Cyrhaeddodd T欧 Llanelli rownd derfynol y gyfres deledu boblogaedd Restoration, a ddarlledwyd ar 大象传媒2 yn 2003. Cyflwynydd y gyfres oedd y Cymro a'r digrifwr Griff Rhys Jones, seren y gyfres Not the Nine O'Clock News.
Amcan y gyfres oedd adfer ac atgyweirio adeilad o bwysigrwydd hanesyddol cenedlaethol, a hynny o restr fer o 30 adeilad ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.
Dyma T欧 Llanelli yn cyrraedd y brig ar restr fer o 3 adeilad hanesyddol yng Nghymru a oedd werth eu hachub. Llwyddodd yr adeilad i fynd gam ymhellach hyd yn oed, gan gyrraedd y rownd derfynol ar 大象传媒2. Serch hynny, cwympo wrth y glwyd olaf oedd hanes T欧 Llanelli, wrth iddynt golli allan ar y wobr gyntaf a gorffen yn barchus yn y trydydd safle.
Codwd yr adeilad cofrestredig Sioraidd yma yn y 1700au. Fe'i disgrifiwyd gan haneswyr fel esiampl o Gartref Sioraidd mwyaf ysblennydd Cymru. Etifeddwyd yr adeilad yn 1705 gan Margaret Vaughan a'i g诺r, Syr John Stepney o Pendergast. Roedd y cwpwl yn gyfrifol am nifer o ddatblygiadau chwyldroadol i'r adeilad. Mae cynllun a manylder y bensaerniaeth yn awgrymu y cwblhawyd eu gwaith adnewyddu uchelgeisiol oddeutu 1714.
Pasiodd y cartref ysblennydd yma drwy genhedlaethau o'r teulu Stepney, cyn cael ei drosglwyddo i awenau'r Cyngor Lleol yn 1965. Erbyn y cyfnod yma roedd wynepryd traddodiadol yr adeilad wedi ei difrodi yn sylweddol, 芒'r hen adeilad wedi colli tipyn o'i gymeriad a'i swyn. Priodolwyd hyn i esgeuluso gan y teulu ar hyd y blynyddoedd, ac o ganlyniad i'r gwaith adeiladu chwit-chwat a wnaethbwyd i'r adeilad yn yr ugeinfed ganrif.
Bellach, a hithau yn 2006, mae cyfres newydd o Restoration ar ein setiau teledu 芒 30 o adeiladau o arwyddoc芒d hanesyddol a diwylliannol yn cystadlu i gael ei hadfer a'i hatgyweirio. Ond beth ddigwyddodd i drysor Tre'r Sosban? A gafodd y gyfres deledu unrhyw effaith ar yr ymgyrch i adfer yr adeilad hanesyddol prydferth yma?
Sefydlwyd cronfa gan y Cyngor i gasglu arian tuag at waith cynnal a chadw ar yr adeilad. Bu trigolion y dref yn garedig iawn wrth gyfrannu yn hael iawn i'r gronfa yma. Mae'r ffigwr yn parhau i chwyddo yn gyson.
Cytunwyd y llynedd i wahardd cerbydau o Heol y Bont, Llanelli, a throi'r heol yn ardal pedestraidd i'r cyhoedd yn unig. Mae'r cynllun uchelgeisiol yma wedi derbyn grant o 拢1.3 miliwn oddi wrth Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, gyda'r bwriad o greu rhwydwaith o 11 adeilad cofrestredig arall ar hyd Heol y Bont.
Y gobaith yw y bydd gwahardd cerbydau a thraffig, yn ogystal a'r llygredd maent yn eu gynhyrchu, yn gam pwysig ac arwyddocaol i fedru dyrchafu T欧 Llanelli yn ol i'w phriod le yn y dref. Ymhlith cynlluniau eraill a drafodwyd gan y Cyngor mae troi'r adeilad yn oriel gelf drawiadol neu o bosib yn amgueddfa leol.
Ar 么l bod mewn sefyllfa gwbwl anobeithiol cyn cyfres Restoration, mae'r dyfodol yn edrych dipyn disgleiriach i un o drysorau mwyaf ein cenedl.
|