大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Cardi Bach
Cymreigiwch Abertawe - g诺yl a gynhaliwyd gan y Fenter yng nghanol dinas Abertawe. Newyddion o Fenter Iaith Abertawe
Mawrth 2005
Wilia eto! Gorfod meddwl am beth newydd i'w ddweud. Ond diolch i'r nefoedd, mae wedi bod yn gyfnod prysur felly mae digonedd o ddigwyddiadau wedi digwydd.

I ddechrau cafwyd Gwener y Grolsch bywiog iawn ar y 26ain o Chwefror gyda Eryr, Bob, Java a Plant Duw yn perfformio, aeth yr arian i gyd i godi arian ar gyfer alldaith elusennol rhai o ddisgyblion G诺yr i Egwador. Diolch yn fawr iawn i Angharad Jenkins am drefnu'r cyfan, llongyfarchiadau mawr iddi hi. Bydd y gig nesaf ar y 25ain o Fawrth gyda MC Saizmundo a synDcut yn perfformio; rydym yn disgwyl ymlaen yn eiddgar am y gig, gan mai dyma'r tro cyntaf i Gwener y Grolsch fod yn noson Hip Hop Cymraeg. Dylai fod yn noswaith gwych a diddorol iawn, felly dewch yn eich cannoedd ieuenctid Abertawe.

Cynhaliwyd g诺yl 'Cymreigiwch Abertawe' ar ddiwedd Chwefror, a fu'n llwyddiant mawr eto eleni. Bu'r Fenter yn gyfrifol, ar y cyd 芒'r cyngor, am drefnu digwyddiadau yn y cwadrant. Cawsom stondin yng nghanol y ganolfan siopa, a oedd yn gyfle gwych i farchnata gweithgareddau'r Fenter a chyfleoedd i ddysgu ac i ddefnyddio'r Gymraeg yn Abertawe, ymhlith pethau eraill. Trefnodd y Fenter berfformiad gan ysgol Mark Jermin a dawnsio gwerin gan Ysgol Gyfun Ystalyfera, a chafodd y ddau beth dderbyniad gwych gan y cyhoedd.

Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a roddodd o'u hamser a'u hymdrech i gyfrannu at yr 诺yl unwaith eto eleni.

O Fawrth y 14eg ymlaen bydd Swyddog newydd yn ymuno 芒 th卯m y Fenter! Bydd Eleri Griffiths, sydd ers yn ddiweddar wedi bod yn gweithio gyda'r Urdd yn Abertawe, yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ar draws Morgannwg a Gwent i recordio a chofnodi hanes yr iaith Gymraeg yn ne Cymru, yn ogystal 芒 gwneud ymchwil i dafodieithoedd a chyweiriau ieithyddol. Bydd Eleri yn gweithio am gyfnodau gydag 8 Menter Iaith, er mai swyddfeydd Abertawe fydd ei chartref am y ddwy flynedd nesaf.

Bydd Eleri yn datblygu prosiectau gyda grwpiau lleol, mewn cydweithrediad 芒'r Mentrau laith i gofnodi etifeddiaeth y Gymraeg yn y cymunedau. Bydd yn cofnodi'r wybodaeth trwy ddefnyddio technegau amrywiol a chreadigol ee ffilmio, recordio ar d芒p, tynnu lluniau digidol, yn ogystal 芒 threfnu siaradwyr gwadd i drafod hanes ieithyddol y cymunedau unigol. Caiff y prosiectau amrywiol eu harddangos mewn llyfrgelloedd a chanolfannau lleol yn ystod y ddwy flynedd er paratoir arddangosfa a stondin i ddangos y gwaith i gyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aber tawe 2006. Mae ei swydd wedi cael ei hariannu trwy gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae'r gronfa yn galluogi cymunedau i ddathlu, gwarchod a dysgu mwy am ein treftadaeth gyfoethog.

Mae Swyddog Cymraeg yn y Gymuned newydd y Fenter wedi dechrau ar ei swydd yn gweithio yn 9 ward Amcan 1 Abertawe. Dechreuodd Sioned Wyn Bowen, sydd yn wreiddiol o Rydaman, yn ei swydd newydd ar y 14eg o Chwefror. Nid yw Sioned Wyn yn wyneb newydd i'r Fenter, hyd yn ddiweddar, hi oedd Swyddog Busnes y Fenter, yn hyrwyddo gwasanaethau dwyieithog i fusnesau a mudiadau'r sir. Mae Sioned Wyn wedi cymryd lle Siwan, ac mi fydd yn parhau ac yn cryfhau'r cysylltiadau a'r partneriaethau sydd wedi cael eu sefydlu yn y 9 ward. Bydd yn canolbwyntio'n bennaf fodd bynnag, ar ardaloedd Blaenymaes, Portmead, San Tomos, a Glandwr dros y misoedd i ddod.

"Dwi'n edrych ymlaen at barhau 芒'r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn y 9 ward Amcan 1 yn barod ond datblygu prosiectau newydd a chefnogi'r Gymraeg yn yr ardaloedd nad sydd wedi cael cymaint 芒 hynny o sylw eto. " Bwriad y prosiect yw hybu hunan- hyder a chynhwysedd cymunedau o fewn y 9 ward mewn ffyrdd agored a phositif. Mae swydd Sioned Wyn wedi hael ei hariannu gan nawdd Ewropeaidd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy