MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Y glaw鈥檔 tynnu torf Er bod hi鈥檔 tywallt y glaw ddoe 鈥檙oedd maes yr Eisteddfod yn fwrlwm, a Phabell Dinistr yn lloches i nifer o ymwelwyr. Mewn ffordd mae鈥檙 glaw o gymorth i鈥檙 Babell Roc, gan fod pobl yn ysu am gysgod; felly cafwyd cynulleidfa sylweddol drwy鈥檙 prynhawn. Mae Epitaff yn gwella鈥檔 gyson ar hyn o bryd, a 鈥檙oedd perfformiad hogia Llanrug yn wefreiddiol. 鈥橰oedd bwrlwm, egni a boddhad Ynyr y prif leisydd yn amlwg i bawb, a mae pob argoel y bydd y caneuon ar yr EP newydd yn gofiadwy dros ben. Edrychwn ymlaen i glywed EP newydd Epitaff ym mis Medi felly. CD arall sydd ar y gweill ydi EP gyntaf Alcatraz, ac 鈥檙oedd eu perfformiad hwythau hefyd yn wych. Does ryfedd fod cerddoriaeth Alcatraz mor boblogaidd ar hyn o bryd wrth gwrs, gan fod grwpiau fel Papa Roach a Limp Bizkit yn cael cymaint o sylw yn Lloegr. Angen presenoldeb Er hynny mae angen mwy o bresenoldeb llwyfan wrth y prif-leisydd Kate Timothy. Braidd yn llonydd mae hi ar hyn o bryd. Mae Gethin Gwacamoli, ar y llaw arall, yn llwyddo i gynnal eu perfformiadau nhw o鈥檙 cychwyn cyntaf, ac ni ellir gwadu eu bod wedi gwella鈥檔 aruthrol yn ddiweddar. 鈥橰oedd Cwmwl 9 a Dysgu Nofio yn effeithiol dros ben yn y Babell Roc ddoe, ac er ei bod hi wedi cael ei chwarae hyd at syrffed mae Mary Jane yn parhau i swnio鈥檔 dda yn fyw. Mi fydd Caban yn siwr o ddenu cynulleidfa sylweddol heddiw, tra bydd Estella yn ein diddanu ym Maes B gyda鈥檙 nos. Welwn ni chi yno ...
| |
© MMI |
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |