大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Glo M芒n
Milijko Milosovic Milosovic yn ein plith
Gorffennaf 2003
Na, nid y Slobodhan Milosovich hwnnw sydd mewn carchar ac yn cael ei farnu mewn Llys Barn yn yr Hague, ond Miljko Milosovic, Milk-o i' w ffrindiau a'i gydnabod. Cymeriad annwyl ydyw ac adnabyddus i lawer yn ardal Llandybie a'r cyffuniau.

Gwelir ef yn aml yn cerdded o amgylch y pentre gyda'i gi bach gwyn. Fel y Milosovic arall, o Serbia y daw Miljko, ond treuliodd oes bron yn y wlad hon ers adeg yr Ail Ryfel Byd. Mae hanes diddorol iddo.Ganwyd ef yn Serbia ond yn ifanc iawn symudodd gyda'i rieni a'r teulu i Kosovo i fyw. Pan dorrodd yr Ail Ryfel byd allan yn 1939 llanc ifanc oedd ond serch hynny ymunodd 芒'r Resistance Movement, yn Yugoslavia, er mwyn gwneud ei ran yn amddiffyn ei wlad yn erbyn y Nats茂aid. Tua diwedd y rhyfel roedd byddin Rwsia wedi cyrraedd Bwlgaria a Hwngari ac yn paratoi i wthio mlaen tua'r gorllewin. O ganlyniad symudodd aelodau'r Gwrthsafiad ymhellach ir gorllewin, i mewn i Awstria a'r Eidal, er mwyn dianc oddi wrth Gomiwnyddiaeth Rwsia a Tito.

Erbyn Mai 1945 cafodd Miljko ei hun mewn camp i ffoaduriaid yn Forli yn yr Eidal a tua adeg yr hydref symudwyd ef ymhellach i'r de i Eboli cyfagos i Naples o dan nodded milwyr Prydeinig. Llafuriodd yn y transit camp yn helpu' n milwyr ni i baratoi ar gyfer y siwrnai n么l i Loegr cyn cael "demob".

Yn 1947 gwnaeth Tito gais am i bob Yugoslav ddychwelyd garte ac ar yr un pryd symudwyd Miljko i wersyll carcharorion rhyfel gynt yn yr Adran Brydeinig o'r Almaen. Cafodd ei drin mwy fel carcharor rhyfel yno nag fel un a fu'n ymladd o'n plaid yn y Gwrthsafiad. Bu rhai o aelodau'r gwarchodlu'n garedig iawn iddo ond cafodd ei dwyllo'n arw gan un pan geisiodd gyfnewid Leica camera am dorth o fara. Profiad chwerw iawn wrth ystyried mai Cymro oedd y twyllwr. Ychydig wyddai'r gwyliadurwr tywyllodrus y byddai ef a Miljko yn cyfarfod wyneb yn wyneb mewn neuadd ym Mhort Talbot rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Ond stori arall yw honno!

Yn y cyfamser yn Llundain bu'r U.N. yn dadlau dyfodol y ffoaduriaid a chytunwyd na chai unrhyw un ei ddanfon n么l i Yugoslafia at Tito yn erbyn ei ewyllys. Allan o naw mil o ffoaduriaid dim ond pedwar unigolyn ddewisodd ddychwelyd i fyw o dan lywodraeth Tito. Roedd y gweddill yn rhydd i chwilio am waith yn yr Almaen. Arhosodd Miljko yn y gwersyll a llwyddodd i gael gwaith yn Ffatri Volkswagen.

Cyn diwedd y flwyddyn daeth cais oddi wrth gynrychiolwyr Prydeinig am wirfoddolwyr o blith y ffoaduriaid i ddod i'r wlad hon i weithio, ac ar 11eg o Ionawr 1948 glaniodd Miljko gyda channoedd eraill ym mhorthladd Harwich. Rhoddwyd papur 拢1 a chwdyn o frechdanau i bob un ohonynt. Aeth i Lundain am ddiwrnod ac o'r fan honno i Gaer Efrog cyn teithio i Oakdale yn Sir Fynwy i ddysgu sut i fod yn l枚wr. Ar 么l adeg o baratoi cyrhaeddodd Milj ko Hirwaun i aros mewn neuadd breswyl yn agos i'r pwll glo. Bu'n gweithio'n galed o dan ddaear a llwyddodd i gymdeithasu'n hapus 芒'i gydwladwyr ei hun a Chymry'r ardal. Ond nid oedd yn hapus yn ei waith fel gl枚wr. Roedd cytundeb ganddo i aros dan ddaear am dair blynedd, a'r unig ffordd allan o'r cytundeb oedd gweld y meddygon ym Merthyr a Chaerdydd. Cytunwyd nad oedd ei iechyd yn caniatau iddo barhau o dan ddaear.

Chwiliodd am waith yn y "Labour Exchange" a derbyniodd swydd yn y gwaith Haearn a Dur yn Briton Ferry. Symudodd o Hirwaun i fyw mewn neuadd breswyl yn Clasemont Treforys gan fod hwn yn fwy cyfleus i'w waith newydd. Teithiai bob dydd o Dreforys i'r Ffrwdwyllt, Port Talbot ac ar y penwythnos yn ei amser hamdden ai yn 么l i Hirwaun at ei ffrindiau. Yno, hap iddo gwrdd 芒 Chymro a chanddo frawd, Moc Williams, yn byw yn Taibach.

Yr wythnos ganlynol n么l yn Port Talbot holodd Miljko amdano a chafodd wahoddiad i gartef Moc Williams lle croesawyd e'n gynnes gynnes gan y teulu. Tra roedd yno gwnaeth Miljko ymholiad am lety cyfagos er mwyn arbed ar y siwrnai o Dreforys bob dydd. I gwtogi ar yr hanes gwahaoddwyd ef yr wythnos ganlynol i aros gyda Moc Williams a'i deulu nes iddo ddod o hyd i le mwy addas i fyw.

Ym mis Mai 1951 cafodd swydd yn yr Abbey, gwaith dur newydd ar y pryd yn gweithio yn y Blast Furnace.

Bu teulu'r Williams yn garedig iawn iddo mewn sawl cyfri a chafodd groeso brwd yn y Clwb Ieuenctid yn perthyn i Eglwys y Wesleaid lleol. Roedd merch Moc, Nancy yn gerddorol iawn ac yn medru canu a chyfeilio ar y piano. Heb fod yn hir cafodd bersw芒d ar Miljko i ymuno 芒'r C么r Ieuenctid. Roedd yn glir ac yn anochel bod y ddau yn cwympo mewn cariad. Priodwyd y ddau yn y Capel Wesleaid Taibach. Byw yn hapus gyda'i gilydd yn codi teulu bu'r canlyniad wedi hynny.

Bach iawn gredodd Miljko pan symudodd i'r "Digs" newydd yn Port Talbot byddai Moc Williams a'i wraig yn dad a mam yng nghyfraith iddo yn y dyfodol agos. Arhosodd Miljko yn ei swydd yn yr Abbey am dros dri deg dau o flynyddoedd cyn ymddeol.

Mae'r cymydog caredig hwn wedi byw'n barchus ac wedi gweithio'n ddyfal, diflino yng Nghymru am dros hanner can mlynedd. Pleser ac anrhydedd yw cael cwmni i'r bonheddwr o'r Balkans yn ein plith yn Llandybie. Hir oes iddo a'i briod.

Sidney Hopkin.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy