Roedd pawb yn edrych ymlaen at ddeuddydd o hwyl a sbri gyda phrifysgolion eraill Cymru.
Fe anelon ni am y Gogledd brynhawn Gwener a chyrraedd saith awr yn ddiweddarach yn barod i herio ein gwrthwynebwyr drennydd. Doedd dim Eisteddfod Dafarn eleni, felly roedd nos Wener yn gyfle i ni flasu bywyd nos Bangor yn hamddenol cyn y diwrnod mawr. Fe ymatalodd y rhan fwyaf rhag yr alcohol gan y byddai mwy na digon o gwrw ar gael ym mar Academi ddydd Sadwrn.
Fe aethon ni yno eleni yn disgwyl cystadlu yn un neu ddwy gystadleuaeth, gan gynnwys y c么r cymysg, ond doedden ni ddim yn disgwyl taflu ein hunain i grombil pob cystadleuaeth dan haul! Gydag oddeutu pymtheg ohonom ar y daith (gan gynnwys ein cefnogwyr), roedd amrywiaeth o dalentau o fewn ein criw - cantorion, dawnswyr a rhai oedd yn fodlon trio unrhyw beth! Roedd un o'n criw ni wedi plesio gyda'i ddawns James Bond-aidd, ac eraill wedi dangos eu doniau yn y cystadlaethau cerddorol.
Fe benderfynon ni ar fyr rybudd y byddem yn cystadlu yn y C么r Bechgyn, a doedd neb yn disgwyl y llwyddiant a gawsom. Roedd y g芒n - Y Cwm gan Huw Chiswell - yn hen gyfarwydd i bawb ac fe ganon ni nerth ein pennau. Roedd rhai yn ei chael hi'n anodd dal y dagrau yn 么l yn emosiwn y foment wrth i'r dorf gyd ganu i'n cefnogi ni. Dyma fy uchafbwynt personol i! Roedd clywed ein bod ni'n fuddugol yn brofiad gwefreiddiol. Roedd llwyddiant yn y C么r Cymysg (cydradd gyntaf) yn eisin ar y gacen!
Fe gawson ni dipyn o lwyddiant yn y cystadlaethau gwaith cartref hefyd, gyda Rhian Jones yn drydydd yng nghystadleuaeth y Gadair, a thair allan o bedair gwobr yng nghystadleuaeth y dysgwyr yn dod i Abertawe. Dyma ddangos bod stiwdants Abertawe yn amryddawn!
Roedd dod yn drydydd ar ddiwedd yr Eisteddfod yn dipyn o gamp i ni, yn enwedig wrth i ni guro Aberystwyth! Afraid dweud bod ambell un braidd yn siomedig wrth i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi, ond roedd eraill wrth eu bodd ac yn canu 'Tawe, Tawe, Abertawe!' mewn buddugoliaeth.
Fe aethon ni i glwb Amser yn y dref ar gyfer y gig ar ddiwedd y dydd, ac roedd hi'n gyfle i ni ddathlu ein llwyddiant dros ambell ddiodyn. Roedd lein-yp gwych ar ein cyfer ni unwaith eto - y gorau o bosib ers i mi fod yn stiwdant - ac roedd rhywbeth at bob chwaeth.
Fe ddechreuodd y noson gyda set gan 'Rafter' a gamodd i mewn ar y funud olaf. Roedd y band ifanc hwn yn ddechrau da i'r noson. Yna, fe gawson ni Vanta gyda'u caneuon roc ysgafn gan gynnwys 'Tri Mis a Diwrnod' oedd yn boblogaidd gan bawb. Daniel Lloyd a Mr. Pinc oedd y band nesaf ar y llwyfan ar 么l cyfnod tawel iddyn nhw fel band. Fe lifodd y band o un clasur i'r llall, gan gynnwys 'Goleuadau Llundain', 'Tro Ar 脭l Tro' ac 'Eldon Terrace'. Braf gweld y band hwn ar y s卯n unwaith eto.
Uchafbwynt y noson, yn enwedig i ni fel Gym-Gym, oedd Frizbee. Dyma benllanw penwythnos gwych yn hanes Gym-Gym Abertawe - penwythnos bythgofiadwy i'r criw a fentrodd i'r Gogledd ac a ddaeth yn 么l i Abertawe yn llawn balchder!!
Alun Rhys Chivers
Criw Bangor yn coroni'r cyfan a lluniau o'r penwythnos
Cyfle i gyfrannu