大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerfyrddin

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caerfyrddin
Killa Kela yng ngwyl Macs 2006 G诺yl Macs 2007
Cynhaliwyd G诺yl Macs 2007 yng Nghaerfyrddin ar benwythnos Medi 1 a 2 ar faes y sioe yn Nantyci.
  • Bydd rhaglen uchafbwyntiau o 诺yl Macs i'w chlywed ar C2 大象传媒 Radio Cymru nos Fercher, 12, Medi, 2007. Cliciwch i wrando ar Radio Cymru.

  • Adolygiad o 诺yl Macs 2007
  • Lluniau o 诺yl Macs 2007 Derbyniwyd y wybodaeth isod gan drefnwyr G诺yl Macs 2007.

    Am restr lawn o'r bandiau fu'n perfformio ar Fedi 1 & 2 - ewch i'r wefan: www.gwylmacsfest.com
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

    Magic Numbers, Plan B, Killa Kela, Meic Stevens a Brakes yw prif fandiau yr 诺yl eleni.

    Grooverider a Mistress De Funk yn arwain y llwyfan ddawns Guns, Genod Droog, Radio Luxembourg a Supergene hefyd wedi eu cadarnhau.

    Beth yw G诺yl Macs?
    Mae G诺yl Gerddorol a Sglefyrddio Macs yn digwydd ar ddiwedd yr haf. Dechreuodd yr 诺yl yn 2006 ac mae rhestr artistiaid eleni yn cynnwys enwau mawr, ac mae'r 诺yl hefyd yn cynnal rhaglen sglefrio unigryw o'r radd flaenaf.

    Mae'r Magic Numbers, Plan B, Killa Kela, Brakes a'r Meic Stevens chwedlonol yn enwau sydd wedi eu cadanrhau. Mae rhaglen ddawns yr 诺yl yn parhau i ddatblygu ond gyda nifer o DJs dawns a adnabyddir yn rhyngwladol ar y rhestr, gan gynnwys Grooverider a Mistress De Funk.

    Nos Sadwrn
    Y rapiwr dadleuol, Plan B, a elwir yn fersiwn Lloegr o Eminem, yw prif act noson agoriadol yr 诺yl. Mae ei wreiddioldeb hip hop wrth adrodd straeon tywyll Llundain wedi ennill cymeradwyaeth iddo. Bydd y Brakes, gr诺p o Brighton, yn perfformio am y tro cyntaf yn yr 诺yl gyda'i steil unigryw o pync a roc caled, tra bod y Guns o'r cymoedd, enillwyr RAP Gr诺p y flwyddyn Genod Droog a Supegene o Gaerfyrddin yn hedfan y faner Gymreig y noson honno ynghyd 芒 nifer o enwau adnabyddus eraill a gwaed newydd.

    Nos Sul
    Ar y nos Sul gwelwn The Magic Numbers yn perfformio eu cerddoriaeth seicadelig gyda chymysgedd o felodi a harmoniau hafaidd sy'n adleisio grwpiau'r 60au fel The Lovin' Spoonful a The Mamas and The Papas. Mae'n gyfuniad llwyddiannus sydd wedi cadarnhau fod y ddau albwm gyntaf ar frig y siartiau. Mae bandiau mawr eraill ar y nos Sul yn cynnwys Meic Stevens, Radio Luxembourg a Mim Twm Llai. Mae Mim Twm Llai yn chwarae casgliad o ganeuon amrywiol a deinamig, sy'n plethu arddulliau gwerin, gwlad, Americana, reggae a roc i greu s诺n acwstig amgen ac unigryw.

    Gwersylla
    Bydd tocynnau gwersylla ar gael wrth i chi gyrraedd (拢3 y noson / 拢7 am 3 noson). Bydd gwersylla'r un pris i'r rheini sy'n aros mewn pabell a'r rheini sy'n aros mewn 'campervan.'

    Cyfyngiadau Oed
    Nodwch fod G诺yl Macs yn rhoi mynediad i bobl dros 18 yn unig. Bydd arnoch angen prawf o'ch oed os ydych chi'n edrych o dan 18 a bydd gofyn i chi ei ddangos lle bo'r angen. Byddwn yn rhoi mynediad i bobl o dan 18 os ydyn nhw gydag oedolion dros 25 oed. Byddwn yn gofyn am brawf oed ac felly dewch 芒 phrawf gyda chi. Bydd y polisi yma yn cael ei orfodi'n llym drwy'r penwythnos. Ni chewch fynediad nac ad-daliad os fethwch i gydymffurfio gyda'r rheolau.

    Mae tocynnau ar gael NAWR am 拢25 y diwrnod, neu 拢45 am docyn penwythnos (拢40 os wnewch chi brynu'r tocyn mewn siop cyn Mehefin 11).

    Ewch i wefan G诺yl Macs am fanylion pellach: www.gwylmacsfest.com
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Adolygiad a lluniau o 诺yl Macs 2006


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Bach o Bopeth
    Trefi
    Lluniau
    Digwyddiadau


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy