MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Etholiad archdderwydd Y pleidleisiau wedi eu cyfrif - a'r arian call ar Robyn Lewis Bore Mawrth bydd Bwrdd yn Orsedd yn gwybod pwy fydd yr Archdderwydd newydd - yn dilyn yr etholiad democrataidd cyntaf gyda chyfle i holl aelodau Gorsedd y Beirdd fwrw pleidlais. Ar Robyn Lewis y mae’r ‘arian call’ yn dilyn ymgyrch etholiadol egnïol ganddo a olygodd anfon taflen etholiad at bob aelod o’r Orsedd sy’n gwisgo’r wisg werdd. Y farn yw fod y prif lenor a chyfreithiwr o Ben Llyn ar dorri ei fol eisiau bod yn archdderwydd. Y cyntaf Os llwyddith o, ef fydd yr archdderwydd cyntaf nad yw hefyd yn brifardd. Y ffaith iddo ennill y Fedal Ryddiaith sy’n ei wneud ef yn ymgeisydd cymwys a doedd hynny ddim yn bosib tan ychydig flynyddoedd yn ôl - dim ond beirdd cadeiriol neu goronog oedd dan ystyriaeth. Yn ymgeisio yn erbyn Mr Lewis y mae T. James Jones sy’n cael ei ystyried yn ffefryn yr olyniaeth o brifeirdd deheuol sydd hefyd yn Annibynwyr. Y trydydd ymgeisydd yw Selwyn Griffith nad yw yn cael ei ystyried yn ‘hefiwêt’ o gymharu â’r ddau arall ond sydd hefyd, yn ôl yr hanes, wedi bod yn ymgyrchu’n brysur dros y ffôn. Ffrae orseddol Gan mai ffrae orseddol sydd wrth wraidd hyn i gyd y mae mwy o ddiddordeb ym mhwy caiff hi eleni nag a fu ers blynyddoedd - os nad erioed. Yr hen drefn oedd fod criw bychan o Orseddigion yn cynnig enwau i Fwrdd yr Orsedd gan argymell un o blith yr enwau hynny a’r person hwnnw, fel rheol, yn mynd rhagddo i’w anrhydedd. Nid pawb oedd yn ystyried hon yn drefn deg ac ymhlith y cyntaf i godi ei lais yr oedd y Parchedig W. J. Edwards a alwodd am i holl aelodau’r Orsedd gael rhan yn y dewis. Er nad oedd dim yn chwyldroadol mewn galw am bleidlais i bawb, cael ei ddirmygu oedd ei ddiolch am y fath syniad gyda hyd yn oed aelodau mor ymddangosiadol radicalaidd a Hywel Teifi Edwards, mewn cylchoedd eraill, yn danbaid yn erbyn pleidlais i bawb. Mae’n ymddangos mai’r unig gyfiawnhad dros gadw at yr hen drefn oedd iddi ‘weithio’n iawn’ yn y gorffennol. Troi'r drol Ond mewn cyfarfod tyngedfennol o’r Orsedd y llynedd trowyd y drol yn go iawn wrth i’r Cofiadur ei hun, Jâms Niclas, ddweud fod dadleuon y democratiaid wedi ei argyhoeddi ef. Yn ei lewyrch ef gwelodd y gweddill y goleuni hefyd. Erbyn hyn, mae’r pleidleisiau wedi eu bwrw a’u cyfrif a thynged y tri dan sêl mewn amlen a gyflwynir i Fwrdd yr Orsedd fore Mawrth yn Ninbych. Dywedir mai dydd Gwener y caiff gweddill y byd wybod y canlyniad - ond bydd yn wyrth os caiff y gyfrinach ei chadw tan hynny ar faes eisteddfod. Er yn cael ei ystyried yr ymgeisydd gwanaf y mae’n bosib i Selwyn Griffith sleifio i mewn os bydd y rhai sy’n elyniaethus i Robyn Lewis a’r garfan o Annibynwyr yn pleidleisio’n dechnegol. Yn sathru ar gyrn neb dywedodd Selwyn Griffiths mai cynnig ei hun yn llais steddfotwyr gwerin gwlad Cymru a wnaeth ef. Dyn y steddfodau bach Dywedodd mai dim ond ar yr amod mai cynrychiolwyr steddfodau bychain Cymru a fyddai’n arwyddo ei bapur enwebu y byddai ef yn caniatau i’w enw fynd ymlaen. "Mi fydda i’n mynd i ddwsinau (o steddfodau bach) bob blwyddyn a dwi’n credu mai nhw ydy’n prif eisteddfodau ni. "Meddyliwch chi mewn difrif, chewch chi ddim eisteddfodau mewn trefi - does dim Eisteddfod Llandudno, Eisteddfod Bangor nag Eisteddfod Llangefni ond mi gewch chi eisteddfod ym mhob un o’r pentrefi gwledig. A’r rhai hynny sy’n mynychu’r eisteddfodau yma o wythnos i wythnos ofynnodd i mi, ‘Gawn ni roi eich enw chi i lawr’," meddai wrth gael ei holi gan Gwilym Owen ar Radio Cymru dro’n ôl. Yr un pryd cyfaddefodd y byddai’n archdderwydd "heb ddawn ddramatig na phersonoliaeth" Cynan. "Fyddai gen i ddim o lais unigryw y diweddar Dafydd Rowlands neu Gwyndaf ond dwi’n gobeithio y buaswn yn medru ychwanegu ychydig bach o hiwmor Elerydd a Brinli i’r seremonïau." Addewid damniol a allai fod yn ddigon amdano yng ngolwg rhai! Codi hen grachen Gwrthododd T. James Jones y gwahoddiad i wynebu ei gyd-orseddwr, Gwilym Owen, ond yr oedd y mwyaf pybyr o’r ymgeiswyr, Robyn Lewis, yno ac, yn wahanol i Selwyn Griffith, nid ildiodd ef i’r demtasiwn o dynnu sylw at unrhyw un o’i ddiffygion ei hun - a chymryd ei fod yn ystyried fod ganddo rai! Yn hytrach cododd Mr Lewis hen grachen trwy sôn am "gryn anniddigrwydd yn cyniwair ymhlith gorseddigion ynghylch y duedd i benodi tri, neu falle bedwar, archdderwydd o blith gweinidogion un enwad - y naill ar ôl y llall." Ychwanegodd iddo gael ei synnu fod cymaint o Orseddigion am iddo ef sefyll. "Roedden nhw’n drawsdoriad a roedd hynny yn fy nychryn braidd - dau gyn-archdderwyddd, hafliad go solet o brifeirdd yn ogystal â phrif lenorion ac aelodau o’r tair urdd, y gwyrdd, glas a gwyn a rheini’n dod o bob rhan o Gymru," meddai wrth Gwilym Owen. "Pawb yn ymfalchïo ei bod hi’n mynd i fod yn etholiad agored am y tro cyntaf erioed." Hen bryd cael llenor-yn-unig Ac ychwanegodd ei bod yn hen bryd i lenor yn hytrach na bardd fod yn archdderwydd er mwyn dileu’r syniad mai rhywbeth eilradd i gystadlaethau’r gadair a’r goron yw un y fedal ryddiaith. "Newidiwyd y cyfansoddiad yn unswydd er mwyn i hynny fedru digwydd," meddai.
| |
© MMI |
|
About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |