MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Y gynghanedd yn help i fardd y Goron ddod o hyd i'r geiriau iawn Aelod o grwp a fu鈥檔 canu cyfieithiad Cymraeg o g芒n waharddedig Chuck Berry - My Dingaling - a gipiodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yr wythnos hon. Yr oedd Penri Roberts yn aelod o grwp Y Gasgen a fu鈥檔 canu Fy Mheth Bach i yn y saithdegau ond yr oedd dipyn mwy o sylwedd i鈥檙 cerddi a enillodd iddo Goron y Genedlaethol yn Ninbych ddydd Mawrth. Dilyniant o gerddi oeddan nhw yn adrodd stori plentyn yn dygymod 芒 phriodas anghytun ei rieni ac yn codi muriau i ddianc y tu 么l iddyn nhw. "Mae鈥檙 cerddi yn s么n am ganlyniadau methu 芒 chyfathrebu," meddai. Dywedodd Penri Roberts i鈥檙 sbardun i sgrifennu ddod o鈥檌 brofiad yn athro. Enw merch yn ffugenw Yr oedd gweld dyn yn codi ar ei draed yn y Pafiliwn yn dipyn o syndod wedi i鈥檙 archdderwydd alw鈥檙 ffugenw Mair ond dywedodd Mr Roberts iddo ddewis enw ei fam yng nghyfraith yn ffugenw oherwydd ei feddwl mawr ohoni. "Y mae鈥檔 ddynes arbennig iawn," meddai. Dywedodd i鈥檙 wythnosau ers iddo gael gwybod iddo ennill fod yn rhai anodd - a hyd yn oed wedi cyrraedd y llwyfan bu鈥檙 disgwyl yn hir cyn iddo gael y Goron ar ei ben gyda鈥檙 Archdderwydd yn bwrw ymlaen a鈥檙 seremoni fel pe byddai wedi anghofio fod angen gosod y goron ar ben y bardd i鈥檞 goroni! Awdur sioeau cerdd Y mae Penri Roberts yn fwy adnabyddus fel awdur sioeau cerdd nag fel bardd gyda鈥檌 gysylltiad 芒 Chwmni Ieuenctid Maldwyn sy鈥檔 dathlu ei ugain oed eleni yn mynd yn 么l i gychwyn y cwmni hwnnw. Manteisiodd ar y sylw a gafodd fel bardd coronog i dynnu sylw at aduniad hen aelodau鈥檙 cwmni yng Nglantwymyn ar Fedi 7. Pum mlynedd yn 么l dechreuodd ddysgu鈥檙 cynganeddion ac er nad am gerddi yn y mesurau caeth yr enillodd ei Goron dywedodd i gynganeddu fod o gymorth iddo fel bardd. "Y mae medru cynganeddu yn miniogi dewis rhywun o eiriau ac yn gwneud rhywun yn fwy gofalus wrth ddewis a dethol a defnyddio geiriau," meddai.
| |
© MMI |
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |