´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pwsi Meri Mew Gŵyl y Cenhedloedd Bychan
Hydref 2007
"Oedd isio wellies a dillad glaw - dim fy syniad i o 'night out' arferol!" Llio Silyn wedi mwynhau Gŵyl y Cenhedloedd Bychan er gwaetha'r mwd a'r glaw!

Fel un na fynychodd yr ŵyl yng Nghil- y- cwm o'r blaen - doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth i ddisgwyl. Wedi'r cyfan, gŵyl yng nghanol dim un man? - mewn pentre' bach ar gyrion Llanymddyfri - oedd siop ne' dafarn yna? Wel, dyma ffrind yn cael perswad arna i i fynd - ac nid dim ond mynd ond cytuno i weithio tu ôl i'r bar am ychydig orie hefyd. Wel, os cofiwch, roedd mis Gorffennaf yn un go wlyb - oedd isio wellies, dillad glaw, - dim fy syniad i o 'night out' arferol!

Mi gyrhaeddais, roedd hi'n syndod o braf - gwisgais fy sgidie cerdded - wedi'r cyfan - roedd popeth siŵr o fod wedi sychu allan-yn toedd?!! Wel cyrhaeddes y fynedfa - dyna lle roedd Gaynor yn eistedd yn ei Wellingtons a'i thrywsus glaw, uffach o wen fawr ar ei hwyneb a sŵn grêt yn dod o'r babell fawr. 'Dechre yn y bar' medde hi, 'iawn', me' fi, 'ble ma'r bar?', 'Jest draw fynna' - Oedd mi roedd e, ochr arall y mor o fwd. Wel, doedd dim amdani - dwy droed i fewn - a wyddoch chi be' roedd fel bod mewn 'steddfod!

Ces i noson penigamp - cwrdd pobl o bedwar ban byd yn ceisio gofyn am beint yn Gymraeg, gwrando ar amrywiaeth o gerddoriaeth a chyfle i bobl gymryd at y meic a dangos eu talent. Roedd yno naws mor gartrefol, hamddenol a chyfeillgar. Pa ots am y mwd, roeddwn i yma i joio a joio wnes i, ac mi fydda i nôl eto y flwyddyn nesa'. Y cwestiwn yw, a fydd 'na fwy o Gymry yno efo fi?

'Rwy'n ffan mawr o'r ŵyl arbennig yma mae o jest mor lliwgar, ac yn ddathliad hyfryd o gymaint o wahanol fathau o gerddoriaeth o safon uchel o bedwar ban byd. Jazz, gwerin, ska, reggae, bangra, roc,rap/hiphop a DJ's -mae'na rwbeth at ddant pawb- heb sôn am yr amrywiaeth o fwydydd, a stondinau difyr.

Penwythnos grêt i'r teulu, gyda digon o weithgareddau creadigol i gadw'r plant yn ddiddig. Ac wrth gwrs, mae'r cyfan yn digwydd mewn llecyn mor dlws yng Nghil-y-cwm. Profiad hudolus, hyd yn oed yn y mwd a'r baw eleni.

Mae'r math yma o ŵyl hefyd yn fodd i hyrwyddo'r Gymraeg a Chymreictod, gyda'r bandiau gorau yn y sîn roc/gwerin Cymraeg a phob perfformiad drwy'r penwythnos yn cael ei gyflwyno'n ddwyieithog gan yr unigryw 'John Gog' yn ei gilt. -a do, ges innau fy nhynnu mewn i weithio tu ôl y bar yn ystod yr awr Gymraeg. Dewch yno'n llu y flwyddyn nesa' -mae hon yn ŵyl llawer rhy dda i'w cholli.

Llio Silyn


Cynhaliwyd Gŵyl Cil-y-Cwm 2007 ar 13 - 15, Gorffennaf.

  • Lluniau o ŵyl Dinefwr 2007

  • [an error occurred while processing this directive] 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý