´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bant cerdd dant - mewn a'r grwpiau roc

Dyfan Tudur o Gang Bangor yn gweld cystadlu go arbennig

Fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl yn yr Eisteddfod Genedlaethol mae yna hen ddigon o sôn wedi bod am gerdd dant, alawon gwerin a llefaru; felly dwi’n falch iawn o gael dweud fod yna gystadleuaeth ar gyfer y grwpiau roc wedi cael ei chynnal. Ym mhle?

Wel, ym mhle arall ond y Babell Roc!

DinistrTri grwp o Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy a welwyd ar y llwyfan brynhawn ddoe, ac ‘roedd yr amrywiaeth oedran yn anhygoel.

Newydd ddechrau mynychu’r ysgol uwchradd mae aelodau Hejog, ac ‘roedd hi’n braf iawn gweld grwp mor ifanc yn rhoi cynnig arni.

Fel dywedodd Non Parry, un o’r beirniaid, fedr grwpiau ddim dechrau yn rhy ifanc, ac mae’r ffaith i Hejog gystadlu ddoe yn siwr o roi hwb iddynt barhau i berfformio yn y dyfodol.

Diddorol ydi’r unig air i ddisgrifio caneuon Tudalen Wag, gan fod yna sawl cyfeiriad at athrawon hoff a thyner Ysgol Glan Clwyd!

Dyma grwp arall sydd yn sicr â photensial, ond fel Hejog mae yna dipyn o waith datblygu eto, a’r ffordd orau o wneud hynny ydi trwy geisio trefnu cyfres o gigs bychain yn lleol.

Yn y cyfamser, llongyfarchiadau i’r drymiwr – Rhys – gan mai ef enillodd y wobr am yr offerynwr gorau yn ytod y gystadleuaeth.

‘Roedd hi’n amlwg i bawb fod gan Rhys dalent aruthrol, ac felly ‘rydym yn disgwyl pethau mawr gan y gwr ifanc yma …

At y grwp buddugol, ac oherwydd eu bod yn fwy profiadol Mwsog aeth â hi yng nghystadleuaeth y grwpiau roc eleni.

Mae aelodau Mwsog yn ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd hefyd, ond y gwahaniaeth ydi eu bod ar fin dechrau eu cyfnod yn y chweched dosbarth.

Cafwyd ambell i gân gofiadwy iawn gan Mwsog brynhawn ddoe, ac ‘felly fe fydd hi’n braf clywed ssiwn gan y grwp ar raglenni Gang Bangor cyn bo hir.

Wedi dweud hynny, efallai bod tueddiad i arbrofi’n ormodol gydag ambell gân. Ni weithiodd y ffanffer enwog o ‘2001: A Space Odyssey’ cystal ddoe â’r hyn a gafwyd ddydd Llun er enghraifft, ond gyda digon o ymarfer a gigio fe fydd y gwendid hwn yn siwr o leihau.

‘Roedd hi’n werth rhoi cynnig arni ddoe, gan fod Mwsog yn ennill £1000! Yn ôl Huw o’r grwp mi fydd yr arian yn mynd tuag at wella sain cyffredinol Mwsog, a hynny trwy brynu PA ac ati.

Pob lwc i’r hogia felly, a diolch i’r Eisteddfod Genedlaethol am roi cyfle i grwpiau ifanc ddatblygu eu doniau.

Mae hi’n drueni mewn ffordd na fyddai mwy o sylw yn cael ei roi i gystadleuaeth o’r math yma, ond gyda lwc dim ond mater o amser fydd hynny …
Straeon Eisteddfod 2001:
´óÏó´«Ã½
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy