MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Y Gang a'r doniau hwyr Ydi, mae Eisteddfod Genedlaethol Dinbych wedi dechrau, a sawl grwp eisoes wedi perfformio. Hyd yma mae Paccino wedi creu argraff fawr ar Eisteddfodwyr, wedi iddyn nhw berfformio ddwywaith yn ystod y diwrnod agoriadol. Er nad oedd hogia Prifysgol Bangor yn rhan o’r lein-yp gwreiddiol ar gyfer Parti Cymdeithas yr Iaith yn Neuadd y Dref, Dinbych, does yna ddim amheuaeth iddyn nhw berfformio yno nos Sadwrn, a phwysleisio - yn union fel ym Mhabell Dinistr am un ar ddeg y bore - eu bod ymhlith grwpiau mwyaf addawol y sîn roc yng Nghymru ar hyn o bryd. Y tri o Fôn Grwp arall sydd wedi creu argraff yn ddiweddar ydi Arika, sef tri hogyn ifanc o Ynys Môn. Arika enillodd gystadleuaeth grwpiau Uned 5 yn gynharach eleni wrth gwrs, ac wrth wylio eu perfformiad brynhawn Sadwrn ’roedd hi’n amlwg pam. O ystyried eu bod mor ifanc mae hi’n syndod fod cerddoriaeth Arika yn swnio mor aeddfed, ac yn sicr fe fydd unrhyw un sy’n hoff o Gogz yn eu gwerthfawrogi. Yn syml, felly, ’rydym yn edrych ymlaen at glywed sesiwn Arika ar raglenni Gang Bangor yn y dyfodol agos … Mae’r Gang yn awyddus i gynnig sesiwn i Quidest hefyd, gan fod y demo a dderbyniwyd yn gynharach eleni wedi creu argraff yn syth. Yn wir ’roedd hi’n braf clywed caneuon gwahanol gan Quidest ym Mhabell Dinistr brynhawn Sadwrn, yn hytrach na Tân ac Amser Cyn Heddiw yn unig; ond uchafbwynt eu set heb os oedd fersiwn Gymraeg o glasur The Undertones - a hoff record John Peel erioed - Teenage Kicks. Gwyllt, gwych a gwallgo Uchabwynt nos Sadwrn yn Neuadd y Dref, serch hynny, oedd Anweledig, gan fod criw ’Stiniog yn wyllt, yn wallgof ac yn hollol wych fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl, ac mae hi’n bleser gallu cadarnhau ei bod hi’n bell o fod yn wag yn y Neuadd - yn wahanol i’r hyn yr oedd rhywun yn ei ofni o ystyried mai hon oedd noson gyntaf yr Eisteddfod. Os nad oeddech chi yn Ninbych dros y penwythnos, felly, gwnewch yn siwr eich bod ym Maes B erbyn nos Sadwrn, gan mai Anweledig fydd yn cloi pethau yno bryd hynny. Maes B fydd y lle i fod heno hefyd, wrth i dri o grwpiau mwyaf gweithgar y sîn ymddangos ar y llwyfan. Cofiwch ddarllen ein sylwadau ni am Gogz, Caban a Maharishi yfory, tra mai Alcatraz fydd yn mynd â’n bryd ni draw ym Mhabell Dinistr, a hynny am ddau o’r gloch.
| |
© MMI |
|
About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |