大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abertawe
Y Parchedig Eirian Wyn Llais Cymraeg y Liberty
Faint ohonoch chi sy'n mynd i wylio gemau'r Elyrch ar faes Liberty yn Abertawe a wedi sylwi ar y sylwadau Cymraeg dros yr uchel seinydd yn y stadiwm newydd? Un o ffans pennaf y t卯m, y Parchedig Eirian Wyn yw'r wyneb tu 么l y llais.
Llais Cymraeg Liberty
"Dim ond ers i'r stadiwm newydd agor rydw i wedi bod yn lais ar y system sain yn gemau cartref yr Elyrch. R'on i'n gefnogwr yn y Fetch, pob g锚m gatre ers blynyddoedd mawr. Ond digwydd bod y g锚m gyntaf yn Liberty, wedes i wrth cwpwl o fois bydde fe'n neis i glywed Cwmrag yn y stadiwm newydd a r'on i'n ddigon ewn i fynd lan at y trefnwyr a chynnig fy ngwasanaeth yn rhad ac am ddim, a medden nhw "ie pam lai." A byth oddi ar 'ny rydw i wedi bod yn croesawu pawb yn Gwmrag a dweud ambell i hysbys cyn i'r g锚m ddechrau. Mae'r ymateb wedi bod yn arbennig.

"Ma rhaid i fi ddweud bo fi ddim yn lico clywed llais yn unan, wi byth yn gwrando ar y rhaglen sydd gen i ar 大象传媒 Radio Cymru bob dydd Sul - Parch, ond mae pobl eraill yn dweud bod gen i lais hawdd i wrando arno. Mae'n fraint cael neud hyn yn Liberty felly rwy'n gorfod derbyn ei glywed e ar y cae!

"Beth sy'n wefreiddiol yw, mae miloedd ar filoedd o bobl fel arfer ddim yn clywed y Gymrag, a pan mae timoedd fel Southend neu Colchester yn dod lawr i Liberty maen nhw yn puzzlan beth yw'r iaith 'na? Ac yn hapus i glywed yr iaith hefyd. Sneb wedi dweud gair yn erbyn e, maen nhw yn ymfalch茂o. Mae'r Cymry di-Gymrag yn dod lan ata i, sy'n gwbod mai fi yw'r llais, yn dweud "I don't understand it, but it's nice to hear it."

Tu mewn Stadiwm Liberty"Rwy'n ffan o'r Elyrch ers yn grwt ifanc, ond rwy'n cofio dechre yn y Weinidogaeth yn 1975, r'on i'n weinidog yn sir Benfro, teithio o Grymych i Abertawe ar y motobeic i bob g锚m gartref. Rwy'n dipyn o ffan ers hynny. Heb os nac onibai mae Stadiwm y Liberty yn le gwych. Piti bod e ddim yn fwy, mae'n dal 20 mil o bobol ond ar gyfartaledd mae 14 neu 15 mil yn dod i bob g锚m yr Elyrch a pan fydd y timoedd eraill yn dod 芒 mwy o gefnogwyr, bydd y lle yn rhy fach.

Trefn y diwrnod
Rwy wastad yn cyrraedd yn gynnar ac yn mynd i'r bwyty gyferbyn 芒'r Stadiwm i gael bwyd Eidalaidd cyn pob g锚m gartre. Wedyn rwy'n mynd draw i'r stadiwm rhyw awr cyn y g锚m. Rwy'n cael s锚t, ond weda i ddim bo fi'n cael y s锚t gorau! Erbyn hyn mae'r Gymrag i'w chlywed jyst cyn i'r g锚m ddechrau lle o'r blaen byddai'r Gymraeg i'w chlywed ond pan oedd pobl heb gyrraedd neu yn mynd i brynu byrger neu rywbeth.

Yr Elyrch: cefnogol i'r Gymraeg
Mae'n rhaid canmol yr Elyrch am fod mor gefnogol. Erbyn hyn hefyd mae tudalen Gymrag yn y rhaglen swyddogol. Ac os yw rhywun am gyfrannu iddi, allan nhw e-bostio fi ar eirian.wyn@ntlworld.com - gall unrhyw un gyfrannu ac anfon llun digidol hefyd. Sdim gwahaniaeth am sgwennu fe'n Gymrag alla i gyfieithu fe os yw rhywun am sgwennu yn Saesneg.

Eirian Wyn ac Owain Tudur Jones ar fws Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006Cymro Cymraeg
Mae un Cymro Cymrag yn chware i'r Elyrch - Gog yw e - Owain Tudur Jones, mae'n wastad yn neis i glywed e'n rhoi cyfweliad Cymraeg i Radio Cymru a wedyn yn Saesneg i Radio Wales. Mae'n perthyn i'r actor Gwyn Elfyn sy'n chwarae Denzil ar Pobol y Cwm.

Mae'r cerddor Karl Jenkins yn ffan a wedi bod lawr i wylio'r Elyrch hefyd.

Gemau o adref
Mae cefnogwyr Abertawe yn dda am fynd i gemau bant hefyd. Dw i ddim di bod bant yn gwylio'r gemau achos fi'n pregethu ar y Sul, bydden i'n shattered yn mynd i oedfa 10.30am ar 么l bod i ffwrdd! Ond rwy'n gwrando ar bob g锚m ar 大象传媒 Radio Cymru neu ar opt out 大象传媒 Radio Wales. Wedi dweud hynny fe fues i bant i weld Hartlepool. Wnes i'r Great North Run i gasglu arian a daeth criw teledu lan i ffilmio fi'n rhedeg a wedes i wrthyn nhw bo ni'n mynd i fynd draw i weld yr Elyrch yn chwarae, felly daeth criw Tinopolis da fi!"

  • Cliciwch yma i weld rhai lluniau o Stadiwm y Liberty. Oes gennych chi luniau? Anfonwch nhw aton ni!

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Bws 大象传媒 Cymru
    Lluniau
    Digwyddiadau


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy