Un o ddywediadau mawr fy mam bob tro y byddem yn dychwelyd o'n teithiau niferus oedd "mae'n braf mynd i ffwrdd er mwyn cael dod adre!" Rwan (neu nawr) mod i wedi ymgartrefu yma yn Nyffryn Tywi ac am fod yr hoffter o grwydro yn fy ngwaed inna, mae Llandeilo a'r cyffiniau yn lle nefolaidd i ddychwelyd
"adre" iddi! Dwn i'm am unrhyw le godidocach i fynd am dro ynddi na'r llwybrau cerdded sy ar gyrion y dre.
Mae hi 'di mynd yn ddefod bersonol bellach ar 么l dychwelyd o drip gwaith neu wyliau teulu i'r cyfandir i anelu bron yn syth at lwybrau cerdded Plas Dinefwr a dringo at Gastell Dinefwr i sefyll ar ei muriau cadarn a rhyfeddu ar yr olygfa - gan werthfawrogi mai hwn yw "adre".
Rhedeg fydda i gan amla yng nghwmni fy nghi fyddlon Llew (sy ar dennyn wrth gwrs!) gan ddod i mewn i Barc Dinefwr drwy'r brif fynedfa. Yn rhan o brosiect diweddar i adfer y Parc i'w hen ogoniant mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi creu cyfres o lwybrau godidog o fewn ffiniau'r Parc ei hun. Mae yna 5 llwybr i gyd - pob un yn dechrau ac yn gorffen o'r maes parcio swyddogol yng nghysgod y Plas - mae yno hysbysfwrdd a map sy'n dangos y llwybrau'n glir - ond mae'n bosib ymuno 芒'r llwybrau o gyfeiriad y dre - o'r brif fynedfa neu o gyfeiriad Pont Llandeilo a'r ddringfa drwy'r coed heibio Eglwys Llandyfeusant.
Amrywiol yw hyd y llwybrau - mae "Llwybr Glan yr Afon" yn 5 Km o hyd a "Llwybr Gwartheg Gwynion y Parc" yn ddim ond 1.6 Km ac yn gerdded gwastad a rhwydd. Dringfa eitha caled yw "Llwybr y Castell" er bod yr olygfa o ddyffryn Tywi o Gastell Dinefwr yn werth yr ymdrech a'r chwysfa. Dau lwybr cymharol fyr a rhwydd yw "Llwybr y Coed Derw" a "Llwybr Gwas Y Neidr".
Os nad yw'r coesau'n gwegian neu Llew y ci yn camfihafio rhyw gyffwrdd a rhan fach o bob un llwybr fydda i fel arfer a chylchu n么l am adre ar hyd glannau'r afon neu heibio i Eglwys Llandyfeusant.
Beth bynnag bo'ch safon ffitrwydd - yn gerddwyr di brofiad neu'n eifr mynydd siwper ffit - fe gewch chi oriau o bleser yn crwydro llwybrau Plas Dinefwr. Cymerwch air o gyngor gan Ogleddwr ffeindiodd ei nefoedd yng nghysgod Castell Dinefwr - polisiwch y sgidia cerdded 'na ac ewch i chwysu ar dir y Plas!!
Aled Ll欧r
Crwydro Bro Dinefwr Gwefan Llandeilo Cestyll yr ardal
|