymus, eitemau difyr a stor茂au di-ben-draw y daith ar gof a chadw.

    6. Digon o siocled a gwin i'r cynhyrchydd druan sy'n dod mas ar daith gyda fi, mae'r geiriau "amynedd Job" yn dod i feddwl!

    7. Cop茂au o bapurau bro Yr Hogwr, Clebran, Plu'r Gweunydd, Eco'r Wyddfa a Papur Fama. Dyma'r papurau sydd yn rhan o daith 2006. Nhw fydd y golygyddion a nhw fydd yn dewis a chyflwyno y stor茂au.

    'Rwy'n meddwl mai dyna'r cwbwl am nawr. Yr unig beth sy ar 么l i'w wneud nawr yw y gwahoddiadau. Mae hynny yn ddigon hawdd ... 'Annwyl ddarllenwyr a gwrandawyr y Post Cyntaf. Dewch i fwynhau ein taith Nadolig eleni, gyda help papurau bro Cymru . Os byddwn ni yn galw heibio i'ch ardal chi, dewch draw i'n gweld ni. Os na allwch chi neud hynny wel croeso mawr i chi ymuno 芒 ni bob bore ar Radio Cymru ... yn eich bro unrhyw bryd. Well mynd n么l at y pacio!'

    Hwyl Garry"

    Manylion yr wythnos

    Bydd timau pump o bapurau bro Cymru yn dod 芒 phersbectif ffres i'r rhaglen o lygad y ffynnon drwy ddewis straeon ar gyfer y rhaglen, dod o hyd i gyfrannwyr lleol a chadw trefn ar y cyflwynwyr!

    Mae hanes papurau bro Cymru yn stori o lwyddiant anhygoel yng ngwahanol ardaloedd Cymru, a phob un gyda'i steil a'i hunaniaeth ei hun.

    Mae golygyddion y papurau bro yn hen lawiau ar chwilio am stori, sgrifennu, casglu a golygu a hynny yn erbyn dedleins tynn bob mis. A dyma'r dewis perffaith felly wrth i Post Cyntaf chwilio am olygyddion gwadd i'r rhaglen.

    Dyma'r papurau bro sy'n cymryd rhan a lleoliadau'r darlledu:

  • Dydd Llun, Rhagfyr 11: Pen-y-bont ar Ogwr gyda th卯m Yr Hogwr yn golygu.
  • Lluniau yma

  • Dydd Mawrth, Rhagfyr 12: Caffi Becca ger Crymyrch, gyda th卯m Clebran wrth y llyw.
  • Lluniau yma

  • Dydd Mercher, Rhagfyr 13: tro t卯m Plu'r Gweunydd fydd hi gyda'r rhaglen yn cael ei darlledu o Fws y 大象传媒 yn Nghanolfan Gymunedol Dyffryn Banw, Llangadfan.
  • Dydd Iau, Rhagfyr 14: t卯m Eco'r Wyddfa sy'n golygu a darlledir y rhaglen o'r Stiwt yn Llanrug.
  • Dydd Gwener, Rhagfyr 15: Capel Bethesda, yr Wyddgrug fydd y gyrchfan a th卯m Papur Fama fydd yn golygu.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy