MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Siom Daniel Owen Ond y dyfodol yn gwenu ar Menna Medi Y mae鈥檙 wobr fawr gyntaf wedi ei hatal yn Eisteddfod Dinbych. Nid oedd neb yn deilwng o wobr goffa Daniel Owen gwerth pum mil o bunnau. Ac wedi鈥檙 dyfarniad dywedodd un o鈥檙 beirniaid, Vaughan Hughes, fod yn rhaid ailfeddwl ynglyn a鈥檙 gystadleuaeth hon. Ond nid oedd yn ddigalon ynglyn 芒 chyflwr y nofel Gymraeg. Mewn cyfweliad teledu cysurodd ei hun y byddai鈥檙 ymgeisydd a ddaeth yn ail mewn cystadleuaeth well y llynedd wedi ei cherdded hi eleni. Yr oedd yn cyfeirio at nofel gan Gwyn Llewelyn. Cysurai ei hun hefyd fod yn well gan nofelwyr gystadlu am anrhydedd y Fedal Ryddiaith a鈥檌 拢750 pitw o arian nag am arian mawr Gwobr Daniel Owen. Dywedodd fod hynny yn glod iddynt fel cystadleuwr ond ychwanegodd fod yn rhaid ailedrych a gwneud rhywbeth ynglyn 芒 gwobr "yr hen Ddaniel." Cystadleuaeth newydd Yr oedd newyddion gwell yng nghystadleuaeth newydd sbon Ysgoloriaeth Emyr Feddyg lle daeth Menna Medi, darlledwraig sy鈥檔 awr yn swyddog marchnata gyda chwmni recordiau Sain. Yn dod o Lanuwchllyn yn wreiddiol nid yn unig enillodd Menna fil o bunnau o wobr ariannol ond bydd yn cael cyfle i dreulio chwe mis gyda llenor cydnabyddedig i鈥檞 rhoi ar ben y ffordd ynglyn a sgrifennu. Yr oedd naw wedi cystadlu mewn cystadleuaeth ar gyfer rhai nad oeddynt wedi cyhoeddi unrhyw waith o鈥檙 blaen.
| |
© MMI |
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |