![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() ![]() |
![]() Hows-at! - noson hwyliog mewn neuadd Bingo Adolygiad Catrin Jones Bingo Bach yw sioe Theatr Bara Caws yn ystod wythnos yr eis ![]() Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth gamu i’r neuadd - wedi’r cyfan, mae Bara Caws yn gwmni arbrofol a’i sioeau mor amrywiol. Doedd wybod beth fyddai gofyn i ni’r gynulleidfa ei wneud. A doedd y sioe hon ddim yn eithriad. Yn y fynedfa rhoddwyd cerdyn bingo i ni. Ar lawr y neuadd wedyn roedd byrddau wedi eu gosod yn union fel mewn neuadd Fingo. Fe’n tywyswyd gan yr actoresau oedd mewn gwisgoedd lliwgar i eistedd wrth y byrddau. Roedd y llwyfan wedi’i osod fel llwyfan bingo a phlatfform yn ymestyn i ganol y gynulleidfa. Wrth i bawb gyrraedd yn raddol roedd y genod yn cynnig paned i ni a chynnig cadw’n cotiau. Dyma greu’r awyrgylch o’r dechrau felly. Roeddwn i yn teimlo fel pe bawn mewn neuadd bingo go iawn. Ddechreuwyd y sioe gyda gêm o Bingo - ffordd effeithiol o dynnu’r gynulleidfa i’r perfformiad o’r dechrau, ac roeddem i weiddi ‘±ô±ð¾±²Ô’ neu ‘³ó´Ç·É²õ’. Roedd hyn yn creu tipyn o hwyl a bwrlwm ac yn ddechrau hwyliog i’r noson. Popeth mewn neuadd Fingo Roedd popeth yn digwydd yn y neuadd fingo. Chawsom ni ddim ein tywys y tu allan i’r pedair wal o gwbwl yn ystod y perfformiad. Os yw drama’n cael ei chanoli mewn un lle yn unig fe all fod yn undonog, ond doedd hyn ddim yn wir am Bingo Bach. Roedd yma ddigon o adloniant i hoelio’n sylw o’r dechrau i’r diwedd. Roedd y stori yn troi o gwmpas pedair merch yn gweithio yn y neuadd, Rhonda (Catrin Fychan), Wendy (Carys Gwilym), Siw (Tammi Gwyn) a Sal (Elin Wmffras). Roedd y cymeriadau’n wahanol iawn ac yn raddol datgelwyd bywydau pob un i ni, eu breuddwydion a’u pryderon. Hefyd fe gawsom ein cyflwyno i gymeriadau oedd yn dod i chwarae bingo i’r neuadd yn rheolaidd. Cymeriadau oedd yn byw i chwarae bingo fel Lily, Dil a Don. Ac i Carol ac Yvonne, dwy ferch yn eu hugeiniau - mamau sengl wrth eu bodd yn mwynhau. Cafwyd digon o hwyl gyda’r cymeriadau hyn ac yn sicr fe gawson nhw’u portreadu’n gredadwy iawn. Yr un actoresau oedd yn portreadu’r cymeriadau hyn i gyd. Felly er mai dim ond pedair oedd yn perfformio fe gawsom ein cyflwyno i lu o gymeriadau. Canmol y pedair Mae’n rhaid canmol perfformiad y pedair. Cafwyd perfformiadau cryf ganddyn nhw ac roeddwn nhw wedi llwyddo yn fy marn i i uniaethu a’u cymeriadau. Roeddwn i’n teimlo ein bod ni fel cynulleidfa wedi dod i adnabod y cymeriadau i gyd erbyn y diwedd ac yn cydymdeimlo a nhw a’u bywydau undonog. Roedd pob un o’r merched ac eithrio Siw yn dyheu am gael dianc o’r lle ac roeddwn yn tosturio wrthyn nhw. ![]() Cawsom ambell gân hefyd, cyfieithiadau o ganeuon Saesneg cyfarwydd fel I Will Survive a Money, Money, Money oedd yn addas iawn i sioe o’r math hwn ac yn creu awyrgylch. Roedd y caneuon yn cael eu defnyddio i gyfleu teimladau’r merched a’u breuddwydion. Rhaid dweud fy mod wedi mwynhau’r noson roedd yn wahanol ac roedd hi’n braf bod yn rhan o’r perfformiad. Roedd y ffaith ein bod yn cael ein trin fel cynulleidfa neuadd Bingo go iawn yn golygu ein bod yn gallu uniaethu a’r cymeriadau. Roedd y ffaith fod y cymeriadau’n perfformio yn ein canol yn gwneud y ddrama’n fyw ac yn symud ein sylw i bob rhan o’r ystafell nid y llwyfan yn unig. Da hefyd oedd cael sgript gyflawn Sian Summers yn y rhaglen - rhywbeth i’w wneud eto yn y dyfodol gyda cynhyrchiadau eraill. Os am noson hwyliog, noson o gomedi a chân mae’n werth mynd i weld Bingo Bach. Chewch chi mo’ch siomi.
| |
![]() © MMI |
![]()
|
![]() |
About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |