Taith Luniau: Yr Ardd Fotaneg 2005
Dyma ddetholiad o luniau o'r blodau amrywiol a welir yng Ngardd Fotaneg Cymru yn Llanarthne, sir Gaerfyrddin trwy'r flwyddyn. Tynnwyd y lluniau hyn trwy gydol 2005.
I weld lluniau o'r Ardd hyd yn hyn yn 2006 - cliciwch yma.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin
Sefydlwyd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru fel rhan o ddathliadau'r Milflwyddiant. Lleolir yr ardd ar dir hen Neuadd Middleton ger Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, ar safle 568 acer gerllaw dyffryn Tywi. Cynlluniwyd y Ty Gwydr Mawr gan y pensaer Norman Foster.