Gwobrwyo enillwyr RaW
Cynhaliwyd sesiynau ysgrifennu gyda 大象传媒 Cymru fel rhan o'r cynllun RaW (Rhaglen darllen a sgwennu'n well) yn ardal Abertawe yn Haf 2006, cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yno. Menna Elfyn a Catrin Dafydd oedd y tiwtoriaid yn rhoi cymorth i bobl leol nad oedd erioed wedi creu gwaith llenyddol o'r blaen, heb s么n am gystadlu, a'u hannog i ysgrifennu'n greadigol ac i fagu hyder.
Mewn seremoni arbennig ar fore Llun, Awst 7, 2006 ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch, fe wobrwywyd enillwyr y gystadleuaeth unigryw.
Cyhoeddodd Menna Richards, Rheolwr 大象传媒 Cymru mai'r ddwy a ddaeth i'r brig oedd Susan Harries o Frynaman ac Eiluned Madoc Alter o Abertawe. Cafodd y ddwy dlysau hardd yn wobrau, a chafodd pawb arall a gymerodd ran yn y sesiynau dystysgrif yr un am eu llwyddiant.
Cafodd Susan, sy'n reolwr Canolfan Brynaman ei themptio i fynychu'r cwrs ar 么l i Eirian Wyn ac Afril Glynne o 大象传媒 Cymru ymweld 芒'r ganolfan. Fe wnaeth hi hefyd berswadio ei mam, ei g诺r a'i merch i ymuno 芒 hi ar y cwrs.
"O'n i rioed di sgwennu dim byd o'r blaen ac o'n i'n meddwl se fe'n beth diddorol i neud. Nes i fwynhau e'n fawr - odd e'n gr锚t! Mae e wedi rhoi hyder i fi yn fy sgwennu - ac hefyd yn fy Nghymraeg."
Fedrai Eiluned Madoc Alter ddim credu ei chlustiau pan gyhoeddwyd hi'n enillydd ei gr诺p.
"Dwi wedi cael y fath sioc o ennill y gystadleuaeth - fuo bron i fi fynd trwy'r llawr! Ges i fy ysbridoli i 'sgwenni Senorita Conchita Sanchez ar 么l gweld llun 'da Menna Elfyn, tiwtor y cwrs, o ddynes yn sefyll a'i breichiau ar ei hips a rhes o sosbenni y tu n么l iddi. Fe wnaeth hyn i fi ddechrau meddwl amdani hi - a'i phrofiadau bywyd."
Cliciwch trwy'r lluniau isod i weld lluniau o'r seremoni wobrwyo.
|